麻豆官网首页入口

Gem gyfeillgar: Cymru 1-0 Mecsico

  • Cyhoeddwyd
Kieffer Moore a'i g么l dros GymruFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyma oedd pumed g么l Kieffer Moore mewn 14 g锚m dros Gymru

Ar achlysur 100fed cap Chris Gunter cafodd Cymru fuddugoliaeth deilwng mewn g锚m gyfeillgar gyda Mecsico.

Gan orffwys nifer fawr o'u prif ddetholion, cyn g锚m ragbrofol Cwpan y Byd ddydd Mawrth yn erbyn y Weriniaeth Tsiec, fe darodd Cymru g么l fuddugol gynnar diolch i Kieffer Moore.

Roedd Mecsico yn rheoli'r g锚m am gyfnodau mawr ond fe fethon nhw a chreu llawer o gyfleoedd.

Daeth y cyfle gorau i'r ymwelwyr i Hirving Lozano yn yr ail hanner ond cafodd ei arbed gan Wayne Hennessey.

O ystyried pa mor arbrofol a dibrofiad oedd y Cymry yn yr un ar ddeg gychwynnodd y g锚m, roedd hwn yn ganlyniad clodwiw yn erbyn t卯m cryf o Fecsico, sydd yn nawfed yn y byd.

Ac yn fwy na hynny, roedd o leiaf yn rhyw fath o deyrnged i Gunter, na allai ddathlu ei garreg filltir gyda'i gefnogwyr yn stadiwm wag Dinas Caerdydd.

Y chwaraewr 31 oed yw'r chwaraewr gwrywaidd cyntaf i ennill 100 o gapiau i Gymru .

Efallai mai'r agwedd fwyaf pleserus ar berfformiad Cymru oedd eu gwytnwch amddiffynnol wrth gadw gwrthwynebwyr rhag sgorio, a dyma'r tro cyntaf iddyn nhw gael eu trechu ers 2019 pan gollon nhw yn erbyn Ariannin.

Bydd y Weriniaeth Siec yn teithio i Gaerdydd ar gyfer g锚m ragbrofol nos Fawrth, wrth i Gymru geisio sicrhau eu pwyntiau cyntaf yn yr ymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd 2022.