Dyn anymwybodol wedi'i achub ar 么l neidio i'r m么r o uchder
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwasanaethau brys wedi erfyn ar bobl i beidio neidio i'r m么r o uchder ar 么l iddyn nhw orfod achub dyn anymwybodol o'r d诺r yn Sir Benfro ddydd Sadwrn.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod y dyn 23 oed wedi cael ei achub ar 么l neidio o glogwyn yn Ninbych-y-pysgod.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ger Ynys Catrin toc wedi 18:00 nos Sadwrn.
Doedd y dyn ddim yn anadlu ond fe wnaeth y gwasanaethau brys berfformio CPR arno ac mae bellach yn gwella ar 么l cael ei gludo i Ysbyty Treforys yn Abertawe.
"Mae'r digwyddiad yma yn pwysleisio'r perygl o neidio o glogwyni, neu tombstoning - gall y canlyniadau fod yn beryg bywyd," meddai'r Arolygydd Gavin Howells.
"Rydyn ni'n erfyn ar bobl i beidio 芒 chymryd rhan yn y math yma o weithgaredd - dim ots ble ar hyd ein harfordir - a rhoi eu hunain a'r gwasanaethau brys mewn perygl."