麻豆官网首页入口

Ryan Giggs ddim wrth y llyw am dair g锚m nesaf Cymru

  • Cyhoeddwyd
Ryan GiggsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Enillodd Ryan Giggs 64 o gapiau dros Gymru yn ystod ei yrfa

Mae rheolwr y t卯m cenedlaethol, Ryan Giggs, wedi camu i'r naill ochr ar gyfer tair g锚m ryngwladol nesaf Cymru.

Yn 么l sawl adroddiad papur newydd cafodd Giggs ei arestio ar amheuaeth o ymosod ar ei gariad.

Dywedodd ei gynrychiolwyr fod Giggs yn gwadu pob honiad o ymosodiad a wnaed yn ei erbyn a'i fod yn cydweithredu 芒'r heddlu.

Dywedodd Cymdeithas B锚l-droed Cymru na fydd Giggs wrth y llyw ar gyfer y gemau yn erbyn yr Unol Daleithiau, Gweriniaeth Iwerddon a'r Ffindir ym mis Tachwedd.

Cafodd cynhadledd y wasg gyda'r rheolwr oedd wedi ei drefnu ar gyfer dydd Mawrth ei chanslo, a bydd y garfan nawr yn cael ei chyhoeddi ddydd Iau.

Datganiad Cymdeithas B锚l-droed Cymru

Fe wnaeth y Gymdeithas ryddhau datganiad yn dweud: "Mae Cymdeithas B锚l-droed Cymru a Ryan Giggs wedi cytuno na fydd rheolwr y t卯m cenedlaethol yn chwarae rhan yn y gemau ym mis Tachwedd.

"Ein blaenoriaeth nawr yw paratoi'r t卯m ar gyfer y gemau rhyngwladol.

"Bydd Robert Page, gyda chefnogaeth Ryan, yn arwain y garfan ar gyfer y tair g锚m nesaf yn erbyn yr UDA, Gweriniaeth Iwerddon a'r Ffindir, wedi'i gefnogi gan Albert Stuivenberg.

"Bydd carfan Cymru ar gyfer y gemau hyn yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau 5ed o Dachwedd.

"Ni fydd CBDC yn gwneud unrhyw sylw pellach ar hyn o bryd."

Bydd Cymru'n chwarae UDA mewn g锚m gyfeillgar yn Stadiwm Liberty ar 12 Tachwedd, cyn wynebu Gweriniaeth Iwerddon a'r Ffindir yn Stadiwm Dinas Caerdydd yng Nghynghrair y Cenhedloedd ar 15 a 18 Tachwedd.

Yn 么l papur The Sun, cafodd yr heddlu eu galw yn dilyn adroddiadau o aflonyddwch yng nghartref y rheolwr yn Salford nos Sul.

Mae Heddlu Greater Manchester yn dweud bod dyn 46 oed wedi'i arestio a'i holi ar amheuaeth o niwed corfforol ac ymosodiad yn ymwneud 芒 menyw yn ei 30au.

Roedd gan y ddynes f芒n anafiadau ond nid oedd angen unrhyw driniaeth arni.

Dywedodd yr heddlu fod y dyn wedi'i ryddhau ar fechn茂aeth tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cynnal.