麻豆官网首页入口

70 yn rhagor o farwolaethau o Covid-19 yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
YsbytyFfynhonnell y llun, PA Media

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cofnodi bod 70 yn rhagor o farwolaethau cysylltiedig 芒 haint coronafeirws yng Nghymru gan gynyddu cyfanswm y marwolaethau i 3,368.

Yn ogystal mae 4,412 o achosion newydd wedi'u cofnodi gan godi cyfanswm yr achosion i 139,642.

Mae'r ffigyrau yn seiliedig ar wybodaeth a gafwyd dros ddeuddydd - sef o 09.00 fore Iau 24 o Ragfyr tan 09:00 fore San Steffan.

Mae cyfradd saith niwrnod yr achosion yng Nghymru bellach yn 558.6 ym mhob 100,000.

Yr awdurdod lleol gyda'r gyfradd uchaf yw Merthyr Tudful sef 1,089.1 ym mhob 100,000, mae cyfradd Pen-y-bont yn 1,025.5/100,00, Blaenau Gwent yn 854.5/100,000 a Chastell-nedd Port Talbot yn 845.7/100,000.

Cyngor newydd

Ddydd Sadwrn dywedodd Dr Chris Williams, Cyfarwyddwr Digwyddiadau ar gyfer yr ymateb i'r achosion o'r coronafeirws newydd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae'r cyfyngiadau symud yn parhau ac rydym yn cynghori pawb i aros gartref gymaint 芒 phosibl, ac i gyfyngu ar eich cysylltiadau cymdeithasol.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod y cyngor i'r rhai sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol, a oedd gynt yn 'gwarchod' eu hunain, wedi newid.

"Ni ddylai'r bobl hynny yn y gr诺p hwn fynychu'r gwaith na'r ysgol y tu allan i'r cartref mwyach. Yr opsiwn mwyaf diogel i'r bobl yn y gr诺p hwn yw cyfyngu ar gysylltiadau 芒 phobl eraill dros gyfnod yr 诺yl.

"Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd lleol, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill yn dilyn cyhoeddi cyfyngiadau cenedlaethol yng Nghymru o hanner nos ar 20 Rhagfyr 2020."

Pynciau cysylltiedig