Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ymchwilio i neges hiliol at chwaraewr Abertawe, Yan Dhanda
Mae'r heddlu'n ymchwilio i gamdriniaeth hiliol tuag at un o chwaraewyr Clwb 笔锚濒-诲谤辞别诲 Abertawe.
Fe wnaeth chwaraewr canol cae yr Elyrch, Yan Dhanda, sydd 芒 chefndir Asiaidd, dderbyn negeseuon ar wefannau cymdeithasol yn dilyn colled ei d卯m i Manchester City yng Nghwpan yr FA.
Mae clybiau Abertawe a Manchester City wedi condemnio'r digwyddiad, gydag Abertawe wedi cyfeirio'r mater at Heddlu De Cymru.
Mae Manchester City yn dweud y byddan nhw'n cefnogi'r heddlu i ddarganfod a oedd eu cefnogwyr nhw'n rhan o'r digwyddiad.
Ar Twitter nos Fercher, dywedodd Dhanda, sy'n 22: "Sut bod hyn dal yn digwydd yn 2021? Dwi mor falch o bwy ydw i a chynrychioli pobl Asiaidd. Rhaid gwneud mwy."
Dywedodd yr Elyrch bod gan Dhanda eu "cefnogaeth lawn", a'u bod "wedi tristau" gan y digwyddiad.
Mae'r heddlu wedi cadarnhau bod ymchwiliad wedi dechrau.
Chwaraeodd Dhanda y rhan fwyaf o'r g锚m yn erbyn Man City nos Fercher, wrth i'r Elyrch golli o 3-1.
Dhanda, a gafodd ei eni yn Birmingham, yw'r diweddara' mewn cyfres o b锚l-droedwyr i gael eu targedu gan negeseuon hiliol ar-lein.