Sector celfyddydau 'ar ei liniau ac angen eglurder'

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Mae'r sector celfyddydol "daer angen" cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch ariannu sector yng nghanol y pandemig coronafeirws, yn 么l Plaid Cymru.

Fe roddodd Lywodraeth y DU 拢59m i Gymru ar gyfer y sector ddechrau Gorffennaf ond dyw Llywodraeth Cymru heb gadarnhau eto sut mae'n bwriadu gwario'r arian.

Yn 么l llefarydd diwylliant Plaid Cymru, yr Aelod Senedd Sian Gwenllian, mae'n "annerbyniol" fod dim manylion pellach hyd yn hyn, er i'r Prif Weinidog, Mark Drakeford ddweud at 17 Gorffennaf ei fod yn agos iawn at wneud cyhoeddiad.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n "gwneud cyhoeddiad yn fuan iawn".

Trafod diswyddiadau

Dywedodd Ms Gwenllian fod y sector "ar ei liniau" a bod yr "oedi yn awgrymu un o ddau bosibiliad - ddiffygion difrifol gan Lywodraeth neu amharodrwydd i gefnogi'r sector celfyddydau yng Nghymru".

Ychwanegodd fod rhannau o'r sector eisoes yn trafod diswyddiadau gyda staff, ac "os nad yw cymorth ariannol yn cael ei gynnig yn fuan, bydd rhannau o'r diwydiant yn diflannu dros nos - gan gymryd blynyddoedd i adfer".

Mewn llythyr yr wythnos diwethaf, dywedodd Cyngor Celfyddydau Cymru: "Rydym yn dal yn aros am eglurder gan Lywodraeth Cymru ar y darlun i Gymru. Ni allwn gymryd arnom ar hyn o bryd y bydd y swm cyfan ar gyfer Cymru ar gael i'r sector celfyddydol."

Ffynhonnell y llun, Kirsten McTernan

Disgrifiad o'r llun, Mae'r cyfarwyddwr, Angharad Lee, yn canolbwyntio ar gynhyrchu sioeau cerdd gyda'i chwmni Cynyrchiadau Leeway

Un sydd hefyd yn galw am fwy o fanylion yw Angharad Lee, cyfarwyddwr theatr, sioeau cerdd ac opera sy'n gweithio ar ei liwt ei hun.

"Rydyn ni angen eglurder ble mae'r arian yna'n mynd achos fedar neb gynllunio dim byd nes ein bod yn gwybod pa arian sy'n mynd lle," meddai.

Oni bai ei bod wedi derbyn grant sefydlogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru, dywed Ms Lee y byddai'n gadael y sector.

"Mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu r诺an neu bydd llawer o bobl yn gadael y sector achos ni allen nhw fforddio byw [o fewn y sector]. Mae pobl yn colli ffydd yn y sector oherwydd maen nhw'n teimlo nad ydy'r Llywodraeth yn gwerthfawrogi'r diwydiant."

Wrth ymateb i sylwadau Plaid Cymru dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cwblhau trefniadau cyllido a byddwn yn gwneud cyhoeddiad yn fuan iawn."