麻豆官网首页入口

Llety gwyliau Ynys M么n 'angen parchu' enwau Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
GlynllifonFfynhonnell y llun, LDRS
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r datblygiad yn cynnig "tai moethus" fel ail gartrefi neu gyfleoedd i fuddsoddi

Mae datblygwyr sy'n trawsnewid hen westy ar Ynys M么n i fod yn llety gwyliau wedi cael eu hannog i beidio newid ei enw.

Mae safle Glynllifon ym Marian-glas - rhwng Moelfre a Benllech - yn cael ei farchnata dan yr enw Traeth Bychan Heights.

Mae'r datblygiad yn cynnig "tai moethus" rhwng 拢285,000 a 拢500,000 fel ail gartrefi neu gyfleoedd i fuddsoddi.

Dywedodd Cyngor Ynys M么n nad yw'n gallu atal y datblygwyr rhag newid yr enw ond mae'r Cynghorydd Margaret Murley Roberts wedi eu hannog i "barchu hanes lleol".

'Digon yw digon'

Cafodd safle Glynllifon ei adeiladu fel t欧 preifat yng nghanol yr 1800au cyn cael ei droi'n westy - oedd 芒'r enw Beauchelles am gyfnod.

Ond ar 么l adfeilio dros yr 20 mlynedd ddiwethaf mae'r safle nawr yn cael ei droi'n gymuned sy'n cael ei ddisgrifio gan y gwerthwyr tai fel "buddsoddiad gwyliau chwaethus neu ail gartref".

Mae'r pwnc o newid enwau Cymraeg wedi cael tipyn o sylw dros y misoedd diwethaf, gyda deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i atal newid enwau yn denu 17,500 o lofnodion.

Dywedodd y Cynghorydd Roberts: "Maen nhw'n cael dod yma i ddatblygu ond mae'n rhaid iddyn nhw hefyd barchu hanes lleol.

"Dim ond un esiampl ydy hyn ac mae 'na nifer o rai eraill ar draws Ynys M么n a Chymru - digon yw digon."

Ffynhonnell y llun, LDRS
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Ieuan Williams a Margaret Murley Roberts eisiau i'r datblygwyr barchu hanes lleol

Ychwanegodd y Cynghorydd Ieuan Williams: "Mae'n rhan o'n treftadaeth ac mae wedi cael ei adnabod fel Glynllifon ers bron i 200 mlynedd.

"Os deithiwch chi lawr y l么n i Ddulas fe welwch chi esiamplau fel Graigwen yn troi'n White Rock House - mae 'na deimladau cryf yn lleol ac mae'n rhaid i ni ddal ein tir."

'Annog i ddefnyddio enw Cymraeg'

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor eu bod mewn trafodaethau gyda'r datblygwyr yngl欧n 芒'r enw.

"Mae perchnogion newydd neu'r rheiny sydd eisiau newid enwau eu cartrefi yn cael eu hannog i ddefnyddio enw Cymraeg," meddai.

Mae'r datblygwyr wedi cael cais am sylw.