'Croesawu peidio cael TGAU ond angen eglurder buan'

  • Awdur, Teleri Glyn Jones
  • Swydd, Gohebydd 麻豆官网首页入口 Cymru

Mae undeb addysg wedi croesawu adroddiadau y bydd arholiadau TGAU yng Nghymru yn cael eu dileu.

Dywedodd Rebecca Williams o UCAC y byddai canslo arholiadau "yn cael ei groesawu" ond rhybuddiodd fod angen mwy o eglurder ar athrawon a myfyrwyr ar asesiadau amgen.

Daw ei sylwadau ar 么l adroddiadau yn y Sunday Times bod disgwyl i Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, dderbyn argymhellion dau adroddiad a oedd yn galw am ddileu arholiadau TGAU a'r mwyafrif neu bob arholiad Safon Uwch.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n gwneud cyhoeddiad yn y Senedd ddydd Mawrth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Bydd y Gweinidog Addysg yn cyhoeddi y cynlluniau terfynol ddydd Mawrth yn y Senedd

Mewn cyfweliad gyda'r papur, dywedodd y gweinidog y bydd sgoriau TGAU yn seiliedig ar "waith dosbarth, gwaith cwrs neu asesiadau rheoledig a fyddai'n cael eu monitro'n annibynnol er mwyn osgoi rhagfarn anymwybodol gan athrawon".

Dywedodd hefyd y bydd yn lansio ymgynghoriad gyda rhanddeiliaid allweddol i'r broses asesu.

'Angen eglurder yn fuan'

Dywedodd Rebecca Williams o UCAC: "Byddem yn croesawu unrhyw ganslo arholiadau a symud yn gyflym i roi trefniadau amgen ar waith a fydd, yn 么l pob tebyg, yn gyfuniad o asesiad athrawon a rhyw fath o farcio neu gymedroli allanol.

"Yr hyn nad ydym am ei wneud yw gwastraffu llawer o amser yn gweithio allan y trefniadau hynny. Mae angen i bopeth gael ei benderfynu a bod yn eglur cyn gynted 芒 phosibl. "

Dywedodd Gareth Evans, Cyfarwyddwr Polisi Addysg Prifysgol Cymru, Drindod Dewi Sant mai hwn oedd y "penderfyniad cywir ar y cyfan".

"Rwy'n credu bod gormod o lawer o newidynnau yn y system, gormod o lawer o newidynnau rhwng ysgolion ac felly mae disgyblion yn debygol o gael profiad gwahanol iawn yn dibynnu ar ble maen nhw yng Nghymru."

Gwrthododd Llywodraeth Cymru wneud sylw ar yr adroddiadau yn y papur ond mewn datganiad dywedodd llefarydd ar eu rhan: "Bydd y Gweinidog yn gwneud datganiad llafar ar gymwysterau yn y Senedd ddydd Mawrth. Mae hyn yn dilyn ymgysylltu dros nifer o wythnosau ag ystod eang o randdeiliaid ".