麻豆官网首页入口

'Gallai cyfnod clo cynharach fod wedi achub bywydau'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Vaughan Gething
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Vaughan Gething y gallai penderfyniadau wedi cael eu gwneud yn gynt ar ddechrau'r pandemig

Gallai bywydau fod wedi'u harbed pe byddai Cymru wedi mynd i gyfnod clo yn gynt ar ddechrau'r pandemig o edrych yn 么l, medd y Gweinidog Iechyd.

Fe wnaeth Vaughan Gething y sylwadau wrth siarad am y pwysau sy'n wynebu'r rhai sy'n creu polisi i ddelio gyda Covid-19.

Ond roedd hefyd yn credu fod y penderfyniadau yn gywir yn seiliedig ar y wybodaeth oedd ar gael ar y pryd.

Mae 4,775 o bobl wedi marw gyda coronafeirws yng Nghymru ers Mawrth 2020, ac mae 192,912 o achosion o'r haint wedi eu cadarnhau.

Aeth Cymru i'r cyfnod clo cyntaf ar 23 Mawrth - yr un pryd 芒 gweddill y DU - ac fe ddaeth Llywodraeth Cymru dan y lach yn gynnar oherwydd cyflymder profion mewn cartrefi gofal a'r cynllun profi ac olrhain.

'Bydden ni wedi gwneud penderfyniadau gwahanol'

Dywedodd Mr Gething: "O edrych 'n么l, pe byddai gyda ni'r cyfle i wneud hyn i gyd eto fe fydden ni wedi gwneud penderfyniadau gwahanol ar ffiniau yn bendant.

"Fe fydden ni bron yn sicr wedi mynd i gyfnod clo wythnos neu ddwy yn gynt, a mwy na thebyg wedi arbed mwy o fywydau pe bydden ni wedi gwneud hynny.

"Rwy'n credu ar y dewisiadau mawr ry'n ni wedi dysgu llawer. Felly pe byddai'r wybodaeth sydd gennym nawr wedi bod yna, fe fyddwn i'n bendant wedi gwneud dewisiadau gwahanol ar adegau gwahanol o'r pandemig.

"Fe fydden ni wedi medru cael cychwyn cynnar ar ein gallu i gynnal profion. Fe fydden ni wedi gallu gwneud penderfyniadau gwahanol am brofion mewn cartrefi gofal yn gynt.

"Fe wnaethon ni gael ein hunain mewn safle da ar PPE a wnaethon ni fyth rhedeg allan, ond roedd hi'n dynn iawn ar adegau gwahanol."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Aeth Cymru i'r cyfnod clo cyntaf ar yr un pryd 芒 gweddill y DU ar 23 Mawrth 2020

O siarad gydag ymgynghorwyr gwyddonol Llywodraeth Cymru, roedden nhw i gyd yn cytuno bod y cyngor a roddwyd ar y pryd yn gywir yn seiliedig ar y wybodaeth oedd ganddyn nhw.

Ond pe byddai'r wybodaeth sydd ganddyn nhw nawr ar gael bryd hynny, fe fyddai'r cyngor wedi bod yn wahanol.

Roedd Mr Gething yn cyfadde' bod gwneud penderfyniadau mor bwysig wedi gadael ei 么l.

'Fe allai fod yn llawer gwaeth'

"Os ydych chi'n cael trafodaeth am yr angen i gynllunio am gladdu torfol, fel oedden ni ar ddechrau'r pandemig, yna mae hynny'n eich sobri chi yn gyflym am faint yr her sy'n ein hwynebu," meddai.

"Nes i erioed feddwl y byddai'n rhaid i mi wneud penderfyniadau oedd 芒 goblygiadau fel hyn.

"Ry'n ni wedi colli ymhell dros 4,000 o ddinasyddion Cymru i'r pandemig... ond fe allai fod wedi bod yn llawer, llawer gwaeth.

"Heb y camau a gymrwyd gennym, rwy'n sicr y bydden ni wedi colli llawer mwy o bobl."

'Dysgu drwy wneud camgymeriadau'

Cafodd Llywodraeth Cymru hefyd ei beirniadu am arafwch wrth ddechrau brechu pobl, ond mae'r gyfradd frechu yng Nghymru bellach yn uwch na rhannau eraill o'r DU gyda 416,306 wedi derbyn y dos cyntaf o'r brechlyn.

Yn y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd Mr Gething y byddai modd i'r rhaglen frechu fynd yn gynt, ond bod nifer y brechlynnau sydd ar gael yn ei ddal yn 么l.

Dywedodd bod disgwyl i'r llywodraeth frechu'r pedwar gr诺p blaenoriaeth cyntaf erbyn canol Chwefror.

Byddai'r brechu'n cyflymu eto'r wythnos hon, meddai, ond mai'r cyfyngiad ar hynny yw sawl dos o'r brechlyn sydd ar gael.

"Dwi'n meddwl ymhob rhan o'r DU, yn sicr yma yng Nghymru, gallwn ni roi mwy o frechlynnau petai mwy o gyflenwad, yn enwedig petai mwy o gyflenwad AstraZeneca achos mae'n haws i'w ddefnyddio."

Yn gynharach, dywedodd: "Rydych chi'n dysgu drwy wneud camgymeriadau hefyd.

"Dylen ni ddim ceisio dweud fod popeth wedi bod yn berffaith... ond does neb wedi gorfod gwneud hyn o'r blaen. Rwy'n credu bod y math yna o onestrwydd yn bwysig i bobl."