Siopa mwy ar-lein yn creu rhagor o waith ailgylchu

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae preswylwyr yn derbyn mwy o becynnau trwy'r post yn sgil gorfod aros adref ers dechrau'r pandemig

Mae cynnydd mawr mewn siopa ar-lein a derbyn pecynnau gartref wedi creu twf aruthrol o ran ailgylchu ar draws Cymru.

Ers saith wythnos, mae Cymru dan gyfnod clo ac mae gofyn i bobl osgoi gadael eu cartrefi.

O ganlyniad, medd cynghorau, mae pobl yn ailgylchu mwy - yn Rhondda Cynon Taf yn unig, cafodd 500 tunnell yn ychwanegol ei ailgylchu dros gyfnod y Nadolig.

Mae gwelliannau o ran ailgylchu yn "galonogol", medd Llywodraeth Cymru.

Mae'n arferol i bobl ailgylchu mwy dros wyliau'r Nadolig, ond roedd cynnydd "sylweddol" eleni wrth i bobl aros adref a derbyn anrhegion a phecynnau trwy'r post.

Dywed llawer o'r awdurdodau lleol bod casglu nifer cynyddol o fagiau gwastraff tra bod staff yn s芒l gyda Covid, a'r tywydd yn arw, wedi bod yn heriol.

Mae rhai casgliadau, gan gynnwys gwastraff gardd, yn dal wedi'u hatal am y tro.

Dros wyliau'r Nadolig, cafodd:

  • Tua 400 tunnell ychwanegol o bethau eu hailgylchu yng Nghaerdydd - cynnydd o 25% mewn blwyddyn;
  • 410 tunnell yn fwy yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr; a
  • 2,770 tunnell - digon i lenwi 692 o lor茂au lludw - yn Rhondda Cynon Taf, sy'n 500 tunnell (18%) yn fwy nag yn 2019.

Dyma oedd y "Nadolig gwyrddaf erioed", medd Cyngor Rhondda Cynon Taf wrth ganmol preswylwyr y sir sydd wedi'i tharo'n arbennig o galed yn y flwyddyn ddiwethaf.

Cafodd 450 tunnell ei gasglu mewn un diwrnod yno, gyda rhai trigolion yn cyfrannu dros 50 o fagiau.

Er niferoedd uchel o achosion Covid yn y gymuned, "cymharol fach fu trafferthion prinder staff" yn 么l y cyngor.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Roedd yna ostyngiad ym maint y sbwriel a gafodd ei gasglu yn nhri mis cyntaf y pandemig

Effaith cyfnodau clo

Mae gofyn i gynghorau Cymru ailgylchu 70% o'u gwastraff erbyn 2024 neu wynebu dirwyon o 拢200 y dunnell. Y nod yw stopio tirlenwi erbyn 2050.

Cafodd mwy o wastraff nag erioed ei ailgylchu yng Nghymru yn 2019-20, sef 65.1%.

Ond mae ffigyrau cychwynnol StatsCymru'n awgrymu llai o ailgylchu ym misoedd cyntaf y pandemig wrth i fusnesau gau a phobol ddechrau gweithio gartref.

Yn 2019-20, cafodd bron i 300,000 tunnell o wastraff - tua 4% o'r holl wastraff bwrdeistrefol - ei gasglu o eiddo masnachol a diwydiannol, gan gynnwys 137,488 tunnell o ailgylchu.

Gostyngodd maint y gwastraff a gafodd ei ailgylchu, ailddefnyddio neu'i gompostio o 66.8% rhwng Ebrill a Mehefin 2019 i 64% union 12 mis yn ddiweddarach.

Ond roedd hynny yn sgil llai o wastraff yn gyffredinol, gostyngiad o 400,000 tunnell i 339,600. Gyda siopau, tafarndai a chaffis ar gau, Bu'n rhaid tirlenwi llawer llai o wastraff - 17,325 tunnell o'i gymharu 芒 34,667 y tri mis cyfatebol yn 2019.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Caerdydd

Disgrifiad o'r llun, Dywed Cyngor Caerdydd fod delio 芒 mwy o ailgylchu dros gyfnod y Nadolig yn heriol

'Salwch staff abiniau'n orlawn'

Dywed rhai cynghorau eu bod yn delio 芒 lefelau gwastraff cynyddol, a staff yn s芒l gyda Covid-19 neu'n hunan-ynysu.

Yn ystod y cyfnod clo cyntaf, bu'n rhaid llosgi gwastraff am gyfnod yn hytrach na'i ddidoli ac ailgylchu, oherwydd prinder staff.

Er mwyn ymdopi, fe drefnodd sawl cyngor weithwyr a lor茂au ychwanegol.

Bu'n rhaid trefnu mwy o gasgliadau i "ddal i fyny" ag oddeutu 30% yn fwy o wastraff ym Mro Morgannwg.

Dywed Cyngor Caerdydd, a fethodd ei darged ailgylchu yn 2019-20, y bydd cyrraedd targed 2020-21 yn "heriol eithriadol" yn sgil "prinder staff sylweddol".

Roedd gasglu 400 tunnell o wastraff ychwanegol dros y Nadolig yn frwydr, ychwanegodd.

"Mae'r cyngor hefyd wedi gweld 17% yn llai o staff yn yr adran gan fod gweithwyr wedi profi'n bositif am Covid, yn y categori bregus, neu'n hunan-ynysu," medd llefarydd.

'Cyfuniad digynsail o ffactorau'

Disgrifiad o'r llun, Un o strydoedd canol Rhuthun dan dd诺r wedi Storm Christoph

Gwaethygodd y pwysau wrth i Storm Christoph atal casgliadau gwastraff. Roedd rhai ardaloedd dan dd诺r ac eraill yn amhosib i'w cyrraedd oherwydd rhew ac eira.

Cafodd Cyngor Sir Y Fflint feirniadaeth am fethu 芒 chasglu plastig a chardfwrdd rhwng Nadolig a'r Calan, ond yn 么l un o brif swyddogion y gwasanaeth, Steve Jones, mae'r cyfuniad y pandemig a'r tywydd yn "ddigynsail"

Mae'n cyfaddef fod rhai aelodau staff "wedi mynd yn rhy bell" wrth ymateb i feirniadaeth ar y cyfryngau cymdeithasol, a hynny am eu bod wedi gweithio mor galed.

Dywed rhai cynghorau fod tipio anghyfreithlon ar gynnydd, a biniau sbwriel cyhoeddus yn orlawn wrth i bobl roi'u gwastraff cartref ynddyn nhw.

Mae Llywodraeth Cymru'n cynnal ymgynghoriad ar atal sbwriel gan fod mwy o boteli plastig, mygydau a thipio anghyfreithiol mewn mannau prydferth.

Mae'n cynnwys cynigion i fusnesau ddefnyddio llai o becynnau, cynyddu dirwyon am daflu sbwriel, a gwneud taflu sbwriel o gerbyd yn anghyfreithlon.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service

Disgrifiad o'r llun, Sbwriel yn ardal Comin Gelligaer, yn Sir Caerffili haf diwethaf

Parcio'n creu rhwystrau

Gyda mwy o bobl yn gweithio adref, dywed rhai cynghorau, yn cynnwys Penfro, fod lor茂au casglu gwastraff methu mynd trwy rai strydoedd, gyda llawer o gerbydau'n creu rhwystrau ar balmentydd.

Ym Merthyr, mae criwiau wedi dechrau gweithio'n gynt yn y bore ac mae mwy o gerbydau ar waith, ond mae rhai pobl yn defnyddio iaith sarhaus wrth siarad gyda staff ei ganolfan alwadau.

Mae rhai cynghorau wedi cyhoeddi cynlluniau i dorri gwasanaethau wrth geisio aros o fewn eu cyllidebau yn sgil y pandemig, gan beryglu swyddi.

Fe allai Powys ddilyn esiampl Cyngor Conwy a chasglu sbwriel unwaith y mis er mwyn arbed 拢164,000 y flwyddyn nesaf ac annog ailgylchu.

Dywed Llywodraeth Cymru fod cynghorau'n ceisio sicrhau fod sbwriel yn cael ei "ailddefnyddio, ailgynhyrchu a'i ailgylchu yn lle ei dirlenwi, sy'n arbennig o heriol yn sgil cyfraddau casglu uwch o fewn awdurdodau unigol wedi cyfnod y Nadolig".