Cynllun masnachu'r DU yn 'rhoi'r undeb dan straen'

Disgrifiad o'r llun, Mae cynlluniau Llywodraeth y DU yn amlinellu pa rymoedd yr Undeb Ewropeaidd y mae'n ei fwriadu mabwysiadu, a pha rymoedd fydd yn nwylo'r llywodraethau datganoledig

Fe allai cynlluniau masnachu rhwng pedair cenedl y DU "gyflymu rhwyg" yr undeb, medd gweinidog yn Llywodraeth Cymru.

Bydd cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer marchnad fewnol yn gorfodi Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon i gydnabod safonau sydd wedi eu cynllunio mewn ardaloedd eraill.

Dywedodd Jeremy Miles y byddai'r cynlluniau arfaethedig yn atal gweinidogion yma rhag gosod eu safonau eu hunain ar nwyddau.

Ond dywed Ysgrifennydd Cymru Simon Hart y byddai'r cynlluniau yn galluogi dinasyddion Cymru i "ffynnu o fewn undeb wleidyddol".

Mae cynlluniau Llywodraeth y DU yn amlinellu pa rymoedd yr Undeb Ewropeaidd y mae'n ei fwriadu mabwysiadu, a pha rymoedd fydd yn nwylo'r llywodraethau datganoledig - fel safon yr aer a lles anifeiliaid.

'Camarweiniol'

Dadl Llywodraeth Cymru yw ei fod yn "gamarweiniol" i ddatgan y bydd y cynllun ar gyfer marchnadoedd masnachu mewnol yn rhoi mwy o rymoedd i'r gweinyddiaethau datganoledig.

Dywed na fyddai modd gweithredu'r cynllun i wahardd plastig yma yng Nghymru o dan y drefn newydd - cynllun sydd yn mynd gam ymhellach na chynllun Llywodraeth y DU.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Dywed Jeremy Miles fod "goroesiad tymor hir y Deyrnas Unedig dan straen mawr"

Bwriad y cynllun yn Lloegr, sy'n dod i rym ym mis Hydref, yw gwahardd tri math o blastig - gwellt yfed, troellwyr diodydd a glanhawyr bach gwl芒n cotwm.

Yng Nghymru y bwriad ydy gwahardd naw math o blastig, gan gynnwys cynhwysyddion polystyren bwyd a diod.

'Dim bygythiad'

Dywedodd Llywodraeth y DU nad oes "unrhyw fygythiad" i rymoedd y llywodraethau datganoledig.

Wrth ategu ei gefnogaeth i'r cynlluniau newydd mewn erthygl yng nghylchgrawn The Spectator, dywedodd Ysgrifennydd Cymru Simon Hart fod y cynigion yn "galluogi "pobl, nwyddau, syniadau a buddsoddiadau i symud yn ddi-rwystr rhwng ein cenhedloedd yn dilyn Brexit".

"Mae hyn yn golygu, os bydd bragdy'n gwerthu cwrw yn Abertawe a Newcastle, ni fydd angen iddynt becynnu yn wahanol oherwydd eu bod yn gwerthu rhwng Cymru a Lloegr," meddai.

Ychwanegodd y byddai safonau uchel yn cael eu cynnal trwy fframweithiau ledled y DU, a rhai oedd wedi eu cytuno gan bob rhan o'r DU.

"Bydd marchnad fewnol y DU yn caniat谩u i ddinasyddion Cymru ffynnu o fewn undeb wleidyddol sydd mor ganolog i fywyd economaidd a diwylliannol fel ei bod yn ymddangos bron yn anweledig," meddai Mr Hart.

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth Simon Hart ategu ei gefnogaeth i'r cynlluniau newydd mewn erthygl yng nghylchgrawn The Spectator

Dywedodd hefyd yn yr erthygl fod yr undeb wedi'i "gymryd yn ganiataol" yn y gorffennol.

"Gellir dadlau mai'r dull hunanfodlon hwn sydd mor amlwg yn darged i'r prif weinidog," ysgrifennodd Mr Hart, gan ychwanegu bod datganoli wedi ei gamgymryd yn rhy aml am arian yn llifo o fiwrocratiaethau yn Llundain i Gaerdydd.

Llythyr

Fe wnaeth Jeremy Miles, Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd yn Llywodraeth Cymru, ei feirniadaeth o gynlluniau'r farchnad fewnol mewn llythyr at yr Ysgrifennydd Busnes yng nghabinet y DU, Alok Sharma, wrth ymateb i ymgynghoriad ar y mater.

Dywedodd Mr Miles fod "goroesiad tymor hir y Deyrnas Unedig dan straen mawr".

Ychwanegodd y bydd y cynllun "yn gwaethygu'r tensiynau hynny mewn ffordd fydd, os na fydd modd mynd i'r afael 芒 hi, yn cyflymu'r broses o chwalu'r undeb".

Fe honnodd y byddai'r cynnig o farchnad fewnol yn "atal y Senedd neu weinidogion Cymru rhag gosod gofynion gorfodol sy'n ymwneud 芒 gwerthu nwyddau a gwasanaethau yn gyfreithlon yng Nghymru - hyd yn oed lle roedd amcanion iechyd cyhoeddus, pryderon amgylcheddol neu unrhyw reswm polisi cyhoeddus arall yn cyfiawnhau hynny".

"Byddai hyn yn cynrychioli ymosodiad uniongyrchol ar y model datganoli cyfredol," meddai.

Esiamplau

Wrth roi esiamplau, dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai "fwy na thebyg yn amhosib" iddynt i fynnu ar labelu hormonau mewn cig eidion os bydd Llywodraeth y DU yn llacio'r rheolau.

Dywedodd llywodraeth y DU: "Mae ein cynigion yn sicrhau y gall busnesau barhau i ffynnu ar 么l i'r cyfnod trosglwyddo ddod i ben trwy warantu eu gallu i fasnachu'n rhydd gyda phob gwlad yn y DU fel y maent wedi gwneud ers canrifoedd.

"O dan ein cynlluniau bydd gan y gweinyddiaethau datganoledig rym dros fwy o faterion nag erioed o'r blaen, a byddant yn parhau i fod 芒'r grym i reoleiddio o fewn eu cenhedloedd.

"Mae'r DU yn arwain y byd o ran safonau amaethyddol, amgylcheddol a bwyd ac ni fydd hynny'n newid.

"Ar ddiwedd y cyfnod trosglwyddo, bydd yr holl safonau presennol hyn yn cael eu cadw yn ein cyfraith ddomestig ac ni fyddwn yn llofnodi unrhyw fargen fasnach sy'n peryglu ein safonau uchel."