麻豆官网首页入口

12 mis o Covid yng Nghymru: 'Gwersi i'w dysgu'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
cadwch yn glirFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Gweinidog Iechyd Cymru wedi cydnabod y gallai pethau wedi cael eu gwneud yn wahanol i fynd i'r afael 芒 Covid 19.

Fe wnaeth Vaughan Gething ei sylwadau wrth siarad gyda 麻豆官网首页入口 Cymru, flwyddyn union ers i'r achos cyntaf o coronafeirws gael ei gofnodi yma yng Nghymru.

Roedd yr achos cyntaf hwnnw yn ymwneud ag oedolyn ddaeth adref i Abertawe o ogledd yr Eidal ar 28 Chwefror 2020, fis cyn i'r cyfnod clo ddechrau.

Wrth edrych yn 么l dywedodd Mr Gething, y gallai gweinidogion fod wedi "ymyrryd ynghynt".

"Os ydych chi'n edrych yn 么l, fe fedrwch chi weld bod yna botensial i wneud dewisiadau gwahanol. Wrth edrych ymlaen mae yna yn bendant wersi i'w dysgu," meddai ar raglen Sunday Supplement ar 麻豆官网首页入口 Radio Wales.

"O wybod beth oedd yn digwydd yn China, roedden ni yn gwybod bod problem ar y ffordd. Roeddem ni yn gwybod ei fod yn heintus.

"Rwy'n meddwl y byddem ni nawr wedi cymryd camau i gyfyngu ar deithio rhyngwladol."

Mynnodd Mr Gething ei fod yn credu bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r cyngor cywir i bobl yn seiliedig ar y wybodaeth arbenigol ar y pryd.

Galwodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, am fabwysiadu "fframwaith gyffredin" o reolau Covid-19 trwy'r Deyrnas Gyfunol dros y misoedd nesaf.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe aeth Vaughan Gething gyda'i fam i gael ei dos cyntaf o'r brechlyn ddydd Sadwrn

Ddydd Sadwrn, dangosodd yr ystadegau diweddaraf bod dros filiwn dos o'r brechlyn rhag Covid-19 wedi eu rhoi yng Nghymru yn y 12 wythnos ers dechrau'r rhaglen frechu.

Cyfanswm ydy hwn o'r nifer sydd wedi cael un dos a'r rhai sydd eisoes wedi cael ail ddos.

Mae'r rhan fwyaf o breswylwyr cartrefi gofal a grwpiau targed eraill dros 70 oed wedi cael eu dos cyntaf.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal eu hadolygiad nesaf o'r rheolau yn gysylltiedig ag aros gartref ar 12 Mawrth.