麻豆官网首页入口

Twristiaeth: 'Mwy na 50% o fusnesau yn aros ar gau'

  • Cyhoeddwyd
Abermaw
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae strydoedd Aberdyfi yn wag o ganlyniad i ddiffyg twristiaid

Mae angen i bedair cenedl y DU gydweithio pan mae'n dod i benderfynu ar unrhyw gyfnodau clo pellach, yn 么l ffigwr amlwg o'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru.

Mae Cynghrair Twristiaeth Cymru yn amcangyfrif y bydd mwy na 50% o fusnesau o fewn y diwydiant twristiaeth yn aros ar gau yng Nghymru tan o leiaf ddiwedd cyfnod clo Lloegr, ar 2 Rhagfyr.

Er bod cyfnod clo Cymru wedi dod i ben bron i bythefnos yn 么l erbyn hyn, mae strydoedd Aberdyfi yn dawel hyd yn oed am yr adeg yma o'r flwyddyn.

Mae Peter ac Elizabeth Holt wedi bod yn rhedeg Caf茅 Medina ar y stryd fawr yno am 13 blynedd, ac maen nhw wedi gweithio yn y byd lletygarwch yn yr ardal am dros dri degawd.

'Ni angen mwy o bobl'

Mae Mr Holt yn dweud nad yw erioed wedi gweld y lle mor dawel yr amser yma o'r flwyddyn.

Dywedodd: "Mae'n neis i'r bobl leol! Mae'r bobl leol yn caru e, ond fel busnes... ni angen mwy o bobl.

"Ni'n dibynnu ar y Saeson yn dod mewn i Gymru, ond rydyn ni'n siop goffi bach gyda dilyniant bach o bobl leol so ry'n ni'n iawn."

Ar draws Cymru, mae rhai o'r llety ac atyniadau twristaidd mwyaf adnabyddus wedi cau, megis y Celtic Manor tu allan i Gasnewydd, Zipworld ym Mharc Cenedlaethol yr Eryri, a hefyd pentref Eidalaidd Portmeirion.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Robin Llywelyn nad yw'n 'gynaliadwy' i gadw'r gwesty ar agor ar hyn o bryd

Mae rheolwr Gwesty Portmeirion ger Porthmadog yng Ngwynedd yn dweud nad yw'n gynaliadwy i ailagor nes ar 么l y clo yn Lloegr.

Caeodd y gwesty adeg y clo byr yng Nghymru, ac yna pan ddaeth clo yn Lloegr, fe wnaeth "dros dri chwarter ein harchebion llety ni ddiflannu dros nos", meddai Robin Llywelyn.

"Doedd hi ddim yn werth i ni ailagor, fysa' hi ddim wedi bod yn gynaliadwy i ni ailagor a thrio gweithredu efo llai na chwarter y busnes."

Y gobaith ydy agor ar 么l 2 Rhagfyr, "gan obeithio y bydd bobl yn medru dal i ddod yma i gael eu gwyliau".

Petai'r gwesty heb gau yn ystod y cyfnod yma, dywedodd Mr Llywelyn y byddai wedi wynebu "colledion enbyd", ac roedd rhaid blaenoriaethu cadw swyddi a diogelu'r busnes.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Pwysleisiodd David Brown bod diffyg twristiaid yn effeithio ar y gymuned ehangach

Ond mae'r gymuned ehangach hefyd wedi'i heffeithio, yn 么l David Brown, cadeirydd Cymdeithas Cyhoeddusrwydd Abermaw.

"Dyna'r peth cyntaf, pan dydy'r twristiaid ddim yn dod mae'r gwestai'n colli arian.

"Ond mae'r incwm yna'n cael ei wario mewn dwy ffordd yn y gymuned, er enghraifft yn Abermaw mae gwesty yn cau lawr yn ystod y gaeaf ac mae arian yn cael ei wario ar ei adnewyddu, yn y siop DIY... dydy hwnna ddim yn digwydd y flwyddyn hon oherwydd dydy'r arian heb fod yn dod mewn. Felly mae'r adeiladwyr yna, y plastrwyr, y plymwyr i gyd mynd i weld bod y gaeaf yma'n llai prysur na'r arfer iddyn nhw."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Rowland Rhys Evans yn galw ar lywodraethau'r DU i gydweithio

'Angen undod nawr'

Gyda'r posibilrwydd o gyfnod clo arall yn barod yn cael ei drafod ym Mae Caerdydd rhywbryd yn ystod y flwyddyn newydd, beth mae'r diwydiant eisiau, yn 么l Rowland Rhys Evans, cadeirydd Twristiaeth Canolbarth Cymru, yw bod pedair cenedl y DU yn cydweithio pan mae'n dod i unrhyw gyfnod clo yn y dyfodol.

"Mae angen undod nawr," meddai.

"Mae gyda ni Nadolig yn dod, os oes gyda ni cyfnodau clo a rheolau gwahanol ar gyfer Nadolig mae'n mynd i fod yn ofnadwy i bawb.

"Mae'n drueni dydy'r ddwy lywodraeth, a'r Alban a gogledd Iwerddon ddim yn gweithio gyda'i gilydd fel bod ni i gyd yn dilyn yr un canllawiau, mae pobl yn tueddu i anghofio bod y feirws yma yr un peth ar draws y DU a dylai'r rheolau fod yr un peth i bawb, achos mae'n anodd pan mae gennych chi arfordir sydd ddim yn arfordir caled ond mae gennych chi reolau gwahanol ar naill ochr o'r llinell."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y Prif Weinidog Mark Drakeford wedi bod yn glir yr hoffai gael cyfarfodydd rheolaidd a dibynadwy rhwng y pedair cenedl fel ein bod ni'n gallu dysgu mwy o ymateb pob llywodraeth i'r pandemig.

Ychwanegodd bod "penderfyniadau am yr ymateb i'r pandemig yn cael eu gwneud yng Nghymru."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain, "ni wedi helpu'r diwydiant twristiaeth trwy ddarparu pecyn o fesurau ariannol - ac mae nifer o fusnesau Cymreig yn buddio o'r rhain ac mae'r mesurau yn parhau i gefnogi'r sector twristiaeth trwy'r amseroedd heriol yma."