Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Amrywiad newydd Covid-19 'ym mhob rhan o Gymru'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Dynes mewn mwgwd yn cerdded ar stryd wagFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd nifer yr achosion coronafeirws yn cyrraedd pegwn arall ar ôl y Nadolig, hyd yn oed ar ôl cyflwyno'r cyfyngiadau clo yn gynnar, meddai'r gweinidog iechyd.

Dywedodd Vaughan Gething wrth Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Radio Wales bod y Llywodraeth wedi cyflwyno'r rheol aros gartref neithiwr yn "rhannol" o ganlyniad i straen newydd o'r firws.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru mae'r amrywiad 'yn bresennol' ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys y gogledd.

Dywedodd Mr Gething eu bod nhw fel gweinidogion wedi gweld tystiolaeth fod y straen yn "llawer mwy heintus".

Mae arweinwyr gwrthbleidiau yn galw am alw Senedd Cymru yn ôl yn ystod cyfnod y Nadolig.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, y byddai cyhoeddi cyfyngiadau llymach Covid yn gynt wedi atal pobl rhag rhuthro i'r siopau nos Sadwrn

Mae Cymru gyfan yn y lefel uchaf - lefel pedwar - erbyn hyn, gyda phob siop ond y rhai hanfodol ar gau, ac mae pobl yn cael eu hannog i "aros adref" i achub bywydau.

Mae pwysau ar y GIG wedi mynd yn waeth na'r hyn yr oedd y llywodraeth wedi ei ragdybio, meddai Mr Gething, a heb weithredu bydd "pegwn uwch fyth mewn achosion", meddai.

"Byddai (y GIG) mewn perygl o fethu ag ymdopi os na fyddwn yn gweithredu - ac mae risg o hynny hyd yn oed nawr," meddai.

"Dros yr wythnosau nesaf rydyn ni'n gwybod y bydd problem.

"Rydyn ni'n gwybod y bydd rhai pobl yn dal i gymysgu er gwaethaf y rheolau.

"Mae yna bobl y gallwn ni fod yn hyderus y byddan nhw'n gweld nifer o wahanol aelwydydd, a byddwn ni'n gweld pegwn arall o achosion ar ôl y Nadolig.

"Os na allwn ni gael mwy a mwy ohonom yn gwneud y peth iawn yna rydyn ni mewn perygl y bydd ein gwasanaeth iechyd gwladol yn cael ei lethu."

Disgrifiad o’r llun,

Dim ond siopau hanfodol sy'n cael aros ar agor yn ystod y cyfnod clo

Fe wnaeth Dr Frank Atherton, y Prif Swyddog Meddygol, ryddhau datganiad am y cyfyngiadau newydd neithiwr, gan ddweud fod "cyfran sylweddol" o heintiau COVID-19 yng Nghymru oherwydd yr amrywiad newydd, sy'n bresennol mewn gwahanol rannau o Gymru.

Dywedodd Dr Atherton ei bod yn ymddangos bod yr amrywiad newydd "yn sylweddol fwy trosglwyddadwy na'r firws math gwyllt".

Galwadau gwleidyddion

Wrth siarad ar raglen Dewi Llwyd ar Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Radio Cymru y bore ma fe ddwedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price: "Fe nes i ddweud wrth i Prif Weinidog dydd Mercher y dylid fod wedi dod a chyfyngiadau uwch mewn yn yr ardaloedd hynny o haint uchel cyn y Nadolig beth bynnag, hyd yn oed heb y wybodaeth newydd yma ynglÅ·n a'r amrywiad newydd o'r feirws, oherwydd o'dd y feriws dal yn carlamu o ran y cynnydd yn yr ardaloedd hynny."

"Mi o'dd y Prif Weinidog wedi gwrthod hynny ddydd Mercher ac wedyn wedi newid y polisi erbyn dydd Sadwrn.

"Mi fydde modd petai nhw wedi dod mas gyda'r cyhoeddiad dydd Mercher wrth gwrs mi fydden ni wedi osgoi wedyn y siopa munud ola' welon ni ddoe, ac mi fyddai busnesau wedi medru paratoi."

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar y Prif Weinidog i ail-alw Senedd Cymru yn ôl i drafod y datblygiadau diweddaraf.

Dywedodd gweinidog iechyd cysgodol y Ceidwadwyr Andrew RT Davies fod pwysau "enfawr" ar y GIG, ond dywedodd fod angen i weinidogion ddarparu tystiolaeth i gefnogi eu gweithredoedd.

"Nid wyf yn amau ​​didwylledd gweinidogion o gwbl, ond rwy'n credu bod angen i ni weld y dystiolaeth fel mater o frys," meddai.

"Deffrais y bore yma ac es i mewn i'm ebyst ac mae'n llawn o bobl ddryslyd yn pryderu am yr hyn sydd wedi digwydd."

Beth ydy'r rheolau newydd?

Mae'r cyhoeddiad heddiw yn golygu bod Cymru'n mynd i lefel pedwar o ran cyfyngiadau o hanner nos nos Sadwrn, sef y lefel fwyaf tebyg i'r cyfyngiadau welson ni yn yr hydref.

Fodd bynnag, yn wahanol i hynny, bydd ysgolion a gofal plant yn aros ar agor.

  • Bydd disgwyl i bobl aros gartref, bydd manwerthu a lletygarwch nad ydynt yn hanfodol yn gorfod cau - heblaw am wasanaethau 'clicio a chasglu' a siopau pryd ar glud.

  • Bydd cyfarfod ag aelwyd arall yn eich cartref eich hun yn cael ei wahardd, er y bydd cartrefi un person yn gallu cwrdd ag un cartref arall mewn trefniant swigen cymorth.

Bydd cyfyngiadau teithio ar waith hefyd.

  • Os ydych chi'n byw yng Nghymru, byddwch chi'n gallu teithio i gwrdd ag un cartref arall ar Ddydd Nadolig unrhyw le yng Nghymru.

  • Gallwch hefyd adael Cymru, yn amodol ar y cyfyngiadau lleol yn yr ardal y byddech chi'n teithio iddi, a'r angen i fod yn ôl gartref erbyn diwedd y dydd.

  • Bydd yr holl ddigwyddiadau dan do ac awyr agored ac atyniadau i ymwelwyr yn cael eu canslo neu eu cau, bydd campfeydd, siopau trin gwallt a llety gwyliau yn gorfod cau hefyd.

Nid oes dyddiad cau penodol ar gyfer codi'r lefel rhybudd - yn lle hynny mae set o feini prawf y mae'n rhaid eu cyrraedd er mwyn lleddfu cyfyngiadau.