Cynllun i ailwampio tai gwag 'wedi bod yn llwyddiant'

Disgrifiad o'r llun, Nod y cynllun ydy rhoi hwb i'r diwydiant tai a chael gwared ar adeiladau gwag.

Mae cynllun sy'n rhoi grantiau i berchnogion tai gwag i'w hailwampio ac ailddechrau eu defnyddio wedi bod yn llwyddiant, yn 么l awdurdod lleol.

Cafodd y syniad ei beilota yn Rhondda Cynon Taf, ac mae perchnogion tai gwag yn gallu cael hyd at 拢20,000 i'w hadnewyddu a'u troi yn gartrefi y gellir byw ynddynt.

Mae'r perchnogion yn gallu gwneud cais am hyd at 拢5,000 yn rhagor ar gyfer gosod mesurau ynni adnewyddadwy.

Rhwng Medi 2019 a Mawrth eleni fe wnaeth y cyngor dderbyn 173 o geisiadau a dosbarthu 拢2.4m mewn grantiau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae'r cynllun peilot at waith yn Rhondda Cynon Taf ers Medi 2019

Nod y cynllun ydy rhoi hwb i'r diwydiant tai a chael gwared ar adeiladau gwag.

Dywedodd Cyngor Rhondda Cynon Taf bod y cynllun hefyd wedi helpu lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn rhai mannau ac wedi galluogi nifer o bobl i brynu eu cartrefi cyntaf.

Bydd ail ran y cynllun yn parhau nes mis Mawrth 2021.