麻豆官网首页入口

Wrecsam 芒'r nifer uchaf o farwolaethau'r wythnos ddiwethaf

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Maelor, Wrecsam

Wrecsam oedd 芒'r nifer uchaf o farwolaethau coronafeirws yn yr wythnos ddiwethaf o blith holl awdurdodau lleol Cymru a Lloegr, yn 么l y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Roedd yna naw marwolaeth yn y sir hyd at 31 Gorffennaf, wedi'u cofrestru hyd at 8 Awst - pob un yn yr ysbyty.

Ond yn 么l un o gyfarwyddwyr y bwrdd iechyd sy'n gwasanaethu gogledd Cymru, does dim achos newydd o'r feirws wedi'u cofnodi yn Ysbyty Maelor, Wrecsam yn y 72 awr ddiwethaf.

Ychwanegodd Dr Kate Clark, cyfarwyddwr gofal eilaidd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: "Bore 'ma, roedd yna 36 o achosion Covid-19 wedi'u cadarnhau yn yr ysbyty.

"Mae yna nifer fach o hyd yn Ysbyty Cymunedol Glannau Dyfrdwy, Ysbyty'r Waun ac Ysbyty Cymunedol Yr Wyddgrug."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn 么l datganiad wythnosol yr ONS, roedd yna gyfanswm o 14 o farwolaethau coronafeirws ar draws gogledd Cymru yn yr wythnos ddiwethaf.

Roedd hynny'n cynnwys tri yn Sir Y Fflint a dau yn Sir Ddinbych.

Roedd yna un achos yn Sir Caerffili ac un ym Mhowys, sef yr unig farwolaeth mewn cartref gofal.

Ni chafodd yr un farwolaeth ei chofnodi yn y cyfnod dan sylw o fewn 17 o siroedd Cymru.

Mwy o farwolaethau na Chaerl欧r

Caerl欧r oedd yn ail i Wrecsam yn y tabl wythnosol trwy Gymru a Lloegr ar 么l cofnodi pum marwolaeth.

2,521 yw cyfanswm y marwolaethau yng Nghymru hyd at 31 Gorffennaf medd yr ONS, sy'n cynnwys marwolaethau ym mhobman, gan gynnwys cartrefi gofal a chartrefi'r henoed.

Mae nifer y marwolaethau ychwanegol, sy'n cymharu niferoedd pob marwolaeth o ba bynnag achos meddygol o fewn wythnosau penodol o'r flwyddyn, yn is erbyn hyn yng Nghymru na'r cyfartaledd dros bum mlynedd.

Roedd yna 531 o farwolaethau yn yr wythnos ddiwethaf - 41 yn llai na'r arfer yn ystod yr wythnos dan sylw.