麻豆官网首页入口

Effaith 'ddychrynllyd' Covid-19 ar Ysbyty Maelor Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Ysbyty

Mae effaith cynnydd sydyn yn nifer y cleifion sy'n derbyn gofal critigol o achos coronafeirws yn "ddychrynllyd", yn 么l cyfarwyddwr meddygol yn Ysbyty Maelor Wrecsam.

Yr ysbyty, sydd dan ofal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, oedd y diweddaraf i atal llawdriniaethau arferol wrth geisio delio 芒 niferoedd cynyddol o gleifion Covid-19.

Mae'r bwrdd wedi canslo'r mwyafrif o lawdriniaethau ar gyfer y pythefnos nesaf, er bydd rhai cleifion yn derbyn apwyntiadau ym Mangor.

Mae swyddogion wedi ymddiheuro i gleifion am unrhyw anghyfleuster all godi yn dilyn ad-drefnu triniaethau.

Bydd llawfeddygaeth frys, llawfeddygaeth gastroberfeddol, endosgopi a thriniaeth gesaraidd yn parhau yn ysbyty Wrecsam.

'Aildrefnu ac adleoli'

Mae Wrecsam wedi gweld niferoedd uchel o Covid-19 yn ddiweddar, a'r ardal hon sydd gyda'r gyfradd uchaf o Covid-19 yng Nghymru, sef 897.3 o achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth.

Mae hyn yn fwy na dwbl cyfartaledd achosion Cymru, sydd yn 435.9 ymhob 100,000 medd Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dywedodd Dr Steve Stanaway fod y sefyllfa yn Ysbyty Maelor Wrecsam bellach yn "eithaf hectig".

Wrth siarad gyda 麻豆官网首页入口 Radio Wales, esboniodd: "Mae'r ysbyty'n canolbwyntio i raddau helaeth ar y funud ar waith cleifion mewnol, gyda'r mwyafrif helaeth o hynny'n waith meddygol, ac mae darn mawr o hynny yn amlwg yn canolbwyntio ar Covid, felly bu llawer o aildrefnu ac adleoli staff, sydd yn creu llawer o faterion ychwanegol.

"Os gallwch chi ddychmygu'r ysbyty'n gweithio dan gryn dipyn o bwysau ar y funud - mae pobl wedi blino, mae pobl yn gorfod dod i arfer ag amgylcheddau gwaith newydd, ac mae hynny ynddo'i hun yn gwneud yr ysbyty yn lle anghyffredin i weithio ynddo, o'i gymharu 芒'r hyn ydyn ni wedi arfer."

Dywedodd Dr Stanaway fod y cynnydd yn y galw ar staff i ddelio ag achosion Covid-19 wedi arwain at effeithiau ar feysydd gofal eraill.

"Yn anffodus, roedd yn rhaid i ni roi'r gorau i lawdriniaeth ddewisol, sydd wedi bod yn siom fawr i bawb yn y bwrdd iechyd, nid yn yr ysbyty yn unig, ac mae hynny wedi creu llawer o straen a phryder, yn anad dim i'r bobl sydd yn gobeithio cael eu triniaethau yr wythnos hon.

"Bu'n rhaid i ni ad-drefnu'r ysbyty, a throi llawer ohono drosodd i ofal Covid - yn y b么n mae rhan fawr o'r coridor uchaf wedi'i ddynodi ar gyfer hynny...

"Ac mae gennym hefyd straen a phwysau penodol ar ein huned gofal critigol, a'n huned gofal uchel, sydd ill dau wedi gorfod delio 芒 niferoedd sy'n cynyddu'n gyflym yn dod drwy'r drysau."

'Cyfraddau brawychus'

Disgrifiodd Dr Stanaway ei bryder am nifer uchel o achosion coronafeirws yn y rhanbarth: "Mae'r niferoedd a'r cyfraddau achos yn Wrecsam a Sir y Fflint yn frawychus, ac i roi hynny yn ei gyd-destun, mae cyfradd achosion cyfartalog Cymru ar hyn o bryd fesul 100,000 o bobl yn oddeutu 450 - ac yma yn Wrecsam, rydyn ni tua dwbl hynny, ac mae'n ein rhoi ni mewn gwirionedd ychydig y tu 么l i lefydd fel Llundain ar sail y DU - ac mae hynny'n golygu llawer iawn o afiechyd yn y gymuned."

Dywedodd yr Athro Arpan Guha, cyfarwyddwr meddygol gweithredol dros dro Ysbyty Maelor Wrecsam: "Mae yna lawer o gleifion yn disgwyl cael llawdriniaeth yn Wrecsam dros yr wythnosau nesaf ac rydym yn cydnabod pa mor bryderus y byddant eisoes yngl欧n 芒 chael llawdriniaeth yn ystod cynnydd presennol y pandemig.

"Mae'n ddrwg gennym am unrhyw drallod neu anghyfleustra pellach y gallai'r penderfyniad hwn ei achosi a hoffem sicrhau'r rhai sydd wedi eu heffeithio ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i flaenoriaethu cleifion sydd 芒'r angen mwyaf brys am ofal."