麻豆官网首页入口

FSB: 'Rhaid cydweithio' i achub busnesau bach Cymru

  • Cyhoeddwyd
CafeFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae angen i lywodraethau Cymru a'r DU gydweithio i gefnogi busnesau yn ystod argyfwng Covid-19 yn 么l y Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB).

Mae'r ffederasiwn yn rhybuddio y gallai un neu ddau o swyddi gael eu colli mewn llawer o fusnesau heb i neb sylwi, ond y gallai hynny gael effaith sylweddol ar y sector yn ei chyfanrwydd.

Daw'r cynllun ffyrlo i ben ar 31 Hydref, ac mae'r cynllun Cynllun Cefnogi Swyddi newydd - a fydd yn talu 67% o gyflogau - yn dechrau ar 1 Tachwedd, wythnos ar 么l dechrau'r cyfnod clo byr.

Gwrthododd y Canghellor Rishi Sunak, gais i symud y Cynllun Cefnogi Swyddi newydd ymlaen o fis, er i Lywodraeth Cymru ddweud ei bod wedi cynnig talu'r gost am y gwahaniaeth rhwng y cynllun ffyrlo a'r cynllun newydd.

Mae Ffederasiwn y Busnesau Bach yn poeni am yr effaith ar gwmn茂au oherwydd y bwlch rhwng dechrau'r Cynllun Cefnogi Swyddi newydd a dechrau'r cyfnod clo byr.

Dywedodd cadeirydd polisi'r ffederasiwn, Ben Francis, fod cyhoeddiad Prif Weinidog Cymru am y cyfnod clo byr wedi achosi llawer o bryder i berchnogion busnesau, yn enwedig o ystyried y misoedd cyn y cyhoeddiad.

"Yr hyn y mae perchnogion busnes yng Nghymru wir am ei weld yw'r ddwy set o lywodraethau'n cydweithio a bod cynllun clir iawn ar waith i helpu'r busnesau hyn i oroesi'r storm o'n blaenau," meddai.

Dros 60% o gyflogaeth

Yn 么l y ffigyrau diweddaraf, mae 62% o gyflogaeth Cymru mewn busnesau bach a chanolig. Mae'r sector hefyd yn gyfrifol am 38% o drosiant y wlad.

Pryder yr FSB ydy bod niferoedd cymharol isel o swyddi yn mynd i gael eu colli ym mhob busnes, ond bod hynny'n cyfateb i broblem fawr dros y sector, a'r wlad.

Ychwanegodd Mr Francis: "Er nad yw efallai o reidrwydd yn bachu'r penawdau gymaint 芒 phan mae cyflogwr mawr yn penderfynu torri swyddi, maen nhw'r un mor bwysig.

"Mae cyflogwyr busnesau bach a chanolig yn cynrychioli dros 60% o gyflogaeth y sector preifat yma yng Nghymru felly mae SMEs [busnesau bach a chanolig] yn cynrychioli rhan bwysig o gyflogaeth yng Nghymru mewn gwirionedd."

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi 拢5m i helpu gweithwyr rhwng cynlluniau cymorth cyflogau'r Trysorlys.

'Cefnogwch siopau bychain lleol'

Yn 么l Selwyn Evans, sydd wedi bod yn rhedeg Siop y Siswrn yn Yr Wyddgrug ers 30 o flynyddoedd, mae'r flwyddyn yma wedi bod yn "heriol iawn".

"Dwi'n sicr yn teimlo dros bobl sy' 'mond 'di bod mewn busnes ers blwyddyn neu ddwy," meddai.

Bu'n rhaid i Mr Evans roi holl weithwyr y siop ar ffyrlo o fis Mawrth i fis Gorffennaf, ac mae wedi gorfod cyflogi nifer yn rhan amser ers i'r siop ailagor.

Gyda'r cynllun ffyrlo yn dod i ben y mis yma a chynllun ariannol newydd gan Lywodraeth y DU yn cychwyn ddydd Gwener, dywedodd Mr Evans: "Mae hwnna wrth gwrs yn mynd i fod o help ar raddfa lai i ni, ond mae'n hanfodol bod yna gefnogaeth i siopau'r stryd fawr oherwydd heb gefnogaeth dwi ddim yn gweld parhad i nifer fawr o siopau."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r flwyddyn hon wedi bod yn un "heriol iawn" yn 么l Selwyn Evans

Ychwanegodd bod negeseuon y llywodraeth yn gallu bod yn "annelwig".

"'Da ni wedi bod mewn cyfnod clo lleol am dair wythnos, ac mi oedd yna s么n ein bod ni'n cael help yn fanna, ond does dim byd wedi dod ac mae'n ymddangos bod help y clo lleol wedi cael ei lyncu gan help y clo 'da ni yno fo ar hyn o bryd."

"Mae yn anodd iawn, iawn wrth gwrs, a dydy arian y llywodraeth ddim yn bwll diwaelod, ond erfyn byswn i ar bobl yn gyffredinol - pan fydden nhw'n cael a pan fydden nhw'n teimlo'n saff - yw bo' nhw'n mynd o'i ffordd i roi cefnogaeth i siopau bychain lleol yn arwain i fyny at y Nadolig."

Beth oedd ymateb y llywodraethau?

"Rydym yn cytuno'n llwyr gyda sylwadau'r FSB," meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

"Fe wnaethon ni ofyn wrth y Canghellor i ddod 芒'r Cynllun Cefnogi Swyddi ymlaen, a dweud y byddwn ni'n ariannu'r gwahaniaeth fel fod busnesau Cymru ddim yn gorfod ymgeisio i ddau gynllun gwahanol.

"Mae'n siomedig iawn nad oedd y Canghellor eisiau cefnogi busnesau Cymru sy'n chwarae rhan mor allweddol yn econom茂au ni a'r DU."

Dywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys bod Llywodraeth y DU "wedi rhoi biliynau o bunnau mewn cefnogaeth i Lywodraeth Cymru ac yn uniongyrchol i fusnesau a gweithwyr Cymru" ers dechrau'r pandemig.

"Rydym wedi rhoi 拢4.4bn yn ychwanegol i Lywodraeth Cymru ddygymod 芒 phwysau'r pandemig ac rydym wedi gwarchod dros hanner miliwn o swyddi yng Nghymru trwy ein cynlluniau cefnogaeth incwm.

"Bydd ein cefnogaeth yn parhau dros fisoedd y gaeaf, gyda chyflogwyr yn gallu defnyddio'r cynllun ffyrlo tan ddiwedd Hydref a'r Cynllun Cefnogi Swyddi wedi 1 Tachwedd."