麻豆官网首页入口

Dim treth ar brynu tai hyd at 拢250,000 yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Ar werth
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ar gyfartaledd, 拢161,719 ydy pris t欧 yng Nghymru, sydd eisoes yn is na'r trothwy i dalu treth

Mae'r Dreth Trafodiadau Tir yn cael ei newid yng Nghymru, gan olygu na fydd yn rhaid talu treth ar tua 80% o'r tai sy'n cael eu gwerthu yma.

Fe wnaeth y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans gyhoeddi'r "gwyliau" ar y dreth yng nghynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru brynhawn Mawrth.

Bydd y newid yn golygu na fydd yn rhaid i unrhyw gartref gwerth llai na 拢250,000 dalu treth.

Dywedodd y gweinidog y byddai'r newid yn dod i rym ar 27 Gorffennaf er mwyn cyd-fynd ag ailagor y farchnad dai yn llawn yng Nghymru.

Yn 么l Ms Evans bydd y "gwyliau treth" mewn grym nes 31 Mawrth 2021.

Ail gartrefi ddim yn gymwys

Ond dywedodd "yn wahanol i Loegr, ni fydd y trothwy newydd yn weithredol ar gyfer prynu rhagor o gartrefi, fel tai gwyliau neu ail gartrefi".

"Bydd yn cefnogi pobl sy'n gobeithio prynu eu cartref cyntaf neu rheiny sy'n gobeithio symud t欧," meddai.

"Bydd yn cynnig cymorth i'r rheiny allai fod wedi cael eu heffeithio gan heriau economaidd y pandemig."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans y cyhoeddiad brynhawn Mawrth

Ar hyn o bryd, mae tai sy'n cael eu gwerthu am rhwng 拢180,000 a 拢250,000 yn talu 3.5% o werth y t欧 mewn treth.

Er enghraifft, pris t欧 yng Nghaerdydd ar gyfartaledd ydy 拢212,063, a pe byddech chi'n prynu t欧 am y pris hwnnw fe fyddech chi'n talu 拢1,262.21 mewn treth.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid bod y trothwy newydd yn golygu na fyddai'n rhaid talu treth ar tua 80% o'r gwerthiannau tai yng Nghymru.

Trothwy o 拢500,000 dros y ffin

Treth stamp yw'r enw ar gyfer y dreth yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, ond mae'n cael ei alw'n Dreth Trafodiadau Tir yng Nghymru am ei fod wedi'i ddatganoli.

Cafodd y system newydd ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ym mis Hydref 2017, a daeth i rym yn Ebrill 2018.

Mae Canghellor y DU, Rishi Sunak, eisoes wedi cyhoeddi gwyliau ar dalu trethi ar brynu tai yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, ond yno does dim rhaid talu unrhyw dreth ar dai hyd at 拢500,000.

Mae Llywodraeth Yr Alban wedi cyhoeddi y bydd cynllun tebyg i'r un yng Nghymru yn dod i rym yr wythnos nesaf, gyda'r trothwy wedi'i osod ar 拢250,000 yno hefyd.