麻豆官网首页入口

'Clo pellach ar 么l y Nadolig heb gwymp Covid-19'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
MD

Bydd cyfyngiadau Covid-19 pellach yn cael eu cyflwyno yn dilyn y Nadolig, oni bai bod nifer yr achosion yn cwympo yng Nghymru, meddai'r prif weinidog.

Dywedodd Mark Drakeford bod sefyllfa coronafeirws yng Nghmru bellach yn un "difrifol iawn".

Bydd newidiadau i'r system rybuddio pedair haen yn dod i rym wythnos nesaf - ac fe ddywedodd fod Cymru ar yn o bryd ar Lefel 3 - gyda'r risg yn "uchel iawn".

Wrth siarad yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru i'r wasg ddydd Gwener, dywedodd Mr Drakeford fod "yr haint yn lledaenu'n gyflymach nag y mae ein modelau i gyd wedi'i ragweld, ac mae coronafeirws bellach wedi'i wreiddio'n ddwfn mewn sawl rhan o Gymru".

2,500 yn yr ysbyty erbyn y Nadolig

Yn ystod y saith diwrnod diwethaf fe welwyd 12,000 achos newydd ar hyd a lled Cymru meddai.

Dywedodd fod cyfradd yr haint mewn rhai rhannau fel Castell-nedd Port Talbot, Blaenau Gwent a Rhondda Cynon Taf yn "parhau i fod yn anhygoel o uchel".

O ganlyniad mae hyn wedi golygu "pwysau sylweddol a pharhaus ar ein Gwasanaeth Iechyd".

Ychwanegodd fod nifer y cleifion coronafeirws mewn ysbytai wedi cyrraedd 1,900 am y tro cyntaf a bod y nifer yn cynyddu.

"Os bydd y cynnydd hwn yn parhau, fe allem gael 2,500 o bobl gyda coronafeirws yn yr ysbyty erbyn dydd Nadolig."

Merthyr a Chastell-nedd yn uchel iawn

Ychydig wedi iddo siarad, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod 29 yn rhagor o farwolaethau gyda Covid-19 wedi'u cofnodi yng Nghymru dros y 24 awr diwethaf, a bod 2,234 o achosion newydd wedi'u cadarnhau.

O'r achosion newydd, roedd 254 yng Nghaerdydd, 243 yn Abertawe, 219 yng Nghaerffili a 218 yn Rhondda Cynon Taf.

O edrych ar y cyfartaledd o achosion am bob 100,000 o'r boblogaeth dros gyfnod o saith diwrnod, roedd gan Merthyr Tudful gyfradd o 764.2/100,000 - yr uchaf o bell - gyda Chastell-nedd Port Talbot ar 718.

Roedd tair ardal arall dros 600 hefyd, sef Casnewydd (634.9), Caerffili (602.0) a Blaenau Gwent (601.2).

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae graff Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos achosion positif Covid-19 fesul 100,000 o'r boblogaeth

Dywedodd Mr Drakeford y bydd holl atyniadau awyr agored Cymru yn cau o ddydd Gwener ymlaen, ac y byddai'r llywodraeth yn cyhoeddi cynllun rheoli coronafeirws diwygiedig yr wythnos nesaf.

Ychwanegodd y byddai'r cynllun yn cynnwys pedair haen, gyda chyfyngiadau Lefel 4 gyfystyr 芒 chyfnod clo llym.

"Rydym ar haen rhybudd rhif tri. Mae'r golau traffig ar goch. Mae lefel y risg yn uchel iawn," meddai.

"Rhaid i mi fod yn glir gyda chi - os na fydd mesurau cryfach yr wythnos diwethaf a gweithredoedd ychwanegol yr wythnos hon, ynghyd ag ymdrechion pob un ohonom yn llwyddo i droi llanw'r feirws - yna mae'n anochel bydd yn rhaid i ni symud i rybudd Lefel 4 ar 么l y Nadolig."

Beth ydy cyfyngiadau Lefel 4?

Ffynhonnell y llun, Getty Images
  • Aros adref a gweithio o adref pryd bynnag mae hynny'n bosib;

  • Dim teithio heb reswm da;

  • Peidio cyfarfod unrhyw un y tu allan i'ch aelwyd - dan do neu yn yr awyr agored;

  • Dim aelwydydd estynedig (oni bai i bobl sy'n byw ar ben eu hunain);

  • Cadw pellter cymdeithasol a gwisgo mwgwd yn gyhoeddus.

Bydd ysgolion, colegau a gofal plant yn cael agor, yn ogystal 芒 rhai cyfleusterau cyhoeddus, parciau ac addoldai.

Ond ni fydd siopau sydd ddim yn hanfodol, bwytai a bariau, atyniadau i ymwelwyr a chyfleusterau chwaraeon a hamdden yn cael agor.

Ychwanegodd Mr Drakeford ei bod yn bosib yn y dyfodol y byddai cyfyngiadau gwahanol mewn gwahanol rannau o Gymru, ac na fyddai cyfyngiad o ran amser ar unrhyw gyfnod clo arall.

Bydd y system ddiwygiedig yn destun dadl yn y Senedd ddydd Mawrth.

'Dim cyrffyw na gwaharddiad alcohol'

Fe wnaeth hefyd ymateb yn benodol i "sibrydion a newyddion ffug" am ba fesurau all ddod i rym.

Cadarnhaodd na fydd cyrffyw gyda'r nos, na bwriad i wahardd gwerthiant alcohol yn llwyr.

Aeth Mr Drakeford ymlaen i ddiolch i staff iechyd yn wyneb yr heriau.

"Mae staff ein Gwasanaeth Iechyd yn gwneud gwaith anhygoel o dan amgylchiadau anodd iawn ac rwyf am ddiolch iddynt am bopeth y maent wedi'i wneud trwy'r pandemig a pharhau i'w wneud.

"Ond dim ond hyn a hyn y gallwn ei ofyn ganddynt. Dim ond hyn a hyn y gall y Gwasanaeth Iechyd ei wneud.

"Yn syml iawn, ni fydd ein Gwasanaeth Iechyd yn gallu ymdopi os byddwn yn parhau i weld y lefel yma o dderbyniadau sydd yn gysylltiedig 芒 coronafeirws yn ystod yr wythnosau nesaf, ar ben y pwysau gaeaf arferol."

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood

Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, bod cyfyngiadau llymach yn "debygol iawn".

Ond ychwanegodd bod ganddo "ddiddordeb gwirioneddol" mewn gweithredu ar lefel rhanbarthol.

"Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae llawer o bobl yn meddwl sy'n rhesymol."

Dywedodd fod gan ei etholaeth ei hun - Ynys M么n - niferoedd achosion isel ar hyn o bryd, ond ei fod wedi gweld niferoedd uwch yn gynharach yn y flwyddyn.

"Y broblem gyda system gwbl genedlaethol yw eich bod efallai'n ceisio cydbwyso'r hyn sy'n effeithiol mewn meysydd sydd 芒 lefelau uchel gyda'r hyn sy'n dderbyniol mewn ardaloedd lle mae'r niferoedd yn isel iawn."

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd bod cyhoeddiad Mr Drakeford yn rhoi'r "darlun llwm" i bobl Cymru am gyfraddau Covid-19 a'r pwysau ar staff iechyd.

Ychwanegodd Andrew RT Davies: "Llywodraeth Lafur Cymru sy'n cymryd llawer o'r cyfrifoldeb am y penderfyniadau gwael maent wedi eu gwneud hyd heddiw."

Er hynny, dywedodd bod y Ceidwadwyr Cymreig yn barod i gydweithio er mwyn "cipio rheolaeth o'r sefyllfa" unwaith eto.

Pynciau cysylltiedig