Rhybudd yr heddlu wedi golygfeydd "annymunol" Bae Caerdydd

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood

Disgrifiad o'r llun, Pobl yn casglu ynghyd ym Mae Caerdydd yn yr haul ar nos Sadwrn

Mae Heddlu'r De wedi cyflwyno gorchmynion gwasgaru ym Mae Caerdydd yn dilyn yr hyn sydd wedi cael eu disgrifio fel 'golygfeydd annymunol'.

Cafodd yr heddlu eu galw i "sawl achos" o ymddygiad anghymdeithasol nos Sadwrn, ar y penwythnos cyntaf ers i'r cyfyngiadau gael eu llacio yng Nghymru.

Cafodd "nifer fach o bobl" eu harestio am fod yn feddw ​​ac yn afreolus.

Nawr mae swyddogion wedi cyflwyno cyfyngiadau ar grwpiau sy'n ymgynnull y tu allan i Ganolfan Mileniwm Cymru a Chei'r Forforwyn.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood

Disgrifiad o'r llun, Yn ôl Heddlu'r De bu'n rhaid iddyn nhw fynd i'r afael ac ymddygiad anghymdeithasol

Dywedodd yr heddlu fod tyrfa fawr yno nos Sadwrn, gyda nifer yn anwybyddu'r rheolau cadw pellter.

Mae'r heddlu'n dweud fod alcohol yn ffactor ac y byddan nhw'n siarad â thafarndai a bwytai i sicrhau nad yw'r un peth yn digwydd eto.

Dyma'r eildro i orchymyn gwasgaru gael ei gyflwyno o amgylch Bae Caerdydd yn ystod y mis diwethaf, ar ôl i dorf ymgasglu yno ym mis Mehefin.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood

Disgrifiad o'r llun, Mae gan yr heddlu bwerau i wasgaru pobl yn ardal Bae Caerdydd

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood

Disgrifiad o'r llun, Daeth grwpiau mawr at ei gilydd ym Mae Caerdydd wedi i gyfyngiadau yn gysylltiedig a Covid-19 gael eu codi

"Roedd rhai golygfeydd annymunol ym Mae Caerdydd ddoe a bu'n rhaid i swyddogion fynd i'r afael a'r sefyllfa ac arestio unigolion," meddai'r Prif Arolygydd Michelle Conquer.

"Roedd llawer ohono'n cael ei ddylanwadu gan alcohol, felly rydyn ni'n gweithio gyda'r gwerthwyr trwyddedig ac yn cyflwyno mesurau plismona ychwanegol i sicrhau nad ydy'r golygfeydd yn cael eu hailadrodd.

"Ochr yn ochr â'r gorchmynion byddwn yn cynnal presenoldeb gweladwy a bydd ein swyddogion yn mynd ati'n syth i fynd i'r afael ag unrhyw faterion a allai godi.

"Mae'n bwysig bod Bae Caerdydd yn parhau i fod yn lle i bawb ei fwynhau heb y bygythiad o gael eich brawychu neu'n poeni am weithredoedd pobl eraill," ychwanegodd Ms Conquer.

"Ni fydd ymddygiad o'r fath yn cael ei oddef."