麻豆官网首页入口

Cymru i golli wyth aelod o senedd y DU?

  • Cyhoeddwyd
The Menai Strait
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe fydd statws Ynys M么n fel etholaeth yn cael ei warchod yn y mesur newydd, ac ni fydd yn ymuno 芒 Bangor

Fe allai Cymru golli hyd at wyth o'i ASau yn San Steffan ar 么l i ddeddf gael ei phasio i ail-lunio ffiniau etholaethau.

Bydd cyfanswm yr ASau ledled y DU yn aros yn 650 ond gallai seddi Cymru yn Nh欧'r Cyffredin ostwng o 40 i 32.

Dywedodd Llywodraeth y DU fod "etholaethau o'r un maint yn bolisi synhwyrol a fydd yn gwneud ein hetholiadau'n decach".

Ond dywedodd Plaid Cymru "y bydd Cymru ar ei cholled yn fwy nag unrhyw genedl arall yn y DU neu ranbarth o Loegr".

Rhoi 'hyder' i etholwyr

Yn gyffredinol, mae'n ofynnol i'r Comisiwn Ffiniau, sy'n gyfrifol am lunio ffiniau etholaethau, gynnig etholaethau y mae eu hetholwyr yn amrywio o ran maint heb fod yn fwy neu lai na 5% o'r cyfartaledd.

Ond ym mis Mehefin fe gyhoeddwyd y byddai etholaeth Ynys M么n yn ennill "statws gwarchodedig", gan olygu na fydd modd ei cholli fel sedd Seneddol y DU ar 么l yr adolygiad ffiniau.

Bydd y Comisiwn Ffiniau yn cychwyn yr adolygiad etholaethol ym mis Ionawr 2021 i bennu nifer cyfartalog yr etholwyr a fydd ym mhob etholaeth a'r ffiniau newydd.

Bydd y mapiau etholiadol newydd yn destun tri ymgynghoriad ar wah芒n cyn i'r cynigion terfynol gael eu cyflwyno i D欧'r Cyffredin erbyn 1 Gorffennaf 2023.

Dywedodd Gweinidog Cyfansoddiad Llywodraeth y DU, Chloe Smith AS: "Mae pob pleidleisiwr yn haeddu bod 芒 hyder bod ei bleidlais yn cyfrif yr un peth, ble bynnag maen nhw'n cael ei bwrw."

"Mae'n hen bryd rhoi'r sicrwydd hwn ac mae'r Ddeddf yn cyflawni hynny'n union.

"Mae etholaethau cyfoes, o'r un maint, yn bolisi synhwyrol a fydd yn gwneud ein hetholiadau'n decach, gan sicrhau bod gan bobl o bedair gwlad y DU gynrychiolaeth gyfartal yn y Senedd."

Dywedodd Arweinydd Seneddol Plaid Cymru, Liz Saville Roberts AS: "Go brin ei bod yn gyd-ddigwyddiad bod lleisiau Cymru yn Llundain yn cael eu lleihau ar yr un pryd ag y mae'r Tor茂aid yn crebachu ar ein pwerau [o ran Senedd Cymru].

"Bydd Cymru ar ei cholled yn fwy nag unrhyw genedl arall yn y DU neu ranbarth o Loegr o ganlyniad i'r ddeddfwriaeth hon.

"Mae ein cenedl yn haeddu cynrychiolaeth ddemocrataidd briodol - mae hynny'n golygu rhoi mwy o bwerau i'n Senedd ar frys."