Ailddechrau brechu'n 'hynod bwysig' ar 么l cyfnod clo

Disgrifiad o'r llun, Bydd brechiadau ffliw eleni yn hynod bwysig, meddai Theresa Owen o Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr

Mae pobl yn cael eu cynghori i dderbyn eu brechiadau unwaith eto, gan fod cynnydd yn y rhestr aros yn dilyn y pandemig coronafeirws.

Mae 'na bryder y bydd pobl yn dewis cadw draw o glinigau brechu yr hydref hwn o achos ofnau am yr haint.

Roedd y broses o ddosbarthu brechlynnau ar gyfer cyflyrau fel niwmonia a'r eryr wedi ei atal am y tro yn ystod y cyfnod clo.

Gan fod disgwyl i glinigau ffliw ailagor yn fuan, fe all hyn achosi mwy o bwysau ar glinigau sydd wedi gorfod addasu i gydymffurfio gyda rheolau pellhau cymdeithasol.

Mae meddygon yn rhybuddio y gallai rhai cyflyrau effeithio ar bobl yn waeth os ydynt yn cael eu heintio gan coronafeirws a heb dderbyn eu brechiadau o flaen llaw.

Dywedodd Theresa Owen, cyfarwyddwr iechyd cyhoeddus Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: "'Da ni wrthi yn trio cael pawb i gael eu brechiadau ar amser - plant ac oedolion - ond ar hyn o bryd 'da ni'n trafod yr eryr yn arbennig.

"Mae 'na frechlyn ar gyfer yr eryr i bobl hyn, a hefyd meningitis i'r myfyrwyr sydd yn mynd i'r coleg am y tro cyntaf.

"Mae'n hynod bwysig fod pawb yn cael eu brechlyn ar amser.

"Mae Covid yn rhywbeth newydd i ni ond ryda ni eisiau gwneud yn si诺r fod pawb yn optimeiddio eu hiechyd ac yn edrych ar 么l eu hunain, a rhan o hynny yw gwneud yn si诺r eich bod yn cael eich brechiadau ar amser."

Disgrifiad o'r llun, Fe fydd clinigau ac ysbytai wedi eu glanhau'n drylwyr ac yn ddiogel meddai Theresa Owen

Pwysleisiodd fod clinigau brechiadau'n llefydd diogel, i unrhyw un oedd yn pryderu am y peryglon o gael eu heintio gyda Covid-19.

"Mae'n clinigau ni a'n hysbytai ni yn llefydd diogel iawn - ryda ni'n eu glanhau yn aml, mae ganddo ni y gweithredoedd pellteroedd yn eu lle - gyda phobl yn gwisgo gorchudd wynebau hefyd.

"'Da ni wedi cymryd pob cam i sicrhau eu bod yn l芒n ac yn addas a'r brechlyn yw'r peth pwysig."

Brechiad ffliw

Gall mwy o bobl gael brechiad ffliw am ddim y gaeaf hwn, rhag ofn y bydd cynnydd eto mewn achosion coronafeirws.

Ychwanegodd Theresa Owen: "Mae'r brechlyn ffliw yn hynod o bwysig i ni. 'Da ni wrthi bob amser yn yr hydref ac felly fydd hi ddim yn hir pan fyddwn ni'n dechrau cynllunio ac wedi bod wrthi ers cryn amser.

"Ond eleni mi fydd y brechlyn ffliw yn hynod bwysig a da ni'n annog pawb i ddod i gael eu brechlyn.

"Fe fydd hyn yn ein helpu ni wrth y drws ffrynt gan ei bod hi'n brysur a 'da ni'n gorfod cymryd y mesurau cadw pawb yn ddiogel drwy'r amser."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae'r brechiad ffliw yn cael ei ystyried yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer y gaeaf

Yn amodol ar gadarnhad gan Lywodraeth y DU, bydd cyflenwad ychwanegol o'r brechlyn ffliw ar gael eleni hefyd.

Bydd y canlynol yn cael eu cynnwys yn y rhaglen frechu eleni:

  • Pobl sy'n rhannu cartref gydag unigolion yn y gr诺p gwarchod;
  • Gostwng oedran y rhai sy'n gymwys o 65 i unigolion dros 50 - bydd y rhain yn cael eu brechu mewn dull graddol.

Bydd cyflenwadau ychwanegol o'r brechlyn ffliw ar ffurf chwistrell trwyn, sy'n cael ei gynnig i blant, yn cael eu defnyddio i sicrhau bod y nifer mwyaf posibl o blant yn cymryd rhan yn y rhaglen frechu medd Llywodraeth Cymru.

Bydd plant rhwng dwy a thair oed a phob plentyn mewn ysgolion cynradd yn cael cynnig y brechlyn ffliw.