'Pwysau sylweddol' ar ofal cymdeithasol yn Sir G芒r

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Dywed Cyngor Sir Gaerfyrddin fod gwasanaethau gofal cymdeithasol yn y sir dan "bwysau sylweddol" ar hyn o bryd o achos y pandemig coronafeirws.

Ar hyn o bryd, mae 34 o gartrefi gofal yn y sir gydag achosion Covid-19, neu'n methu 芒 chymryd lleoliadau wrth iddynt adfer gwasanaethau ar 么l gweld achosion.

Mewn datganiad, dywedodd yr awdurdod fod cartrefi gofal preifat a chartrefi gofal y cyngor ar draws y sir yn brwydro yn erbyn effaith y feirws, gyda gweithlu llai wrth i nifer fawr o ofalwyr gael eu gorfodi i hunan-ynysu.

Ychwanegodd y cyngor fod yr haint yn "cael effaith mor ddifrifol ar 10 cartref gofal fel bod y cyngor wedi gorfod cymryd camau i ddarparu cymorth a staffio ychwanegol", gyda'r cyngor ei hun mewn un achos yn gorfod rheoli cartref dros dro gan nad oedd staff na rheolwyr yn gallu gweithio.

Mae prinder staff hefyd yn effeithio ar ofal cartref, gan fod llawer o ofalwyr yn methu 芒 gweithio gan eu bod yn hunan-ynysu

Dywed y cyngor mai dim ond gofal hanfodol y gall ei ddarparu ar hyn o bryd.

Disgrifiad o'r llun, "Dyw'r cynllun brechu ddim wedi bod yn ddigon sydyn," meddai'r Cynghorydd Emlyn Dole

Dywedodd arweinydd y cyngor ar raglen Post Cyntaf 麻豆官网首页入口 Radio Cymru ei fod yn bwriadu codi'r mater gyda'r Gweinidog Iechyd mewn cyfarfod ddydd Mercher.

"Mae'r sefyllfa yn un sydd yn ddifrifol iawn ac wedi bod ar gynnydd wrth i'r pandemig gynyddu," meddai'r Cynghorydd Emlyn Dole.

"Drwy weithio yn agos gyda'r bwrdd iechyd fe gafodd rheolaeth ei osod yn ei le fel bod yna dimau yn barod i gamu i'r adwy lle mae'r gofyn yn ddifrifol a hynny wedi digwydd nawr ar sawl achlysur, yn aml ar benwythnos pan bod yn rhaid camu mewn ynghynt er mwyn sicrhau parhau i'r gofal.

"Dyw'r cynllun brechu ddim wedi bod yn ddigon sydyn - beth ry'n ni wedi ei ddeall yw bod y bobl sydd yn grwpiau blaenoriaeth 1 a 2, sy'n cynnwys staff iechyd, yn mynd i gael eu brechu cyn diwedd Chwefror ond ry'n ni'n clywed Boris Johnson yn dweud dros y ffin bod disgwyl o fewn chwe wythnos y bydd pawb wedi eu brechu hyd at gr诺p blaenoriaeth 4.

"Beth rydw i yn mynd i fod yn gofyn i Vaughan Gething mewn cyfarfod heddiw yw os dyma'r disgwyliad yn Lloegr, y dylid fod yr un disgwyliad yma yng Nghymru."

'Heriau sylweddol'

Dywedodd Jake Morgan, cyfarwyddwr cymunedau y cyngor, fod gwasanaethau gofal cymdeithasol yn wynebu heriau sylweddol.

"Dros yr wythnosau diwethaf mae gofal cymdeithasol wedi bod o dan bwysau sylweddol i gynnal gwasanaethau hanfodol," meddai.

"Yr her sylweddol i lawer o gartrefi yw cynnal lefelau staffio diogel ac rydym yn darparu gwasanaethau a staff yn uniongyrchol i gefnogi nifer o gartrefi yn y sir.

"Mae amrywiaeth o gynlluniau wrth gefn yr ydym wedi'u rhoi ar waith i leihau'r risg dros yr wythnosau nesaf ac rwy'n falch bod y mwyafrif o gleientiaid sy'n dal Covid-19 yn gallu gwella'n llwyr drwy ymdrechion ein staff gofal ac iechyd ymroddedig."

Disgrifiad o'r llun, Pencadlys y cyngor yng Nghaerfyrddin

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, yr aelod o'r bwrdd gweithredol dros iechyd a gofal cymdeithasol, y byddai'r risgiau'n parhau'n uchel nes i'r brechlyn gael ei gyflwyno ar gyfer defnyddwyr agored i niwed a staff gofal.

"Mae risgiau wedi bod yn uchel ar draws y sector dros y Nadolig a byddant yn parhau felly hyd nes y bydd y brechlyn wedi'i gyflwyno," meddai.

"Diolch byth, rydym eisoes yn gweld y budd i'r cartrefi gofal hynny a gafodd y brechlyn cyn y Nadolig.

"Rydym yn agos at weld y brechlyn yn cael effaith amddiffynnol wirioneddol yn ein cymunedau a byddwn yn gofyn i bawb yn y sir chwarae eu rhan i atal lledaeniad y feirws a rhoi'r cyfle gorau i ni amddiffyn ein pobl fwyaf agored i niwed."