麻豆官网首页入口

Grantiau FIFA i helpu clybiau mewn cyfnod 'enbyd'

  • Cyhoeddwyd
Stadiwm Belle Vue CPD RhylFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu'n rhaid diddymu CPD Y Rhyl oherwydd trafferthion ariannol yn sgil y pandemig

Mae corff rheoli p锚l-droed y byd, FIFA wedi rhoi grant o 拢750,000 i Gymdeithas P锚l-droed Cymru (CBDC) er mwyn cefnogi clybiau pedair rheng uchaf cynghreiriau domestig g锚m y dynion yn sgil y pandemig.

Bydd dwy reng uchaf g锚m y merched yng Nghymru hefyd yn derbyn 拢375,000 mewn ymateb i effeithiau ariannol yr argyfwng coronafeirws.

Daw yn wrth i brif weithredwr y Gymdeithas, Jonathan Ford, ddisgrifio'r cyfnod presennol i gybiau Cymru fel un "enbyd".

Mae CBDC yn sefydlu grant cefnogaeth neilltuol er mwyn rhannu'r arian rhwng clybiau.

Dywedodd Jonathan Ford fod CBDC yn wynebu colled ariannol "enfawr" oherwydd y pandemig.

Mae'n pryderu am ddyfodol clybiau os na all cefnogwyr fynychu gemau ac mae wedi annog Llywodraeth Cymru i leddfu'r sefyllfa trwy ganiat谩u i gefnogwyr ddychwelyd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod gweinidogion yn "cydnabod y pwysau digynsail ar y sector chwaraeon cyfan" a'u bod wedi cyhoedd pecyn cyllido gwerth 拢14m.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Jonathan Ford ei benodi'm brif weithredwr CBDC yn 2009

"Rydyn ni'n gorfod mynd i ddefnyddio'r arian yr ydym wedi ei gynilo," meddai Ford.

"Mae wedi bod yn 2020 enbyd iawn, gadewch i ni fod yn onest. Dechreuon ni eleni gan obeithio y byddem ni'n cymryd rhan yn Ewro 2020. Wrth gwrs, nid yw hynny wedi diflannu - rydyn ni'n gobeithio y byddwn ni'n dathlu hynny yn 2021.

"Ond i fyny ac i lawr y wlad hon, p'un a ydych chi'n chwarae yn haen un, ein Uwch Gynghrair, neu ar lawr gwlad, mae wedi bod yn sefyllfa enbyd iawn."

Mae incwm CBDC wedi gostwng yn sylweddol oherwydd bod coronafeirws wedi golygu canslo gemau rhyngwladol neu eu chwarae y tu 么l i ddrysau caeedig.

Wrth i d卯m dynion h欧n Cymru baratoi i chwarae tair g锚m ar feysydd gwag y mis hwn, does fawr o obaith y bydd cefnogwyr yn dychwelyd yn fuan.

"Heb dorfeydd, mae'n dolc enfawr yng nghyllid y CBDC," meddai Ford wrth Radio Wales nos Wener.

"Rydyn ni'n gorfod gwneud rhai penderfyniadau anodd iawn, ond rwy'n falch o ddweud bod ein timau dynion a menywod yn chwarae.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nid yw t卯m dynion Cymru wedi chwarae o flaen torf ers eu buddugoliaeth yn erbyn Hwngari ym mis Tachwedd 2019

"Maen nhw'n dod 芒'r mwyafrif o'r arian i mewn. Maen nhw'n dod 芒 thua 90% i mewn ac yn costio tua 60% i ni. Mae p锚l-droed domestig yn dod 芒 thua 10% o'r arian i mewn, mae'n costio tua 40% i ni.

"Mae gennym ni gronfeydd wrth gefn ond rydyn ni'n gorfod cael gwared ar rai o'r cronfeydd wrth gefn hynny er mwyn goroesi ein hunain."

Dywedodd y gymdeithas mewn datganiad mai nod y cynllun cymorth gan FIFA yw "gwarchod a diogelu p锚l-droed rhag effeithiau economaidd niweidiol y pandemig".

"Fel corff nid-er-elw, mae CBDC, fel sawl Cymdeithas Genedlaethol wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd yn ystod y pandemig Covid-19, fydd yn gweld colledion ariannol sylweddol i'r gymdeithas.

"Mae Bwrdd CBDC wedi penderfynu... y dylai mwyafrif y cymorth ariannol, fodd bynnag, gael ei ddefnyddio i warchod clybiau ar draws ein Cynghreiriau Cenedlaethol yn ystod y cyfnod anodd hwn."

Wrth ymateb i sylwadau Jonathan Ford, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: ""Rydym yn cydnabod y pwysau digynsail ar y sector chwaraeon cyfan ac yn ddiweddar gwnaethom gyhoeddi pecyn cyllido gwerth 拢14m.

"Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda Chwaraeon Cymru a'r holl gyrff llywodraethu, trwy Gymdeithas Chwaraeon Cymru, i ystyried yr heriau parhaus."