Richard Holt: Cariad am deisennau ac Ynys M么n

Ffynhonnell y llun, S4C

"Dw i ddim yn gwybod os dw i wedi methu rhywbeth ond mae'r coronafeirws dal yma so dw i ddim yn deall pam 'da ni'n rhuthro i agor bob man.

"Dw i wedi digalonni bod y byd 'ma i gyd jyst yn revolvio rownd pres."

Mae'r locdown yn araf dod i ben ar draws Cymru ond un sy'n nerfus am ailagor ei fusnes yw'r cogydd patisserie Richard Holt sy' wedi agor ystafell de moethus yn yr hen storfa graen ym Melin Llynnon, Llanddeusant ar Ynys M么n.

Mae'r ystafell de wedi bod ar gau ers cychwyn y cyfnod clo a Richard yn teimlo nad yw'n barod i agor er mwyn gwneud arian eto: "Dyna 'di'r realiti a dw i'n deall mai dyna pam [er mwyn gwneud pres] mae llefydd yn agor eto.

"Mae mor drist mai dyna pam."

Am fod ymwelwyr wedi dechrau dod i Felin Llynnon i weld yr unig felin wynt weithredol yng Nghymru eto, mae Richard wedi agor rhan o'r safle sydd yn yr awyr agored ond wedi cadw'r ystafell de ar gau.

"Mae pobl yn dod yma o bob man achos maen nhw'n b么rd.

"Hwn fydd y pandemig cynta' yn hanes pobl lle fydd pobl yn marw oherwydd fod pobl eraill yn b么rd.

"Mae o mor confusing, dw i'n teimlo'n unig ofnadwy yn meddwl hynna achos mae cannoedd o bobl yn dod i'r felin bob diwrnod r诺an."

Ynys M么n a'r feirws

Dywedodd Richard, sy' wedi gweithio yn rhai o westai mwyaf moethus Llundain, gan gynnwys bwyty seren Michelin Marcus Wareing, The Gilbert Scott: "Sb茂a be' 'nath ddigwydd yn Llangefni. 'Di hwn ddim wedi diflannu - mae efo ni am byth r诺an.

"Y rheswm dw i wedi agor [un rhan o'r busnes] oedd achos oedd pobl jest yn dod eniwe. Hefyd dw i yn sylwi mae'r coronafeirws 'ma am hir a rhaid ni ddysgu addasu.

"Hwn 'di'r bit anodd lle mae llefydd eraill yn dechrau agor a pobl yn disgwyl ni i agor hefyd.

Y cyfnod clo

"Mae wedi bod yn anodd dros ben - 10 mis ers i fi agor Melin Llynnon, dyna pryd 'nath y pandemig hitio.

"Swn i ddim wedi cadw'n sane heb Kate, fy nghariad i - mae hi a fi wedi gwario'r locdown cyfan efo'n gilydd ac wedi mwynhau o yn ofnadwy.

"O'n ni'n busnes babi - so oedd 'na bach o sioc. Ond dw i bron yn ddiolchgar 'nath o ddigwydd blwyddyn yma fel bod fi wedi cael 10 mis i neud enw i fy hun."

Ac yn sicr mae Richard wedi creu enw i'w hun, gyda'r ystafell de yn llawn bob dydd cyn y cyfnod clo a phobl yn ymweld o bob cwr a chornel o Gymru a thu hwnt.

Ffynhonnell y llun, Richard Holt

Disgrifiad o'r llun, "O'n i'n meddwl - 26 ydw i, fydde'r cyngor byth yn rhoi Melin Llynnon i fi"

Mae Richard bellach wedi cymryd drosodd hen felin dd诺r gyda'r bwriad i greu melin sy'n cynhyrchu blawd ac hefyd amgueddfa sy'n dathlu bywyd Sir F么n.

Mae'r cogydd yn ddiolchgar iawn i bobl yr ardal am ei lwyddiant: "Mae llefydd fel arfer yn ddistaw dros gaeaf yn enwedig ar Ynys M么n ond 'nath yr opposite ddigwydd i fi lle oeddan ni'n brysurach yn y gaea' na'r haf.

"Alla i ddim diolch i bobl lleol ddigon. O'n i ddim yn meddwl fod cacennau mor posh mynd i fynd lawr mor dda."

Ffynhonnell y llun, S4C

Disgrifiad o'r llun, Rhai o deisennau 'posh' Richard

Mae Richard yn angerddol am hanes a bywyd gwyllt Ynys M么n sy'n ysbrydoli ei waith ers iddo symud n么l i Gymru yn Chwefror 2018 o Lundain. Roedd ei swydd yno fel prif patissier ym mwyty The Gilbert Scott yn golygu gweithio oriau hir iawn.

Dywedodd Richard: "Ro'n i'n gweithio yn Llundain yn y bwytai ofnadwy o posh 'ma ac o'n i wedi laru.

"Roedd y gwaith yn anhygoel o stressful a blinedig. Es i n么l i Ynys M么n am fr锚c a sylwais i fy mod i wrth fy modd gydag Ynys M么n a byth eisiau gadael eto - mae'n le anhygoel a hudolus.

"O'n i ddim yn credu'r lle, oedd o fel bod llygaid fi wedi agor. Dw i wedi tyfu fyny yma ond nes i ddim sylwi bod yr awyr mor ffres.

Cychwyn y busnes

"Ond y broblem oedd mod i wedi arbenigo mewn super high end patisseries a dyw hynny ddim wedi cael ei weld ar Ynys M么n o'r blaen."

Dyw hyn ddim wedi stopio Richard ac mi lwyddodd i gael y les ar Melin Llynnon yn 26 oed, llwyddiant sy'n golygu llawer iddo: "Oedd o fatha bod fi wedi curo'r loteri. O'n i ddim yn credu'r peth.

"O'n i'n meddwl - 26 ydw i, fydde'r cyngor byth yn rhoi Melin Llynnon i fi. O'n i'n deall fod cwmn茂au mawr yn mynd amdano fo. Wedyn nath o glicio yn pen fi - pam ddim?

"O'n i'n teimlo'n passionate am Ynys M么n ac oedd y ffaith bod nhw am gau o lawr yn annog fi i fynd ymlaen.

"Nes i ddysgu bob dim am Melin Llynnon a melinau gwynt ar Ynys M么n a nes i wisgo fyny mewn three-piece suit tweed i edrych fel melinydd o'r diwrnod ar gyfer pob cyfarfod gyda'r cyngor."

Ffynhonnell y llun, Richard Holt

Stori i bob cacen

Yn ystod y cyfnod clo mae Richard wedi bod yn ffilmio cyfres newydd i S4C. Yn Anrhegion Melys Richard Holt, a fydd yn cael ei darlledu ar S4C ym mis Tachwedd, mae'n creu teisennau arbennig i bobl sy' wedi bod trwy amseroedd anodd yn ystod Covid, i ddathlu achlysur arbennig neu jysd i ddweud diolch.

Dywedodd Richard: "Mae 'na ambell i berson oedd methu dathlu pen-blwydd neu pen-blwydd priodas - neu pobl sy' wedi gweithio'n rili galed trwy'r cyfnod ac yn haeddu diolch.

"Mae 'na eneth bach wedi bod yn ofnadwy o wael ac mae hi a'i chwaer wedi cymryd o'n ddrwg a mae'r rhieni isho 'neud rhywbeth neis iddyn nhw - dw i'n trio 'neud o mor bersonol 芒 phosib. Dyna 'di'r syniad."

Hefyd o ddiddordeb