麻豆官网首页入口

Ailagor twristiaeth erbyn y Pasg yn bosibilrwydd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
LlandudnoFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd penwythnos y Pasg yn digwydd eleni rhwng Gwener y Groglith ar 2 Ebrill a dydd Llun y Pasg ar 5 Ebrill

Mae'r prif weinidog Mark Drakeford wedi dweud fod trafodaethau wedi bod am ailagor rhan o'r diwydiant twristiaeth erbyn y Pasg.

Ar raglen Dros Frecwast ar Radio Cymru, awgrymodd Mr Drakeford bod "llwybr tuag at ailagor" rhannau o'r diwydiant twristiaeth os fydd y gyfradd heintio Covid presennol yn parhau i ddisgyn.

Roedd yn pwysleisio bod angen gofal wrth ailagor unrhyw beth, ond roedd yn cydnabod hefyd pwysigrwydd cyfnod y Pasg i'r diwydiant twristiaeth.

Ond ychwanegodd y bydd unrhyw lacio yn y cyfyngiadau yn cael ei wneud yn "araf" fesul cam.

Dywedodd fod y gyfradd heintio dros saith niwrnod bellach wedi disgyn i oddeutu 100 achos am bob 100,000 o'r boblogaeth, ond bod cwymp pellach yn dibynnu ar faterion oedd allan o ddwylo Llywodraeth Cymru.

"Allwn ni adeiladu ar y llwyddiant yma? Mae'n dibynnu ar bethau sydd ddim yn ein dwylo ni," meddai.

"Os ni yn llwyddo, alla i weld llwybr tan y Pasg lle allwn ni ddechrau yn ofalus i lacio y cyfyngiadau sydd 'da ni ar hyn o bryd."

Roedd y prif weinidog wedi awgrymu ddiwedd Ionawr ei fod yn gobeithio gwneud newidiadau, ond dyma'r tro cyntaf iddo ddatgelu fod trafodaethau pendant wedi bod gyda'r diwydiant twristiaeth.

Roedd yn pwysleisio serch hynny y gallai pethau newid yn gyflym iawn os fyddai amrywiolion newydd o coronafeirws yn ymddangos, neu os fydd y gyfradd heintio yn dechrau codi eto.

'Yn araf a gyda'r gofal eithaf'

Yn y gynhadledd i'r wasg ddydd Gwener, dywedodd Mr Drakeford os yw'r cynnydd presennol o ran nifer achosion o Covid yn parhau fe fydd modd llacio cyfyngiadau erbyn y Pasg ond yn "araf" a gyda'r "gofal eithaf".

"Mae hynny yn cynnwys twristiaeth ond rhaid i ni fod yn gweld gostyngiadau pellach yn nifer yr achosion a llai o bwysau ar ein gwasanaeth iechyd," meddai.

"Os ydym yn parhau ar y llwybr presennol bydd modd llacio'r cyfyngiadau sydd ar hyn o bryd yn effeithio ar bob agwedd o'n bywydau.

"Ond mae'r llwybr hwnnw yn ddibynnol ar lwyddiant parhaus - yn ystod y 12 mis diwethaf mae'r haint yn rhy aml wedi cyflwyno ambell i syrpr茅is amhleserus."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae economi nifer o drefi glan m么r Cymru, fel Llandudno, yn ddibynnol ar dwristiaeth

Ychwanegodd Mr Drakeford mewn cyfweliad gyda 麻豆官网首页入口 Cymru brynhawn Gwener y byddai'r diwydiant yn ailagor fesul cam - nid popeth ar unwaith.

"Ni ddylai unrhyw un feddwl ein bod yn siarad am ailagor y diwydiant twristiaeth yn ei gyfanrwydd ar yr un pryd," meddai.

"Mae'n debygol iawn o fod yn debyg i'r hyn ddigwyddodd y llynedd - fe ddechreuon ni gyda llety hunan-wasanaeth a gwneud yn si诺r bod hynny'n ddiogel, ac yna symud ymlaen i'r camau nesaf.

"Mae gwneud pethau'n ofalus, gam-wrth-gam, hyd yn oed yn fwy angenrheidiol eleni gan fod gennym yr amrywiolyn o Kent sy'n symud o berson i berson yn llawer haws."