Carchar Abertawe'n creu 300 dilledyn yr wythnos i staff iechyd

Mae carcharorion wedi cynhyrchu 300 dilledyn amddiffynnol pob wythnos ar gyfer gweithwyr iechyd yn ystod pandemig Covid-19.

Wedi ymweliad diweddar 芒 Charchar Abertawe, dywedodd archwilwyr bod gweithdai wedi eu haddasu er mwyn galluogi i bobl barhau i weithio a'u hatal rhag cael eu cadw mewn celloedd am gyfnodau hir.

Mae mwy o garcharorion hefyd yn gweithio fel glanhawyr oherwydd yr angen, gyda chyfran uwch o garcharorion yn gwneud "gwaith pwrpasol" na mewn sefydliadau eraill.

Er hynny, dywedodd archwilwyr bod cadw pellter cymdeithasol yn anodd, a phan oedd hynny'n bosib, nad oedd y mwyafrif o garcharorion yn gwneud.

Daeth yr ymweliad gan archwilwyr y Gwasanaeth Carchardai i'r canlyniad bod Carchar Abertawe dan arweiniad cryf, ac er "rhai gwendidau" mae wedi gwneud "cynnydd da" ers dechrau'r pandemig.

Mae cyfradd uchel o drosiant yn y carchar, gyda bron i 40% o'r 370 o ddynion yno yn cael eu cadw cyn dedfrydu.

Er bod y carchar yn orlawn, daeth yr archwilwyr i'r casgliad bod partneriaeth dda gyda'r bwrdd iechyd lleol yn golygu bod pob carcharor sydd wedi dangos symptomau wedi cael prawf, ac nad oes achos positif wedi bod ers Ebrill.

Mae 12 o garcharorion a 10 aelod o staff wedi cael profion positif ers dechrau'r pandemig.

Mwy yn gweithio

Tua awr a hanner allan o'u celloedd mae'r mwyafrif o garcharorion yn ei gael, ond dywedodd yr archwilwyr bod cyfran uchel yn gwneud "gwaith pwrpasol" yn yr amser hynny.

Yn ogystal 芒 chreu dillad i weithwyr iechyd, mae mwy o ddynion yn hyfforddi i weithio fel glanhawyr, ac maen nhw wedi gweithio ar 33 achos pan fo angen glanhau trylwyr.

Dywedodd archwilwyr bod rhai mesurau o ganlyniad i Covid-19 wedi lleihau bwlio - fel prydau'n cael eu cludo i gelloedd yn lle cael eu bwyta yn y ffreutur.

Er gwaetha'r gwaith da, mae problemau iechyd meddwl yn parhau'n gyffredin o fewn y carchar.

Dywedodd y prif archwilydd carchardai, Peter Clarke, bod angen gwelliannau ar gyfer y rhai sydd mewn perygl o hunan-anafu.

Roedd nifer yr achosion o hunan-anafu wedi cynyddu ym mis Ebrill, ond wedi gostwng ers hynny.

Dywedodd Mr Clarke bod rheolwyr wedi gwneud "cynnydd da" yn ystod y pandemig, "er gwaetha'r anfanteision o reoli carchar Fictoraidd sy'n orlawn a heb gyfleusterau syml fel ffonau mewn celloedd".

Ychwanegodd bod parhau i gynnig gwaith ac addysg wyneb yn wyneb wedi bod yn flaenoriaeth, a bod "canlyniadau llawer o garcharorion yn Abertawe yn well na mewn carchardai lleol eraill".