Disgyblion h欧n i gymysgu dan gynllun newydd ysgolion

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'n bosib y bydd angen i ddisgyblion h欧n gymysgu o fewn eu gr诺p blwyddyn cyfan pan fydd ysgolion yn dychwelyd ym mis Medi, yn 么l Llywodraeth Cymru.

Mae hynny'n angenrheidiol i alluogi disgyblion i astudio'r ystod lawn o bynciau TGAU a Safon Uwch, yn 么l y canllawiau diweddaraf sydd wedi eu cyhoeddi gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.

Yn 么l Llywodraeth Cymru, y brif egwyddor yw lleihau cyswllt rhwng disgyblion a staff.

Mae'r hefyd yn cynghori ar amseroedd gwersi a chynnig cinio ysgol, ond nid yw'n rhoi manylion am drafnidiaeth gyhoeddus.

Yn 么l y canllaw, mae'n bosib y bydd modd cadw disgyblion uwchradd iau a disgyblion cynradd mewn "grwpiau cyswllt" maint dosbarth.

Ond mae'r canllawiau yn caniat谩u i ysgolion ystyried gweithredu "grwpiau cyswllt" maint blwyddyn ar gyfer y disgyblion hynny, os yw'n effeithio ar addysgu neu os yw'n anodd yn ymarferol.

I ddisgyblion h欧n, fe fydd y pwyslais ar bellhau, ond gyda dysgwyr iau y ffocws fydd cadw grwpiau ar wah芒n.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Daw'r canllaw newydd ar 么l i Kirsty Williams gyhoeddi y byddai ysgolion yn agor yn llawn ym mis Medi

Mae'r llywodraeth hefyd yn dweud y bydd mynychu'r ysgol yn orfodol o 14 Medi ymlaen.

Fodd bynnag, mae'r llywodraeth yn cyfaddef y byddai'n "anodd" i awdurdod lleol neu ysgol roi dirwy neu weithredu os yw disgyblion yn peidio 芒 mynychu'r ysgol, gan ddweud y bydd yn monitro'r sefyllfa.

Dyw'r canllawiau ddim yn darparu unrhyw fanylion pellach ar drafnidiaeth ysgol, gan nodi y bydd y cyngor diweddaraf ar drafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir ac y bydd yn "gweithio gydag awdurdodau lleol ar yr effaith y bydd hyn yn ei gael ar gludiant ysgol".

Yn unol 芒 chanllawiau sydd eisoes wedi cael eu cyhoeddi, mae'n cynghori y dylai rhieni a gofalwyr fynd 芒'u plant yn 么l ac ymlaen i'r ysgol, gan ddefnyddio "teithio llesol" lle bo modd.

Dadansoddiad Gohebydd Addysg a Theulu 麻豆官网首页入口 Cymru, Bethan Lewis

Un cwestiwn amlwg ar 么l cyhoeddiad y Gweinidog Addysg yr wythnos ddiwethaf oedd sut oedd modd darparu cyrsiau TGAU a Safon Uwch i grwpiau cyson o 30.

Mae'r canllaw yn cynnig ateb, sef caniat谩u cymysgu mewn grwpiau tipyn mwy - y flwyddyn gyfan os oes angen.

Gyda'r feirws yn ymddangos fel petai dan reolaeth, mae yna dipyn o hyblygrwydd a mwy o bwyslais ar wneud yr hyn sy'n ymarferol i ddarparu addysg a chwricwlwm eang.

Dilyn mesurau "pan fo hynny'n bosib", yw'r neges gyson.

Ond nid yr hen normal yw hyn - mae'r cyfundrefnau glendid yn aros, mewn rhai ysgolion y coridorau unffordd, ac mae'n debygol bydd rhaid i grwpiau ddechrau a gorffen ysgol ar adegau gwahanol.

Ac wrth gwrs, trefniadau ar gyfer yr ymateb petai yna achosion o'r feirws yn codi mewn ysgol.

Fydd oriau'r ysgol yn newid?

Er mwyn cadw grwpiau ar wah芒n, mae'n dweud y dylai ysgolion ystyried addasu amseroedd cychwyn a gorffen ond mae'n nodi na ddylai hyn leihau amser dysgu.

Yn 么l y llywodraeth fe allai hyn "gynnwys cywasgu/gwasgaru cyfnodau rhydd neu amser egwyl" neu "gadw hyd y dydd yr un peth ond dechrau a gorffen yn hwyrach" er mwyn osgoi yr adegau prysuraf.

Er nad yw rhai ysgolion wedi bod yn darparu cinio yn ystod yr wythnosau diwethaf, bydd disgwyl i ysgolion agor eu ceginau yn llawn ym mis Medi.

Er gwaethaf y ffaith bod rhai ysgolion wedi llacio polis茂au gwisg ysgol yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru'n dweud y byddai'n "annog pob ysgol i ddychwelyd i'w polis茂au gwisg arferol yn nhymor yr hydref".

Mae'r llywodraeth hefyd yn dweud ei bod yn bwriadu "darparu cyflenwad o gitiau profi i bob ysgol a lleoliad" er mwyn sicrhau bod "hyblygrwydd yn y profion sydd ar gael".