Nofwyr Aberdyfi yn 'lwcus iawn' i gael eu hachub o'r m么r

Disgrifiad o'r fideo, Arwel Jones: "Roedden nhw'n lwcus iawn ein bod ni i gyd yna"

Roedd gwirfoddolwr gyda gwasanaeth y bad achub yn lwcus i "fod yn y man iawn ar yr amser iawn" pan lwyddodd i helpu achub tri o bobl o'r m么r yn Aberdyfi.

Llwyddodd Arwel Jones, 30, i achub dau lanc yn eu harddegau, a dyn yn ei 20au.

Mae mam un bachgen 13 oed gafodd ei achub wedi dweud nad oes modd rhoi digon o ddiolch i'r gwasanaethau brys.

'Un o'r hogiau dan y d诺r'

Dywedodd Mr Jones, sy'n byw yn y pentref: "Roeddwn yn cerdded ar hyd y traeth gyda'r teulu pan wnaeth fy ngwraig Kate sylwi ar ddau berson yn y d诺r, yna fe welodd rhywun yn ei ddillad yn rhedeg i'r m么r.

"Dyna pan oeddwn yn gwybod eu bod mewn trafferth."

Disgrifiad o'r llun, Roedd Rian Bradburn, canol, yn anymwybodol pan gafodd ei dynnu i'r m么r yn Aberdyfi

Dywedodd Mr Jones iddo weld ffl么t achub ar y traeth, gafael ynddo a rhedeg i mewn i'r d诺r a nofio 100 troedfedd (30 metr) tuag ag y nofwyr.

"Wrth i mi agos谩u o' ni'n gallu gweld un o'r hogiau yn mynd dan y d诺r," meddai.

"Nes i weiddi arnynt i arnofio ar eu cefnau.

"Llwyddodd dau i wneud, ond roedd yn llall mewn gormod o banig gan lyncu d诺r."

'Lwcus iawn'

Erbyn iddo gyrraedd - roedd un wedi mynd dan y d诺r.

Llwyddodd i'w dynnu uwchben y tonnau, a rhoi'r tri ar y ffl么t achub.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r traeth yn Aberdyfi yn gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr

"Yn ffodus iawn roedd rhai o fy ffrindiau wrthi yn hwylfyrddio a barcuta ar y pryd.

"Llwyddais i gael eu sylw ac fe wnaeth yr hwylfyrddiwr lwyddo i godi'r un oedd mewn mwyaf o drafferth. "Fe wnaeth ffrind arall helpu'r gweddill ohonyn nhw yn 么l."

Llwydodd yr hwylfyrddiwr i roi cymorth ac adfywio un o'r nofwyr gan roi CPR tra dal allan yn y m么r.

"Fe wnaeth o gyfogi ac yna dechrau anadlu eto. Roedd o'n lwcus iawn."

Dywedodd Mr Jones i ddau ambiwlans awyr gyrraedd ymhen 20 munud, ac yna hofrennydd Gwylwyr y Glannau.

'Diolch am achub fy mab'

Roedd Rian Bradburn, 13, yn anymwybodol pan gafodd ei dynnu o'r d诺r gan un o'r achubwyr.

Cafodd ei adfywio cyn cael ei hedfan i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Disgrifiad o'r llun, Mae Rian bellach wedi gwella digon i allu gadael Ysbyty Gwynedd a dychwelyd adref i'r Amwythig

Dywedodd ei fam, Sarah Lewis, nad yw ei mab yn cofio llawer, ond ei fod yn chwarae yn y d诺r.

"Cyn pen dim cafodd ei dynnu lawr gan y lli' a doedd o ddim yn gallu nofio 'n么l i'r wyneb," meddai.

"Alla i ddim meddwl be' fyddai wedi digwydd heb ymateb y gwasanaethau brys y diwrnod hwnnw, alla i ddim diolch ddigon iddyn nhw am achub fy mab."

Mae Rian wedi bod yn gwella yn yr ysbyty, ond mae bellach yn ddigon da i fynd adref i'r Amwythig.

Ychwanegodd Ms Lewis: "'Da ni'n teimlo mor lwcus bos Rian dal hefo ni, gallai popeth fod wedi troi allan mor wahanol."