Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cymru 'mewn sefyllfa fregus' oherwydd Covid-19
Mae un o feddygon mwyaf blaenllaw Cymru wedi rhybuddio bod y wlad mewn "sefyllfa fregus" gyda bron i ddwy filiwn o bobl nawr yn byw o dan gyfyngiadau Covid ychwanegol.
Wrth siarad gyda 麻豆官网首页入口 Cymru, dywedodd y Farwnes Ilora Finlay bod angen i bobl gymryd cyfrifoldeb personol i atal lledaeniad y feirws.
Mae'r Farwnes yn aelod o Gomisiwn Bevan - gr诺p o arbenigwyr annibynnol sy'n rhoi cyngor ar iechyd a gofal yng Nghymru.
Ychwanegodd y byddai'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol "yn cael ei gorlethu'n llwyr" heb weithredu cyflym.
'Ddim eisiau byw 芒'r euogrwydd'
Dywedodd: "Rwy'n credu bod gan Lywodraeth Cymru swydd anodd, a rhaid i ni drosglwyddo'r neges i bawb o'r boblogaeth fod ganddyn nhw gyfrifoldeb personol o dorri cadwyn trosglwyddo'r haint.
"Nid y llywodraeth all wneud hynny, nid rhywun arall all wneud hynny - mae'n rhywbeth i bob un ohonom ei wneud."
Castell-nedd Port Talbot, Torfaen a Bro Morgannwg yw'r tair ardal ddiweddaraf i gael cyfyngiadau ychwanegol wedi cynnydd mewn achosion.
Mae wyth ardal arall - gan gynnwys Caerdydd ac Abertawe - eisoes o dan gyfyngiadau llymach.
Mae'r rheolau'n golygu nad oes neb yn cael gadael yr ardaloedd heblaw i fynd i weithio, cael addysg neu argyfyngau meddygol. Does neb i gyfarfod dan do a does dim hawl gwerthu alcohol ar 么l 22:00.
Dywedodd y Farwnes Finlay bod y rheolau yna am reswm.
"Nid mater o dorri rheolau yw hyn," meddai.
"Mae'n fater o ofalu am y bobl ry'ch chi'n eu caru a sylweddoli os fyddwch chi'n mynd 芒'r feirws yma adre a gwneud rhywun yn s芒l, yna fe fyddwch chi'n byw gyda'r euogrwydd yna am weddill eich bywyd."
'Blino'n emosiynol'
Ychwanegodd nad yw profion yn feddyginiaeth, a bod dilyn canllawiau pellter cymdeithasol a golchi dwylo yn bwysicach.
"Rwy'n credu y gall y neges am brofi rhoi synnwyr diogelwch ffug i bobl. Mae pobl yn credu os cawn nhw brawf negatif eu bod nhw'n iawn," meddai.
"Dyw e ddim yn golygu hynny. Gall prawf negatif olygu eich bod yn y dyddiau cynnar a ddim yn cynhyrchu digon o'r feirws i'r prawf ei adnabod eto."
Yn dilyn ymdrech aruthrol y GIG i'r don gyntaf o coronafeirws, mae'r Farwnes Finlay yn bryderus bod staff wedi'u llethu.
"Rwy'n poeni bod y GIG eisoes wedi gorflino, a bod staff wedi blino'n emosiynol.
"A phan maen nhw wedi blino'n emosiynol, dyw e ddim yn fater o'u talu nhw neu fynd allan i glapio... rhaid i ni gydnabod fod rhaid i wneud popeth y gallwn ni i beidio'u rhoi o dan y fath bwysau."