麻豆官网首页入口

Cronfa 拢53m i ymateb i 'heriau digynsail' y celfyddydau

  • Cyhoeddwyd
TheatrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe allai theatrau, orielau a lleoliadau cerddoriaeth wneud cais am arian trwy'r gronfa

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi 拢53m o gefnogaeth i'r sector celfyddydau a diwylliant.

Bydd y gronfa ar gael i unigolion a sefydliadau er mwyn delio gydag effaith y pandemig coronafeirws.

Ddechrau'r mis cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai'n gwario 拢1.57bn ar y celfyddydau, a bod 拢59m ar gael i Lywodraeth Cymru o ganlyniad i hynny.

Roedd Plaid Cymru wedi beirniadu Llywodraeth Cymru ddydd Mawrth am beidio 芒 chyhoeddi sut roedden nhw'n bwriadu gwario'r arian hynny.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas bod y gronfa yn ymateb i'r "heriau digynsail" sydd wedi'u hachosi i'r diwydiannau creadigol gan y pandemig.

Pwy sy'n gallu gwneud cais?

Mae'r Gronfa Cydnerthedd Diwylliannol ar gael i unigolion a sefydliadau ym meysydd:

  • Theatrau;

  • Orielau;

  • Lleoliadau cerddoriaeth, busnesau ac unigolion;

  • Safleoedd treftadaeth;

  • Amgueddfeydd lleol, llyfrgelloedd a gwasanaethau archif;

  • Digwyddiadau a gwyliau;

  • Sinem芒u annibynnol.

Mae yna groeso gan gynrychiolwyr byd y theatr, yn sgil ofnau fod y sector "ar ymyl y dibyn" wedi i sefydliadau ac unigolion golli incwm dros nos am fod rhaid cau theatrau a chanslo digwyddiadau byw.

Dywedodd Cyfarwyddwr Theatr Genedlaethol Cymru, Arwel Gruffydd wrth y Post Cyntaf, eu bod nhw wedi eu heffeithio llai yn y tymor byr na sefydliadau 芒 chostau cynnal adeiladau.

Ond mae'r sector gyfan "ar ei liniau", meddai, yn niffyg gwerthiant tocynnau a chanslo perfformiadau ac mae rhai sefydliadau'n rhagweld "diswyddiadau enfawr yn y misoedd nesa'".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r sector ar ei liniau, medd Arwel Gruffydd

"Fydd y sector wedi diflannu yn ystod y misoedd nesa' os nad ydi'r arian yma'n cael ei ryddhau ar frys er mwyn gwarchod yr arbenigedd sydd wedi casglu dros nifer o flynyddoedd," meddai.

"Mae adfer y sector ar 么l ei diflaniad yn llawer iawn drytach na'i gwarchod hi heddiw, ac mae hynny'n wir am sefydliadau ac unigolion."

'Mae'n dorcalonnus'

Yn 么l yn actor Steffan Donnelly, aelod o Dasglu Llawrydd Cymru a gafodd ei sefydlu i gefnogi unigolion sy'n gweithio ar eu liwt eu hunain ym myd y celfyddydau, mae nifer eisoes wedi cael swyddi mewn sectorau eraill.

Dywedodd fod 72% o weithlu byd y theatr yn weithwyr llawrydd a bod eu sefyllfa nhw'n arbennig o fregus. Mae rhai "wedi bod yn greadigol" gan lwyddo i sicrhau ambell gomisiwn, meddai, ond mae "eraill yn d'eud bod rhaid iddyn nhw feddwl gwerthu'r t欧".

"Mae'n dorcalonnus," ychwanegodd. "Rhain ydi'r gwaed sy'n gwthio trw' gwythienna'r sector ac mae angen help brys.

"'Dan ni angen gwybod sut fydd y ceisiadau yma'n gweithio a phryd fydd yr arian yma ar gael."

Pam ddim y 拢59m llawn?

Dadansoddiad Huw Thomas, Gohebydd Cyfryngau a Chelfyddydau

Er bod y gronfa hon werth 拢53m, mae'r llywodraeth yn dweud bod dros 拢59m yn cyrraedd y sector celfyddydau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod eisoes wedi darparu 拢18m ar gyfer diwylliant a chwaraeon ar ddechrau'r pandemig, ond mae hynny'n cynnwys arian gafodd ei roi i fudiadau chwaraeon hefyd.

Aeth tua hanner hynny - 拢9m - i'r celfyddydau, gyda'r rhan helaeth wedi ei dynnu o gyllidebau eraill.

Er enghraifft, roedd yn cynnwys tua 拢5m o arian loteri fyddai wedi bod ar gael i'r sector mewn cyfnod arferol.

Bydd y gronfa yn cael ei darparu ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Mae'r termau yn cynnwys "contract diwylliannol", sy'n ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr addo "gwaith a th芒l teg a chynaliadwyedd".

Bydd hefyd yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ymrwymo i fynd i'r afael ag amrywiaeth ar fyrddau a chynaliadwyedd amgylcheddol.

Does dim gwybodaeth eto yngl欧n 芒 phryd a sut y bydd modd i wneud cais am gymorth, na phryd y bydd y cymorth hynny yn cael ei ddarparu.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Mae Plaid Cymru wedi croesawu'r cyhoeddiad, ond dywedodd llefarydd y blaid, Si芒n Gwenllian AS ei bod yn "cwestiynu beth ddigwyddodd i'r 拢6m - o fewn mis, mae 拢59m wedi ei leihau i 拢53m a does dim ceiniog wedi cyrraedd y sector".

Galwodd ar y llywodraeth i ddosbarthu'r arian "cyn gynted 芒 phosibl".

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi ychwanegu at yr arian oedd ar gael "yn hytrach na than-ariannu'r sector o 拢6m".

Ychwanegodd David Melding AS bod angen tro pedol ar y penderfyniad hwnnw, a bod y sector angen gwybod "ar frys" sut i wneud cais am yr arian.