麻豆官网首页入口

Y pandemig 'wedi gwella' gwasanaethau trawsrywedd

  • Cyhoeddwyd
Stacy WinsonFfynhonnell y llun, Stacy Winson
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dechreuodd Stacy Winson o Gaernarfon ar ei thriniaeth yn 2014

Mae pandemig Covid-19 wedi gorfodi gwasanaethau i bobl trawsryweddol newid "er y gwell" yn 么l dynes o Gaernarfon sydd wedi bod yn derbyn triniaeth.

Tra bod unigolion trawsryweddol bellach yn gallu derbyn rhai triniaethau gan eu byrddau iechyd lleol ar 么l i'r Gwasanaeth Rhywedd Gymreig (Welsh Gender Service), gael ei sefydlu 18 mis yn 么l, mae nifer fawr yn dal i berthyn i'r hen drefn lle bu'n rhaid teithio i Lundain am wasanaethau.

Yn 么l Stacy Winson o Gaernarfon, mae'r gymuned trawsryweddol wedi bod yn "gweiddi" am newid y drefn yma ers blynyddoedd, a gan fod y pandemig yn cyfyngu ar deithio mae'r gwasanaeth bellach yn cynnal sesiynau ar Zoom.

Tra bod hynny'n cael ei groesawu gan fudiadau fel Stonewall Cymru, mae 'na bryder o hyd bod nifer yn y gymuned trawsryweddol yn parhau i deimlo'n unig gan fod y gefnogaeth sydd ar gael "wedi newid".

Er mwyn derbyn triniaeth ymgynghorol a llawdriniaethau corfforol mae Stacy Winson, 27, wedi gorfod teithio i'r clinig trawsryweddol yn Llundain wyth o weithiau.

Costiodd cannoedd o bunnoedd ac oriau i ffwrdd o'i gwaith, ond pan darodd y coronafeirws fe newidiodd y drefn, ac fe gafodd Stacy yr hyn yr oedd hi wedi bod yn galw amdano - sesiynau trafod ymgynghorol dros y we.

"Mae pob person Cymraeg [trawsryweddol] wedi bod yn gweiddi am hyn... maen nhw r诺an wedi bod yn gwneud pethau dros Zoom," meddai.

"Da ni jest y mynd ar webcam a siarad ac mae o mor hawdd.

"Neshi ofyn i'r doctor, ydy hyn am aros? A 'naeth o ddweud bod o'n gobeithio.

"Bydde wedi safio fi gymaint o amser a gymaint o bres a hassle i fynd ar Zoom am hanner awr."

Ffynhonnell y llun, Stacy Winson
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Stacy, ar y chwith, yn forwyn ym mhriodas ei brawd yn 2016

Yn 么l Stacy mi fyddai derbyn triniaethau tebyg dros y we ac osgoi teithio i Lundain yn gwneud y broses yn fwy "normal" ac yn fwy "hygyrch".

"Ar y funud ti'n teimlo fel bod ti'n special case ac yn minority," meddai.

"Yn Llundain ti'n mynd i'r ysbyty ond dydy'r clinig ddim yna, a ti'n gorfod mynd lawr rhyw alley way a cnocio ar ddrws a ti'n teimlo fel does neb isio ti."

Rhoi hyder

Yn ystod ei saith mlynedd o drawsnewid mae Stacy wedi derbyn nifer o driniaethau, a'r gost yna yn cael ei dalu gan y Gwasanaeth Iechyd.

Mae hi wedi derbyn triniaeth i newid t么n ei llais i fod yn uwch a thriniaeth i newid si芒p y gwddf.

Ond mae hi r诺an yn dweud ei bod hi'n benthyg arian er mwyn talu am gynyddu maint ei bronnau gan nad yw'r tyfiant naturiol yn rhoi "digon o hyder" iddi, a does dim modd iddi dderbyn rhagor o driniaeth felly gan y Gwasanaeth Iechyd.

"Dwi'n lwcus mae gen i job decent a dwi'n gallu fforddio fo ond dydy rhai pobl ddim a dwi'n deall faint ma' body confidence yn mynd mewn iddo fo.

"Mae cael y driniaeth yna mor bwysig a dwi mor siomedig bod yr NHS ddim yn cynnig o ddim mwy."

Ffynhonnell y llun, Stacy Winson
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Stacy yn y broses o fenthyg arian er mwyn cael llawdriniaeth bellach

Yn 么l Gwasanaeth Iechyd Arbenigol Cymru does dim modd "gwneud sylw ar achosion unigol" ond maen nhw'n dweud nad yw'r triniaethau hyn "fel arfer yn cael eu cynnig yn rheolaidd" a bod yn rhaid i gleifion wneud cais arbennig am driniaethau tebyg sy'n cael eu hystyried fesul unigolyn.

Ers 18 mis mae Llywodraeth Cymru a'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi cyflwyno mwy o wasanaethau i bobl drawsryweddol yn lleol yn dilyn sefydliad y Gwasanaeth Rhywedd Gymreig.

Ond mae Stacy'n mynnu bod yr arbenigedd yn parhau yn fratiog er iddi weld gwelliannau.

"Os ti'n s么n am y doctoriaid, ti'n dechrau gweld o [y newid mewn agweddau]," meddai.

"Mae'n well, mae 'na rai sy'n deall ac sy'n gallu helpu ond mae 'na dal sawl issue 'efo rhai doctoriaid."

Profiad 'unig'

O'r triniaethau meddygol i ymateb pobl ar y stryd mae Stacy yn dweud fod agweddau wedi newid yn syfrdanol mewn saith mlynedd.

Bellach mae 'na lai yn gweiddi'n dreisgar arni ond pan mae pobl yn, mae'n dweud fod hynny yn brifo'n fwy.

"Pan neshi ddod allan yn gyntaf, oni'n disgwyl gadael y t欧 a chael rhywun yn dweud rhywbeth bob dydd," meddai.

"Dyddiau yma, ella nai gael look bach. Ond mae'n effeithio fi fwy r诺an achos dwi wedi neud lot ar fy edrychiad ac os mae rhywun yn dweud rhywbeth mae'n brifo achos dwi'n meddwl... 'be dwi di neud yn wrong?'"

Ffynhonnell y llun, Stacy Winson
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Stacy Winson a'i chwaer Rosie

Does gan Lywodraeth Cymru ddim ffigyrau yn nodi faint o bobl trawsryweddol sydd yng Nghymru, ond maen nhw'n dweud y bydd y cwestiwn yn cael ei ofyn, am y tro cyntaf, yn y cyfrifiad eleni.

Ychwanegodd llefarydd fod y Gwasanaeth Rhywedd Gymreig wedi gwneud gwahaniaeth mawr i nifer yn y gymuned trawsryweddol wrth sicrhau gwasanaethau'n agosach at adref.

Mae Stacy yn dod i ddiwedd ei thriniaeth a'r 18 mis nesaf yn dyngedfennol gyda disgwyl y llawdriniaethau olaf a mwyaf er mwyn trawsnewid yn llawn.

Ei neges i eraill sy'n teimlo'n debyg yw bod y sefyllfa wedi gwella ond "fydd yn dal rhaid i chi gwffio".

Pynciau cysylltiedig