麻豆官网首页入口

Llunio cynllun i lywio ailddatblygiad Shotton

  • Cyhoeddwyd
Shotton
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Me'r cyngor yn pwysleisio manteision y dref fel ei banciau, cysylltiadau trafnidiaeth a chyfleoedd am waith

Mae'r gwaith o lunio cynllun i lywio ailddatblygiad tref yn Sir y Fflint wedi cychwyn.

Penderfynodd yr awdurdod lleol fwrw ati i greu uwchgynllun i Shotton yn dilyn pryderon am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal.

Bydd y ddogfen yn amlinellu gweledigaeth ac amryw o amcanion i'r dref ar gyfer y pump i 10 mlynedd nesaf.

"Yn anffodus, roedden ni'n cael llawer o broblemau yn Shotton, yn arbennig gyda gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol, cymryd cyffuriau, a phroblemau amgylcheddol," meddai'r Cynghorydd Sean Bibby.

"Roedd llawer o'r henoed yn ofn dod lawr i Shotton i siopa, mae pobl wedi cael eu brifo gan bobl yn seiclo ar y palmant a ['dyn ni wedi] gweld pobl yn bod yn s芒l iawn ar 么l cymryd cyffuriau."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd y Cynghorydd Sean Bibby bod modd "gwella'r dref, a'i chodi ar ei thraed eto"

Mae pwyllgor llywio aml-asiantaeth wedi cael ei ffurfio wedi i gabinet y sir gymeradwyo'r syniad o greu uwchgynllun ganol mis Chwefror.

Yn 么l y Cynghorydd Ian Roberts, arweinydd y cyngor, bydd y broses yn galluogi'r awdurdod i "ganolbwyntio'n agos iawn ar un gymuned" ac mae eisiau i'r ddogfen derfynol fod yn "uchelgeisiol a realistig".

"Does dim rheswm i beidio bod yn uchelgeisiol. Efallai bod gan rywun yn Shotton syniad gwych am sut mae gwella eu tref, ac felly pan fyddwn yn cynnal ymgynghoriad, fydd popeth yn cael ei ystyried," meddai.

Eisoes mae cynlluniau ar y gweill i wella gorsaf rheilffordd ac isadeiledd seiclo'r dref, ac mae'r cyngor yn pwysleisio manteision y dref fel ei banciau, cysylltiadau trafnidiaeth a chyfleoedd am waith.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Does dim rheswm i beidio bod yn uchelgeisiol," meddai'r Cynghorydd Ian Roberts

"Mae rhai o'r problemau, a'r ffordd maen nhw wedi cael eu hadrodd, efallai, wedi creu llawer o broblemau i ddelwedd y dref. Does dim amheuaeth o hynny," meddai'r Cynghorydd Bibby.

"Ond dwi'n meddwl mai rhan o'r broses ydy cael pawb allan yn gweithio'n ddi-baid i wella'r dref, a'i chodi ar ei thraed eto, a dwi'n meddwl bydd hynny'n codi hyder pobl y gymuned yn y dref."

Mae'r uwchgynllun yn cael ei lunio ar y cyd 芒 sefydliadau yn y sector gyhoeddus a'r trydydd sector, fel yr heddlu, y bwrdd iechyd lleol a Thrafnidiaeth Cymru.

Mae disgwyl i gynllun drafft gael ei gyflwyno i gynghorwyr ym mis Gorffennaf.