麻豆官网首页入口

Cymru i wynebu cyfnod clo o nos Sadwrn ymlaen

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Cymru i wynebu cyfnod clo o nos Sadwrn ymlaen

Bydd y cyfyngiadau clo, a oedd i fod i gael eu cyflwyno yng Nghymru ar 28 Rhagfyr, bellach yn cael eu cyflwyno am hanner nos nos Sadwrn, yn dilyn cynnydd mawr yn nifer yr achosion o amrywiad newydd o Covid-19.

Fe gadarnhaodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y bydd llacio cyfyngiadau a oedd yn weithredol ar gyfer pump diwrnod dros gyfnod y Nadolig yn newid i un diwrnod yn unig.

O dan gynlluniau lefel pedwar Cymru 'bydd disgwyl i bobl aros gartref, bydd manwerthu a lletygarwch nad ydynt yn hanfodol ar gau heblaw am wasanaethau 'clicio a chasglu' a siopau pryd ar glud, a bydd cyfyngiadau teithio ar waith.

Bydd cyfarfod ag aelwyd arall yn eich cartref eich hun yn cael ei wahardd, er y bydd cartrefi un person yn gallu cwrdd ag un cartref arall mewn trefniant swigen cymorth.

Llawer mwy heintus

Dywedodd Mr Drakeford fod straen newydd o coronafeirws sy'n gysylltiedig 芒 mwy o achosion yn Llundain a De Ddwyrain Lloegr "yn bresennol ledled Cymru".

"Rydyn ni'n gwybod nawr bod y straen newydd hwn yn sylweddol fwy heintus ac yn lledaenu'n gyflymach na'r un gwreiddiol," meddai Mr Drakeford mewn datganiad.

"Trwy gydol yr argyfwng iechyd cyhoeddus, rydym wedi gorfod ymateb yn gyflym i'r newidiadau chwim, sydd wedi bod mor nodweddiadol o coronafeirws.

"Mae heddiw wedi bod yn un o'r dyddiau hynny pan mae gwybodaeth newydd wedi gofyn am ymateb ar unwaith."

Mae ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru'n awgrymu bod bron i chwarter yr holl brofion sy'n cael eu cynnal yng Nghymru yn rhai positif erbyn hyn.

Ddydd Sadwrn cafodd 35 yn rhagor farwolaethau o achos Covid-19 eu cofnodi yng Nghymru a 3,065 achos newydd o'r haint.

'Anhygoel o ddifrifol'

Dywedodd Mr Drakeford fod ei gabinet wedi cyfarfod brynhawn Sadwrn "i glywed y cyngor diweddaraf gan ein huwch gynghorwyr meddygol a gwyddonol, gan gynnwys yr effaith ar ein GIG".

Dywedodd fod y sefyllfa'n "anhygoel o ddifrifol".

"Ni allaf orbwysleisio hyn", meddai.

Dywedodd Mr Drakeford er ein bod "i gyd eisiau" osgoi tarfu ar gynlluniau ar gyfer y Nadolig ac ar fusnesau, dyletswydd bwysicaf Llywodraeth Cymru oedd amddiffyn bywydau.

"Rydyn ni'n gwybod y bydd 2021 yn flwyddyn wahanol a gwell. Bydd ein economi yn gwella. Bydd y Nadolig yn dod eto.

"Ond mae bywydau sydd ar goll, yn cael eu colli am byth."

Dywedodd Mr Drakeford fod y patrwm trosglwyddo yn Llundain a De Ddwyrain Lloegr "yn rhyfeddol o gyson 芒 chyflymiad cyflym y trosglwyddiad yng Nghymru a'r cyfraddau uchel o achosion a welsom yn ystod yr wythnosau diwethaf".

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd y Prif Weinidog Boris Johnson bod yr amrywiad newydd o Covid-19 yn lledu'n gyflym

Daw sylwadau Mr Drakeford yn dilyn cyfarfod o gabinet Llywodraeth Cymru, a chyfarfod rhwng gweinidogion cyntaf Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac uwch weinidog llywodraeth y DU, Michael Gove.

Fe wnaeth Prif Weinidog y DU, Boris Johnson, gadarnhau y bydd y cyfnod llacio cyfyngiadau dros y Nadolig yn Lloegr hefyd yn llai, yn dilyn pryderon am achosion cynyddol o'r amrywiad newydd.

Dywedodd prif swyddog meddygol Lloegr, yr Athro Chris Whitty, fod ymgynghorwyr y llywodraeth "yn ystyried y gall y straen newydd ledaenu'n gyflymach".

Wythnos ddiwethaf fe wnaeth y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, gadarnhau fod sawl achos o'r amrywiad newydd wedi cael eu darganfod yng Nghymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ar y pryd fod o leiaf 10 achos wedi'u cadarnhau yng Nghymru a bod disgwyl i fwy gael eu nodi.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood

Beth ydy'r rheolau newydd?

Mae'r cyhoeddiad heddiw yn golygu bod Cymru'n mynd i lefel pedwar o ran cyfyngiadau o hanner nos nos Sadwrn, sef y lefel fwyaf tebyg i'r cyfyngiadau welson ni yn yr hydref.

Fodd bynnag, yn wahanol i hynny, bydd ysgolion a gofal plant yn aros ar agor.

  • Bydd disgwyl i bobl aros gartref, bydd manwerthu a lletygarwch nad ydynt yn hanfodol yn gorfod cau - heblaw am wasanaethau 'clicio a chasglu' a siopau pryd ar glud.

  • Bydd cyfarfod ag aelwyd arall yn eich cartref eich hun yn cael ei wahardd, er y bydd cartrefi un person yn gallu cwrdd ag un cartref arall mewn trefniant swigen cymorth.

Bydd cyfyngiadau teithio ar waith hefyd.

  • Os ydych chi'n byw yng Nghymru, byddwch chi'n gallu teithio i gwrdd ag un cartref arall ar Ddydd Nadolig unrhyw le yng Nghymru.

  • Gallwch hefyd adael Cymru, yn amodol ar y cyfyngiadau lleol yn yr ardal y byddech chi'n teithio iddi, a'r angen i fod yn 么l gartref erbyn diwedd y dydd.

  • Bydd yr holl ddigwyddiadau dan do ac awyr agored ac atyniadau i ymwelwyr yn cael eu canslo neu eu cau, bydd campfeydd, siopau trin gwallt a llety gwyliau yn gorfod cau hefyd.

Nid oes dyddiad cau penodol ar gyfer codi'r lefel rhybudd - yn lle hynny mae set o feini prawf y mae'n rhaid eu cyrraedd er mwyn lleddfu cyfyngiadau.

Ymateb y gwrthbleidiau

Wrth ymateb i'r cyfyngiadau newydd dywedodd Paul Davies AS, Arweinydd yr Wrthblaid yn Senedd Cymru: "Ar 么l cael fy mriffio gan y Prif Weinidog heddiw, gallaf werthfawrogi'n llawn yr angen am gyfyngiadau mwy difrifol yng Nghymru, yn enwedig lle mae cyfraddau heintiau yn uchel, a straen newydd y feirws yn cylchredeg.

"Rwy'n gwybod y bydd llawer o bobl yn siomedig gan eu bod yn edrych ymlaen at weld eu hanwyliaid y Nadolig hwn, ond yn wyneb y dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg mae'n amlwg bod yn rhaid i drefniadau'r Nadolig newid.

"Trwy weithio gyda'n gilydd a chadw at y rheolau gallwn sicrhau y bydd cymaint o bobl 芒 phosibl o gwmpas i ddathlu'r Nadolig gyda'n gilydd yn y blynyddoedd i ddod."

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AS, ei bod hi'n gywir bod y llywodraeth wedi cyflwyno'r cyfyngiadau yma yng ngolau'r wybodaeth wyddonol, ond bod "y cyfnod clo diweddaraf hwn yn amlygu'r angen i gyflwyno'r brechlyn yn gyflym, cynyddu'r gefnogaeth ariannol i'r rheini sy'n hunan-ynysu a chyflwyno pecyn o gefnogaeth i ganiat谩u i fusnesau oroesi'n llawn"

"Am y rhesymau hynny y gwnaethom alw ar Lywodraeth Cymru i weithredu yn gynharach yr wythnos hon - yn hytrach nag oedi penderfyniad a oedd bob amser yn ymddangos yn anochel.

"Heb os, bydd cyflwyno cyfyngiadau tynnach newydd yn siom i'r rhai a oedd wedi bwriadu gweld ffrindiau a theulu dros gyfnod y Nadolig.

"Fodd bynnag, mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i gadw ein gilydd yn ddiogel."