Galw am gau llysoedd i atal Covid mewn carchardai

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd undeb y POA bod "clwstwr enfawr" o achosion yng ngharchar Caerdydd

Mae'r corff sy'n cynrychioli staff carchardai wedi galw am gau'r llysoedd er mwyn atal lledaeniad coronafeirws mewn carchardai.

Daw'r alwad wedi i ffigyrau ddangos cynnydd mawr yn nifer yr achosion o Covid-19 yng ngharchardai Cymru.

Dywedodd Mark Fairhurst o undeb POA bod "clwstwr enfawr" o achosion yng ngharchar Caerdydd, a'i bod hi'n anodd canfod lle er mwyn i garcharorion newydd hunan-ynysu.

Yn 么l y Gwasanaeth Carchardai mae cysgodi a phrofi torfol wedi'u cyflwyno ym mhob carchar.

Ychwanegodd llefarydd bod y mesurau yn lleihau'r lledaeniad, a bod rhaglen i brofi carcharorion sy'n mynd i'r llys yn cael ei roi ar waith hefyd, ac nad oes unrhyw gynlluniau i gau'r llysoedd.

'Anodd canfod lle i ynysu'

Ond dywedodd y POA bod carcharorion yn cael eu symud rhwng carchardai, gan gynyddu'r lledaeniad.

"Dylid gadael i achosion sydd eisoes wedi dechrau i orffen, ond ni ddylid dechrau achosion newydd os nad ydyn nhw'n gallu cael eu cynnal yn llawn trwy gyswllt fideo," meddai Mr Fairhurst.

"Pan ydych chi'n dod i mewn i garchar am y tro cyntaf rydych chi'n ynysu am 10 diwrnod, ond rydyn ni'n ei chael yn anodd canfod y lle i wneud hynny oherwydd y pwysau sy'n dod o'r llysoedd.

"Pe bai'r llysoedd yn cael eu cau, ni fyddech chi'n gorfod gwneud hynny."

Disgrifiad o'r llun, Mae mesurau mewn lle i geisio cadw pellter mewn llysoedd

Ychwanegodd bod gormod o garcharorion yn cael eu rhyddhau o'u celloedd ar yr un pryd yng Nghaerdydd.

"Mae Abertawe wedi cadw lefelau yn isel am eu bod yn dilyn yr arferion gorau, gan adael ychydig allan ar unwaith, ac mae hynny wedi gweithio," meddai Mr Fairhurst.

22 o achosion oedd yng ngharchar Caerdydd ym mis Mehefin, ond erbyn mis Tachwedd roedd hynny wedi codi i 110.

Dros yr un cyfnod yn Abertawe, dim ond o 12 i 14 y cododd y ffigyrau.

Ond mae'r twf mewn achosion yn llawer uwch y tu allan i garchardai na thu mewn.

Ffynhonnell y llun, Allington Hughes

Disgrifiad o'r llun, Dywed y gyfreithwraig Melissa Griffiths bod yn rhaid i lysoedd fod ar agor

Mae galwad y POA wedi cael ei feirniadu gan rannau eraill o'r sector, gyda'r angen i gadw llysoedd ar agor yn cael ei weld fel blaenoriaeth gan nifer.

"Rydyn ni'n brysurach nag erioed," meddai'r gyfreithwraig Melissa Griffiths o gwmni Allington Hughes yn Wrecsam.

"Oni bai eich bod yn cael moratoriwm ar droseddu, fyddai byth yn digwydd, mae angen i'r llysoedd fod ar agor."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Carchar Berwyn sydd wedi gweld y nifer fwyaf o achosion ymhlith staff - 66

Bu gostyngiad yn nifer y troseddau yn ystod cyfnod clo gwanwyn 2020, ond dywedodd Ms Griffiths nad oedd hynny wedi para, a thra bod llysoedd yn gwneud eu gorau i atal lledaeniad y feirws, bod rhai risgiau nad oes modd eu hosgoi.

"Bob tro rydych chi'n mynd i'r llys mae 'na risg - dydych chi ddim yn gwybod gyda phwy fyddwch chi'n dod i gyswllt - ond heb y llysoedd fe fyddai popeth yn disgyn i ddarnau," meddai.

"Mae'n rhaid i chi gael y llysoedd oherwydd fe fydd 'na wastad droseddau difrifol yn digwydd, ac mae angen gallu cael caniat芒d i gadw'r bobl hynny yn y ddalfa."

Ychwanegodd bod y ffaith fod llysoedd wedi cau am gyfnod ar ddechrau'r pandemig wedi achosi oedi mawr i achosion, a bod rhestrau aros hir yn parhau ers hynny.

Faint o achosion Covid-19 sydd yna yng ngharchardai Cymru?

Mae cais rhyddid gwybodaeth wedi dangos bod nifer yr achosion wedi cynyddu 210% rhwng Mehefin a Thachwedd, ond ledled Cymru roedd cynnydd o 436% dros yr un cyfnod.

Roedd traean o'r holl achosion yng ngharchar Caerdydd, sydd wedi gweld cynnydd o 400% dros y cyfnod.

Ond yn Abertawe - safle tebyg i Gaerdydd sy'n cadw dynion sydd wedi'u gweld mewn llysoedd lleol yn y ddalfa - doedd fawr o gynnydd o gwbl.

Fe wnaeth achosion gynyddu 528% o saith i 44 yng ngharchar y Parc ym Mhen-y-bont, a chynyddu 48% o 41 i 61 yng ngharchar Berwyn yn Wrecsam.

Fe wnaeth nifer yr achosion yng ngharchardai agored Prescoed a Brynbuga gynyddu 342% dros y cyfnod, o 19 i 84 achos.

Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos bod 163 o weithwyr carchardai wedi cael eu heintio hefyd - 66 yn Wrecsam, 31 ym Mhen-y-bont, 30 yng Nghaerdydd, 15 ar gyfer Prescoed a Brynbuga a 14 yn Abertawe.