麻豆官网首页入口

Gwahardd ymweliadau cartrefi gofal yng Nghaerffili

  • Cyhoeddwyd
GofalFfynhonnell y llun, Science Photo Library

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cyhoeddi nos Wener na fydd modd derbyn ymweliadau gan aelodau teuluoedd i gartrefi gofal y sir am y tro, o ganlyniad i'r cynnydd yn nifer yr achosion Covid-19 yn lleol.

Yn gynharach ddydd Gwener fe gafwyd ap锚l yn galw ar bobl yng Nghaerffili a rhannau o'r Rhondda i ddilyn y rheolau pellter cymdeithasol yn sgil pryder ynghylch clystyrau o achosion coronafeirws yno.

Wrth drafod y penderfyniad i atal ymweliadau i gartrefi gofal, dywedodd y Cynghorydd Carl Cuss, aelod o gabinet y cyngor gyda chyfrifoldeb dros wasanaethau cymdeithasol: "Nid ar chwarae bach y cafodd y penderfyniad hwn ei wneud, yn enwedig o gofio fod Llywodraeth Cymru wedi llacio rhai o'r cyfyngiadau ar gyfer ymweliadau cartrefi gofal yn ddiweddar.

"Ond rhaid i ni roi iechyd a lles ein preswylwyr oedrannus a bregus yn gyntaf ac rwyf yn sicr y bydd y teuluoedd yn deall yr angen brys i gymryd y camau hyn.

"Rwyf yn gwerthfawrogi y bydd preswylwyr cartrefi gofal a'u teuluoedd wedi eu siomi'n arw gyda'r penderfyniad yma, ond fe hoffwn sicrhau pawb sydd wedi eu heffeithio fod y penderfyniad wedi ei wneud gyda'r bwriad o amddiffyn eu hiechyd."

Fe fydd profi wythnosol am goronafeirws hefyd yn ail-gychwyn yn y cartrefi gofal medd y cyngor.

Mae canolfan brofi yn cael ei sefydlu dros dro yng Nghanolfan Hamdden Caerffili yn sgil "cynnydd sylweddol mewn achosion positif" yn yr ardal yn yr wythnos ddiwethaf.

Bydd unrhyw un yn cael mynd yno a gofyn am brawf, heb orfod gwneud apwyntiad, fel rhan o'r ymchwiliad i'r clystyrau o achosion newydd.

Daw'r ap锚l i bobl ddilyn y rheolau ymbellhau yn yr ardal gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Canolfan brofi dros dro yng Nghanolfan Hamdden Caerffili

Wrth siarad am y sefyllfa yng Nghaerffili dywedodd Dr Rhianwen Stiff, ymgynghorydd rheoli clefydau trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Bu cynnydd sylweddol mewn achosion positif coronafeirws yng Nghaerffili yn yr wythnos ddiwethaf.

"Mae ein hymchwiliadau'n dangos fod diffyg ymbellhau cymdeithasol gan gr诺p bach o bobl o bob oedran mewn ystod o leoliadau gwahanol wedi arwain ar ledaenu'r feirws i rannau eraill o'r boblogaeth."

"Mae'n ymddangos fod pobl, wrth i'r cyfyngiadau lacio, wedi manteisio ar allu gwneud mwy o weithgareddau, ond mae'n ymddangos eu bod wedi anghofio pwysigrwydd ymbellhau cymdeithasol - gyda'r canlyniad posib o drosglwyddo [Covid-19] i'r gymuned ehangach."

Ychwanegodd bod y feirws yn gallu cael ei drosglwyddo yn fwy rhwydd tu fewn a bod angen i bobl fod yn fwy gofalus yngl欧n ag ymbellhau cymdeithasol.