麻豆官网首页入口

T芒n ar safle Amgueddfa Cymru yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Amgueddfa
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae diffoddwyr wedi cael eu gweld yn cael eu codi i do yr adeilad

Mae diffoddwyr yn delio gyda th芒n yn Amgueddfa Cymru yng Nghaerdydd, yn 么l Gwasanaeth T芒n ac Achub De Cymru.

Dywedodd y gwasanaeth ei fod wedi cael ei alw i'r adeilad yn ardal Cathays toc wedi hanner dydd.

Ychwanegodd bod sawl criw wedi mynychu, ac mae diffoddwyr wedi eu gweld yn cael eu codi i do yr adeilad.

Ond mae'r amgueddfa'n dweud nad oes unrhyw ddifrod wedi'i achosi i gasgliadau.

Ffynhonnell y llun, Robert Gale/@awv

Dywedodd yr amgueddfa ar ei chyfrif Twitter: "Gallwn ni gadarnhau bod t芒n bach wedi bod yn y d么m yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd amser cinio dydd Iau.

"Ni chafodd unrhyw staff eu brifo ac ni ddifrodwyd unrhyw gasgliadau

"Mae'r t芒n wedi cael ei ddiffodd yn llwyddiannus ac mae'r gwasanaeth t芒n yn ymchwilio i achos y t芒n."

Pynciau cysylltiedig