麻豆官网首页入口

Cyllideb: Newid trethi ar ail gartrefi yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
MoneyFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd cynnydd yn y dreth sy'n cael ei godi wrth brynu ail gartref yn cael ei gynnwys yng nghynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru.

Daeth y cyhoeddiad wrth i'r Gweinidog Cyllid ddatgelu manylion cynllun gwariant ar gyfer y flwyddyn nesaf ddeuddydd ar 么l i Gymru gyflwyno cyfnod clo o'r newydd.

Dywedodd Rebecca Evans bod Cymru'n wynebu heriau wrth i gyllid ychwanegol ar gyfer Covid-19 grebachu.

Fe fydd y gyllideb yn cynyddu o 拢694m y flwyddyn nesaf, gan olygu bod tua 拢16.5bn i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus.

Dywedodd y gwrthbleidiau fod angen cynllun adferiad ar Gymru yn dilyn y pandemig.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd y gweinidog cyllid Rebecca Evans bod yna 'heriau gwirioneddol'

Fe gafodd Llywodraeth Cymru 拢5bn yn ychwanegol i'w wario ar ymateb i'r pandemig eleni, yn dilyn cytundeb gyda Llywodraeth y DU, ond bydd hynny'n disgyn i 拢766m yn 2021/22.

Cymorth i fusnesau yw'r gyfran fwyaf o'r arian a wariwyd hyd yma, gyda'r gwasanaeth iechyd yn ail.

Wrth gyhoeddi'r gyllideb olaf cyn yr etholiad, dywedodd Ms Evans y byddai effaith y pandemig yn ddwys iawn ar yr economi, ond y byddai'n asesu sut i wario'r arian dros y misoedd nesaf.

拢13m i dai cymdeithasol

Dywedodd llefarydd y bydd newid yn y dreth sy'n cael ei godi wrth werthu tir yn codi 拢13m i'w ddefnyddio ar gyfer聽ariannu prosiectau tai cymdeithasol.

Bydd y trothwy sy'n rhydd o dreth wrth brynu tai hyd at 拢250,000 yn dychwelyd i'r trothwy 拢180,000 ym mis Mawrth yn 么l y disgwyl.

Ond byddai hynny ddim ar gyfer ail gartrefi.聽

Hyd yma mae'r perchnogion yma wedi wynebu treth ychwanegol o o leiaf 3%.

Bydd hynny'n cynyddu i 4% ar gyfer tai sy'n costio hyd at 拢180,000, gan godi i 16% ar gyfer eiddo sy'n werth o leiaf 拢1.5m.

Bydd newidiadau eraill yn y gyllideb yn golygu na fydd busnesau yn talu unrhyw dreth wrth brynu eiddo sy'n werth hyd 拢225,000.

Mae swyddogion yn dweud bod y feirws, yr effaith ar yr economi a chanlyniad ansicr Brexit yn ei gwneud hi'n anodd gwybod a fydd digon o arian ar gael.

Daw'r rhan fwyaf o'r gyllideb yn uniongyrchol o'r Trysorlys yn Llundain, ond mae tua 17% yn cael ei godi drwy drethi datganoledig.

Mae gweinidogion yn gobeithio y bydd penderfyniadau gan y Canghellor yn rhoi hwb arall i gyllideb Cymru yn y flwyddyn newydd.

Dywedodd Ms Evans ei bod yn canolbwyntio ar ddiogelu bywydau, swyddi a gwasanaethau cyhoeddus, ond ychwanegodd: "Mae maint yr her yn wirioneddol arwyddocaol."

Roedd y gostyngiad yn y cyllid sy'n gysylltiedig a'r coronafeirws yn golygu "y bydd rhai heriau gwirioneddol a dewisiadau anodd i'w gwneud".

Ychwanegodd: "Gallwch weld bod gwahaniaeth enfawr yno yn y cyllid, sydd wedi'i ddyrannu.

"Efallai y byddwn yn disgwyl i rywfaint o gyllid pellach gael ei ryddhau i ni yn y flwyddyn nesaf.

"Ond yn amlwg, os nad yw'r ffigyrau hynny gennym ymlaen llaw mae'n ei gwneud hi'n llawer anoddach i gynllunio."

Beth yw ymateb y gwrthbleidiau?

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Nick Ramsey: "Mae Llywodraeth y DU wedi darparu 拢5 biliwn i Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael 芒 Covid-19 dros y 9 mis diwethaf, ar ben cynyddu cyllideb Llywodraeth Cymru o 拢1.4 biliwn beth bynnag eleni. Y flwyddyn nesaf bydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn cynyddu o leiaf 拢1.3 biliwn.

"Yn anffodus, fodd bynnag, gadawodd Llywodraeth Cymru 拢1.8 biliwn heb ei wario yn eu cyllideb ddiweddaraf.

"Wrth i Lywodraeth Cymru lansio eu cyllideb heddiw, rydyn ni am weld cyllideb sy'n cynyddu'r faint sy'n cael ei wario ar bobl ifanc."

Yn 么l llefarydd cyllid Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth mae'r arian sydd wedi cael ei ddarparu gan lywodraeth y DU yn "gwbl annigonol i gwrdd 芒'r heriau digynsail sy'n wynebu ein cenedl."

"Yn ystod y pandemig hwn, mae anghydraddoldeb yn gyffredin yng nghymunedau Cymru. Mae angen gweithredu ar frys i gydbwyso ein heconomi, i godi plant allan o dlodi, ac i gydnabod cyfraniad hanfodol ein gweithwyr rheng flaen.

"Ni ddylai unrhyw ranbarth o Gymru gael ei adael ar 么l yn yr ymdrech hon."