麻豆官网首页入口

Covid-19: 348 achos newydd a chynnydd cleifion gofal dwys

  • Cyhoeddwyd
YsbytyFfynhonnell y llun, Nick Mason

Mae 348 o achosion newydd o Covid-19 wedi eu hadrodd yng Nghymru, wrth iddi ddod i'r amlwg bod y nifer uchaf o gleifion yn cael gofal dwys am y coronafeirws ers dechrau Gorffennaf.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) bod un farwolaeth ychwanegol hefyd wedi ei hadrodd - yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.

Mae 76 o achosion newydd yn Rhondda Cynon Taf, 41 yn Abertawe a 39 yng Nghaerdydd.

Roedd 30 ym Mlaenau Gwent, 28 ym Merthyr Tudful, 25 yn Sir G芒r, 17 ym Mhen-y-bont ar Ogwr a 15 yng Nghaerffili.

Bellach mae 21,896 o achosion wedi eu cadarnhau gan ICC, a 1,606 o farwolaethau.

Daw wrth i ffigyrau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ddangos bod 18 o bobl yn ddifrifol wael gyda Covid-19 yn ysbytai Cymru.

Dyma'r nifer uchaf ers dechrau Gorffennaf.

Ddydd Mawrth, roedd saith person yn ardal Cwm Taf Morgannwg, pedwar yn ardal Betsi Cadwaladr a thri yn ardal Aneurin Bevan.

Er y cynnydd mewn achosion difrifol, mae'r ffigyrau'n dangos bod y nifer sy'n mynd i'r ysbyty yn is na'r wythnos flaenorol.