麻豆官网首页入口

Cynghorau yn wynebu cost o 拢325m yn wyneb y pandemig

  • Cyhoeddwyd
ProfiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cynghorau wedi gweld 拢165m o gynnydd yn eu gwariant ers mis Ebrill

Mae costau cynghorau Cymru wedi cynyddu 拢325m dros chwe mis cyntaf pandemig Covid-19, yn 么l y corff craffu Archwilio Cymru.

Dywed adroddiad fod yr awdurdodau lleol wedi gweld 拢165m o gynnydd yn eu gwariant ac 拢160m o ostyngiad yn eu hincwm ers mis Ebrill.

Yn 么l Archwilio Cymru roedd y cynnydd mwyaf mewn costau ym meysydd addysg a gwasanaethau cymdeithasol.

O ran incwm, roedd gostyngiad ym meysydd gwasanaethau hamdden a gwasanaethau diwylliannol.

Dywedodd Archwilio Cymru fod arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru wedi lliniaru ychydig ar y sefyllfa ond "fe allai yna fod bwlch ariannol sylweddol" gweddill y flwyddyn ariannol, a "hynny yn ddibynnol ar natur y pandemig".

Ym mis Mai dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru y gallai gymryd hyd at genhedlaeth gyfan i gynghorau dalu am gost y pandemig.

Dywedodd adroddiad Archwilio Cymru yn y tymor byr a chanolig mae'n debygol y bydd:

  • Gwasanaethau yn gweld cynnydd yn y gost o ddarparu offer diogelwch personol;

  • Incwm o ganolfannau hamdden a meysydd parcio yn cael eu heffeithio;

  • Incwm Treth y Cyngor yn gostwng oherwydd effaith economaidd y pandemig.