'Problemau dyled ar fin ffrwydro' oherwydd y pandemig'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae ofnau bod y pandemig wedi gwaethygu problemau pobl oedd eisoes mewn trafferthion ariannol

Mae dros 280,000 o bobl yng Nghymru wedi methu talu taliadau rheolaidd ers dechrau'r pandemig, yn 么l ymchwil Cyngor ar Bopeth.

Mae'r elusen yn amcangyfrif fod aelwydydd yng Nghymru 拢73m mewn dyled o ran taliadau rhent, biliau ynni a threth cyngor.

Dywed yr elusen iechyd meddwl Hafal eu bod yn "boddi" dan geisiadau gan bobl sydd angen cefnogaeth.

Yn 么l Llywodraeth Cymru, mae 115,000 o bobl wedi cael cymorth at broblemau'n ymwneud 芒 dyled a chyflogaeth.

"Mae yna gysylltiad anochel rhwng dyled ac iechyd meddwl - gall fod yn gylch dieflig," medd cydlynydd gwasanaeth cyngor ariannol Hafal, Adrian Nicholas, sy'n rhagweld y bydd y misoedd nesaf yn rhai anodd iawn.

"Yn amlwg, mae'r pandemig yn parhau, ond yn anffodus dyw'r ddyled ag aethpwyd iddo yn y cyfnod hwn ddim yn mynd i ddiflannu dros nos.

"Mwya' buan y gallai pobl ddechrau cael help gyda'u trafferthion ariannol, gorau i gyd o ran eu hiechyd ariannol a meddyliol."

'Covid wastad yn gwneud pethau'n fwy anodd'

Mae Rose - nid ein henw cywir - o Gaerffili yn fam i ddau blentyn yn eu harddegau. Bu farw ei mam gyda Covid-19 ym mis Ebrill.

Mae ei sefyllfa ariannol yn heriol ers rhai blynyddoedd, ond mae ei phroblemau dyled wedi gwaethygu'n sylweddol ers dechrau'r pandemig - yn rhannol wrth "ei chael yn anodd dod i delerau" 芒'r brofedigaeth.

"Roedd yn ddigon anodd addysgu plant 15 oed a 12 oed adref tra roedd [Mam] yn s芒l yn yr ysbyty ond ers i ni ei cholli mae fy iechyd meddwl wedi dirywio'n arw.

"A minnau'n ceisio galaru, roedd Covid wastad yn gwneud pethau'n fwy anodd. Roedd fy miliau'n codi oherwydd roedd rhaid prynu bwyd ychwanegol gan fod y plant ddim yn bwyta yn yr ysgol.

"Cododd costau gwresogi a thrydan ac roedd popeth jyst yn ormod i mi.

"Mae poeni am effaith Covid ar addysg fy mhlant, gan fod gyda nhw ddim laptop yr un i wneud eu gwersi, wedi gwneud imi deimlo mor isel.

"Mae bod yn stuck adre oherwydd Covid wedi gwneud i mi a'r plant deimlo mor unig. Doedd gen i neb i siarad 芒 nhw a do'n i ddim yn gallu wynebu fy nyledion."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd pennaeth polisi ac ymgyrchoedd Cyngor ar Bopeth Cymru, Rhiannon Evans: "Rydym yn wirioneddol bryderus bod problemau dyled yn cynyddu ac ar fin ffrwydro i bobl.

"Mae sawl cynllun, wrth gwrs, ar y foment i helpu pobl, ond wrth i'r pandemig fynd rhagddo a'r cynlluniau hynny'n dod i ben, bydd pobl mewn sefyllfa o fod mewn cryn ddyled na allen nhw dalu.

"Rydym hefyd wedi gweld adroddiadau gofidus bod rhai cynghorau wedi dechrau camau casglu dyledion treth cyngor unwaith yn rhagor, hyd yn oed yn ystod cyfnod clo.

"Hoffwn weld Llywodraeth Cymru'n sefydlu safonau statudol cenedlaethol o ran casglu dyledion treth cyngor i sicrhau nad yw hynny'n gwthio pobl ymhellach i drafferthion ariannol."

Disgrifiad o'r llun, Mae arian ar gael i helpu pobl 芒 thrafferthion dyled a chyflogaeth, medd Eluned Morgan

Nododd yr elusen Stepchange mewn adroddiad diweddar fod "argyfwng dyled personol yn dod i'r amlwg" o ganlyniad i'r pandemig.

Dywedodd un o'u cyfarwyddwyr, Richard Lane: "Yng Nghymru, fel yng ngweddill y DU, rydym yn gweld lefelau gofidus o bobl yn fregus yn ariannol, yn arbennig ymhlith y rhai sydd wedi'u taro waethaf gan y pandemig."

Mae'r rheiny, ychwanegodd, yn cynnwys pobl "oedd eisoes mewn trafferthion cyn y pandemig, fel pobl sy'n rhentu'u cartrefi, pobl ifanc, rhieni sengl a phobl ar incwm isel".

Ddechrau'r wythnos, dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Lles, Eluned Morgan fod dros 拢10m wedi'i neilltuo i helpu datrys problemau yn cynnwys rhai'n ymwneud 芒 dyled a chyflogaeth.

Mae'r gronfa dan sylw wedi helpu dros 115,000 o bobl eleni, yn 么l Ms Morgan.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnal cynllun peilot sy'n cyfeirio pobl at Gyngor ar Bopeth os oes daer angen help i ad-dalu dyledion.

Dywedodd y Trysorlys bod dros 拢280bn wedi'i fuddsoddi i warchod swyddi a busnesau ers dechrau'n pandemig a bod Llywodraeth Cymru wedi cael 拢5.2bn ychwanegol i ymateb i'r argyfwng yma.