麻豆官网首页入口

Galw ar ffermydd i wneud mwy i leihau nwyon t欧 gwydr

  • Cyhoeddwyd
defaid
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae adroddiad newydd yn dweud dweud y dylai ffermydd ganolbwyntio ar wella pa mor gynhyrchiol yw eu hanifeiliaid

Rhaid i ffermydd Cymru wneud mwy i leihau eu hallyriadau nwyon t欧 gwydr, ond maen nhw eisoes ymysg y mwyaf cynaliadwy yn y byd, medd adroddiad newydd.

Fe edrychodd yr adroddiad yn fanwl ar 20 o ffermydd defaid a gwartheg Cymreig, gan gynnwys ymchwilio i faint o garbon oedd yn cael ei storio ar eu tir.

Roedd gan ffermydd mynydd yn arbennig lai o effaith ar yr amgylchedd nag oedd i'w ddisgwyl.

Mae amaeth yn gyfrifol am oddeutu 12% o allyriadau Cymru, y rhan fwyaf yn fethan o'r anifeiliaid eu hunain.

Yn 么l y corff sy'n cynghori'r llywodraeth - y Pwyllgor Newid Hinsawdd (CCC) - mae hyn yn faes heriol i Gymru, oherwydd pwysigrwydd y diwydiant i gymunedau gwledig.

Dyna un o'r rhesymau pam eu bod nhw wedi awgrymu targedu cwymp o 95% mewn allyriadau erbyn 2050, nod sy'n llai uchelgeisiol na gweddill y DU.

Yn ystod yr wythnosau nesaf fe fydd drafft gyntaf Mesur Amaeth Cymreig yn cael ei ddatgelu, gyda gwobrwyo ffermwyr am ymdrechion i fynd i'r afael 芒 newid hinsawdd wrth galon y drefn cymorthdaliadau yn y dyfodol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Katie-Rose Davies fod pori cymysg yn gwella'r glaswellt

Hanes un ffermwr mynydd

Ffermwr mynydd a darlithydd amaethyddol o Nant-y-moel, Pen-y-bont ar Ogwr, yw Katie-Rose Davies.

"Rydyn ni'n rhedeg tua 1,000 o ddefaid mynydd de Cymru, a 40 o fuchod sugno - mae fy nheulu wedi bod yma ers bron i 100 mlynedd," meddai.

"Rydym yn ffermio gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau cynaliadwy a thraddodiadol - mae llawer o bethau ry'n ni'n eu gwneud wedi'u selio ar geisio lleihau ein heffaith amgylcheddol mewn gwirionedd."

"Felly pori cymysg er enghraifft - gwartheg a defaid gyda'i gilydd - gwelwn fod hynny'n gwella'r Molinia neu laswellt mynydd sy'n creu amgylchedd gwell ar gyfer mawn sy'n storio carbon a hefyd yn creu cynefinoedd newydd ar gyfer rhywogaethau prin fel y Cwtiaid Aur sydd gennym yma ar y fferm."

"Mae'n bwysig iawn bod pobl yn deall y gwahaniaeth rhwng ffermio yma yng Nghymru a'r diwydiant yn fyd-eang - mae llawer o s么n wedi bod am leihau faint o gig coch rydych chi'n ei fwyta... ond dylai fod yn ymwneud 芒 phrynu cig sydd wedi'i gynhyrchu'n gynaliadwy."

Mae'r adroddiad newydd gan Hybu Cig Cymru, ar y cyd ag ymchwilwyr o Brifysgol Bangor a Phrifysgol Limerick, yn dweud y dylai ffermydd ganolbwyntio ar wella pa mor gynhyrchiol yw eu hanifeiliaid.

Byddai blaenoriaethu iechyd, lles a chapasiti bridio yn golygu eu bod yn cynhyrchu mwy o gig, yn gyflymach gyda llai o fewnbynnau ac allyriadau.

Fe allai gwella safon y pridd a faint o garbon sy'n cael ei atafaelu - hynny yw ei amsugno a'i storio - ar ffermydd gael "effaith bositif sylweddol ar allyriadau net", tra bod defnyddio tir ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy yn cael ei annog hefyd.

Ond tra bod y CCC wedi annog i 20% o dir fferm y DU gael ei drosglwyddo at ymdrechion i storio carbon, mae'r adroddiad yn dweud bod "cynnal cnewyllyn allweddol o gynhyrchiant da byw yn gymorth i gynaliadwyedd economaidd a diwylliannol Cymru".

Mae'n pwysleisio bod gan amaeth yng Nghymru ymysg y lefelau isaf o allyriadau nwyon t欧 gwydr o systemau tebyg ar draws y byd.

Y rheswm am hyn yw nad yw'r ffermydd yn rhai dwys a - diolch i hinsawdd Cymru - mae ganddyn nhw ddigonedd o laswellt a d诺r, sy'n golygu nad oes angen mewnforio cymaint o fwyd ar gyfer yr anifeiliaid.

Canfu fod gwartheg b卯ff yn gyfrifol am 11-16kg o allyriadau cyfwerth 芒 CO2 y cilo ar gyfartaledd, o'i gymharu 芒 chyfartaledd byd-eang o oddeutu 37kg o allyriadau cyfwerth 芒 CO2 y cilo.

Dangosodd yr astudiaeth fod defaid ac 诺yn yn gysylltiedig 芒 10-13kg o allyriadau cyfwerth 芒 CO2, sydd unwaith eto yn gosod Cymru ymhlith y ffigurau isaf o blith yr astudiaethau a gynhaliwyd mewn rhannau eraill o'r byd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Dr Prysor Williams fod casgliadau'r adroddiad yn werthfawr

Dywedodd Dr Prysor Williams, uwch ddarlithydd mewn rheolaeth amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor, bod y casgliadau'n cynnig "golwg werthfawr inni o'r hyn y mae ffermydd Cymru eisoes yn ei wneud yn dda o ran cynaliadwyedd, a lle y gellir gwneud gwelliannau pellach".

Yn 么l Gwyn Howells, prif weithredwr Hybu Cig Cymru mae'n rhaid i'r diwydiant "wneud yn well yn y dyfodol a rhaid i ni dderbyn a chydnabod y rhan sy'n rhaid i ni ei chwarae wrth leihau allyriadau erbyn 2050 fel sy'n cael ei grybwyll yng Nghytundeb Paris."

Dywedodd, serch hynny, y gallai ffermwyr Cymru werthu eu cig yn hyderus fel "cynnyrch cynaliadwy", tra'n "saern茂o dulliau cynhyrchu" er mwyn lleihau'r effaith amgylcheddol ymhellach yn y dyfodol.

Pynciau cysylltiedig