麻豆官网首页入口

Amrywiolyn i gyfri am 70% o achosion Covid y gogledd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
CoronafeirwsFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae tua 70% o'r achosion Covid-19 yng ngogledd Cymru'n gysylltiedig 芒'r amrywiolyn newydd, yn 么l Prif Swyddog Meddygol Cymru.

Dywedodd Dr Frank Atherton fod y sefyllfa'n "amrywio'n fawr ar draws Cymru" ond bod llawer yn cael ei ddysgu ynghylch yr amrywiolyn.

"Does dim tystiolaeth ei fod yn straen mwy difrifol," meddai yn ystod cynhadledd newyddion Llywodraeth Cymru.

"Dyw pobl ddim yn cael math mwy difrifol o salwch, ond mae'n ffaith ei fod yn lledu'n gyflymach yn golygu bod mwy o bobl yn cael eu heintio.

"Ac os yw mwy o bobl yn cael eu heintio, ry'ch chi'n cael mwy o bobl yn yr ysbyty a mwy o bobl angen gofal dwys."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae disgwyl i'r amrywiolyn newydd ledu i bob rhan o Gymru, medd Dr Frank Atherton

Ychwanegodd mai'r gred ar hyn o bryd yw bod tua 70% o achosion positif yn y gogledd o ganlyniad i'r straen newydd o'r feirws, ond mae "ychydig yn llai, mwyaf tebyg" yn y rhannau eraill o Gymru.

Yn yr un gynhadledd, dywedodd Prif Weithredwr GIG Cymru, Dr Andrew Goodall bod y pwysau ar ysbytai'r gogledd wedi cynyddu "dros y pedair wythnos ddiwethaf".

Dywedodd bod nifer y cleifion Covid yng ngwl芒u'r ysbytai wedi cynyddu tua 33%, i 258, ers dechrau Rhagfyr. Mae nifer y cleifion sy'n cael gofal dwys "am resymau'n ymwneud 芒 Covid" yn y gogledd wedi codi o chwech i 20 dros gyfnod o bedair neu bum wythnos.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Dr Goodall y bydd yna "weithgaredd cynyddol" o ran y rhaglen frechu yng Nghymru yn ystod Ionawr

Dywedodd Dr Atherton bod yna le i gredu bod yr amrywiolyn newydd yn lledu ar yr un raddfa yng Nghymru ag sydd wedi'i weld yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr.

Yn yr ardaloedd hynny, dros gyfnod o ryw dair wythnos, fe gododd canran yr achosion o'r amrywiolyn newydd "o oddeutu 25% o'r holl achosion o Covid-19 i ymhell dros 95%".

Ychwanegodd fod yr amrywiolyn yn "clystyru" yn ne-ddwyrain Cymru a gogledd-ddwyrain Cymru" ond mae'n rhagweld y bydd yn lledu i bob rhan o'r wlad.

Cyflymu'r rhaglen frechu - ond mewn ffordd ddiogel

Ychwanegodd Dr Goodall y bydd yna "weithgaredd cynyddol" o ran y rhaglen frechu yng Nghymru yn ystod Ionawr, wrth i'r GIG gadarnhau'r trefniadau o ran derbyn cyflenwadau a rhoi brechiadau.

Pwysleisiodd mai dyma'r tro cyntaf i'r GIG gynnal rhaglen frechu ar gyfer "poblogaeth gyfan o fewn y math yma o amserlen", ond mae yna "ymroddiad ac uchelgais sylweddol iawn gan y GIG i ymateb i'r her yma".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhaid osgoi gwastraffu adnodd gwerthfawr wrth weithredu'r rhaglen frechu, medd Prif Swyddog Meddygol Cymru

Ychwanegodd Dr Atherton y bydd y GIG "yn mynd mor gyflym ag y gallwn ni", a'u bod yn datblygu cynlluniau gyda'r byrddau iechyd i gyflymu'r rhaglen frechu.

Ond mae'n cydnabod "bod yna rai cyfyngiadau y mae'n rhaid eu cadw mewn golwg, a bod angen i'r broses fod yn ddiogel, er yr awydd i frechu mwy o bobl mor fuan 芒 phosib".

"Mae hwn yn adnodd gwerthfawr - ni allwn fforddio i'w wastraffu," meddai.

"O ran y dyfodol rhagweladwy, byddwn ni yn gyson 芒 chyflenwad cyfyngedig felly fe awn cyn gyflymed ag y gallwn ni gyda'r cyflenwadau sydd gyda ni."

Pynciau cysylltiedig