Angen mwy o orfodaeth gwisgo mygydau ar drenau a bysiau

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood

  • Awdur, Rhys Williams
  • Swydd, Gohebydd 麻豆官网首页入口 Cymru

Dyw gwisgo mygydau ar drafnidiaeth gyhoeddus ddim yn cael ei orfodi'n ddigonol yn 么l un sydd wedi goroesi'r coronafeirws.

Mae Wayne Withers, 50 o Aberpennar, Rhondda Cynon Taf, yn gwrthod defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus oherwydd bod nifer fawr o bobl yn "anwybyddu" y rheolau.

Mae mygydau bellach yn orfodol ar drenau a bysiau yng Nghymru.

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru fod staff wedi bod yn gwrthod gadael i deithwyr sydd heb fwgwd fynd ar eu trenau. Ond mae'r cwmni bysiau First Cymru yn dweud eu bod yn "osgoi" gwneud hyn.

Agwedd pobl yn ei 'wylltio'

I Mr Withers, mae realiti coronafeirws yn rhy gyfarwydd o lawer.

Ym Mis Ebrill aeth i'r ysbyty a threuliodd chwe wythnos yn "ymladd am bob anadl" ar 么l cael y feirws.

Disgrifiad o'r llun, Dyw Wayne Withers ddim am ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus bellach am fod pobl yn "anwybyddu" y rheolau am wisgo mygydau

Nawr mae wedi dychwelyd i'r gwaith a byddai fel arfer yn mynd ar y tr锚n i Gaerdydd. Ond mae wedi penderfynu peidio oherwydd nad yw'n "ddiogel".

"Ddydd Gwener ddiwethaf pan o'n i yn dod yn 么l o Gaerdydd roedd 13 o bobl yn y cerbyd a fi oedd yr unig un oedd yn gwisgo gorchudd wyneb," meddai.

"Yn anffodus nid yw'n cael ei blismona mewn unrhyw ffordd. Dyw Heddlu Trafnidiaeth Prydain ddim yn cerdded trwy unrhyw gerbydau ac mae tri o swyddogion [y tr锚n] wedi dweud wrthyf eu bod wedi cael gorchymyn i beidio 芒 cherdded trwy'r cerbydau."

Dywedodd Mr Withers fod ei brofiad gyda'r afiechyd wedi gwneud y diffyg cydymffurfio hyd yn oed yn fwy rhwystredig.

"Mae'n fy ngwylltio yn bennaf dim achos rwy'n gwybod sut brofiad yw cael y clefyd hwn. Rwy'n gwybod sut beth yw gorwedd yno gan feddwl, 'Ydw i'n mynd i oroesi?'

"Yna mae gennych chi grwpiau o bobl sydd ag agwedd hollol ddirmygus tuag ato."

25% yn fwy ar y trenau

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru fod eu staff wedi gwrthod mynediad i deithwyr sydd ddim yn gwisgo mygydau, ond bod gorfodi dirwyon yn fater i Heddlu Trafnidiaeth Prydain.

Fodd bynnag, dywedodd y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan, mai'r sector "trafnidiaeth a'r heddlu oedd yn gyfrifol am orfodi".

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru eu bod wedi gweld cynnydd o 25% yn nifer y teithwyr ers i wisgo mygydau ddod yn orfodol ar 27 Gorffennaf a "chynnydd cyffredinol" yn y nifer sy'n cydymffurfio 芒 gwisgo masgiau.

"Os nad ydyn nhw [yn gwisgo masgiau] neu os nad oes ganddyn nhw rai mae'n rhaid i ni eu gwrthod," meddai'r Cyfarwyddwr Diogelwch, Leighton Powell.

"Rydyn ni'n cydnabod bod yna eithriadau ac ni all pawb, am rai rhesymau iechyd neu feddygol, eu gwisgo, ond maen nhw'n dal i allu teithio."

Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain wedi cael cais am sylw.

Beth oedd y farn yn Abertawe?

Disgrifiad o'r llun, Yn 么l Gloria Jones mae gyrwyr wedi bod yn mynnu bod teithwyr yn gwisgo mygydau

Roedd y mwyafrif o bobl oedd yn aros yng ngorsaf fysiau Abertawe yn credu bod mwyafrif y teithwyr yn dilyn y rheolau.

"Rwy'n mynd yn y bore i'r gwaith ac mae pawb yn gwisgo mwgwd," meddai un teithiwr. "Ac os nad ydych chi'n gwisgo un, bydd y gyrwyr yn dweud wrthych chi."

Dywedodd un arall fod pawb yn cydymffurfio ond ychwanegodd: "Mae ychydig yn anghyfforddus i'w wisgo ac os ydych chi'n gwisgo sbectol mae yn gallu stemio."

"Roedd dynes eisiau dod ymlaen y bore yma heb fwgwd ac fe wrthododd y gyrrwr," meddai Gloria Jones.

"Rwyf hefyd wedi gweld dyn yn dod ar y bws a dywedodd y gyrrwr wrtho i roi'r mwgwd dros ei drwyn yn ogystal 芒'i geg."

Dywedodd First Cymru eu bod wedi dweud wrth eu gyrwyr i osgoi atal teithwyr. Dau adroddiad mae'r cwmni wedi derbyn am bobl yn gwrthod gwisgo masgiau medden nhw.

"Yr adroddiadau rydyn ni'n clywed yw bod gennym ni safon uchel o gydymffurfio," meddai Mark Jacobs o'r cwmni.

"Rydyn ni'n ceisio osgoi gwrthod gadael i bobl deithio [oherwydd] dydyn ni ddim eisiau i unrhyw un bregus fod ar ochr y ffordd.

"Ond rydyn ni hefyd eisiau i'n cwsmeriaid wrando ar y cyngor y mae'r llywodraeth yn ei roi.

"Pe bai rhywun yn parhau i beidio gwisgo'r mwgwd yna fe allai ein gyrwyr wrthod mynediad. Yna mae risg o wrthdaro ac yn amlwg mae angen i ni ystyried diogelwch ein gyrwyr hefyd."