麻豆官网首页入口

432 achos newydd ond dim marwolaethau Covid-19

  • Cyhoeddwyd
CovidFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae 432 o bobl yn rhagor wedi profi'n bositif am coronafeirws, yn 么l Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dangosodd yr ystadegau dyddiol diweddaraf na fu unrhyw farwolaethau ychwanegol, ac felly mae'r cyfanswm marwolaethau yn parhau i fod yn 1,630.

Mae 552,321 o bobl wedi derbyn prawf, gyda 526,469 yn profi'n negyddol yma yng Nghymru.

Yn 么l y ffigurau diweddaraf, mae Caerdydd wedi gweld 43 o achosion newydd, gyda 39 yn Rhondda Cynon Taf, 30 yn Abertawe, 29 yn Sir y Fflint, 27 ym Mhen-y-bont ar Ogwr a 21 yng Ngwynedd.

Fe gafodd 8,966 o brofion eu cynnal ddydd Sadwrn.

Mae 15 allan o 22 sir Cymru dan gyfyngiadau lleol bellach, sydd yn effeithio ar fwy na 2m o bobl.

Mae Caerffili, sef y sir gyntaf i brofi cyfyngiadau newydd, wedi gweld 18 achos newydd.

Mae'r gyfradd achosion dros saith diwrnod yn dangos 179.1 o heintiau fesul 100,000 o bobl yn Rhondda Cynon Taf a 179 ym Merthyr Tudful, o'i gymharu 芒 54.7 yng Nghaerffili.

Ar hyn o bryd mae gan Sir Benfro y gyfradd achosion isaf, gyda 11.1 o achosion fesul 100,000 o bobl o gymharu 芒 chyfartaledd Cymru o 78.8.

Mae ffigurau ICC yn bennaf yn cofnodi marwolaethau mewn ysbytai, a dim ond yn cynnwys achosion pan gadarnhawyd y feirws mewn prawf labordy.

Nid yw'r ffigurau'n cynnwys marwolaethau preswylwyr o Powys mewn ysbytai yn Lloegr, er bod y rhain wedi'u cynnwys yn nata'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.