Covid hir: 'Symptomau am fisoedd lawer'

Disgrifiad o'r llun, Llinos Jones: 'Yn bendant dwi ddim yr un peth ers covid'

Mae gwaith ymchwil gan Asthma UK a Sefydliad yr Ysgyfaint yn awgrymu fod pobl sy'n dioddef gyda Covid hir yng Nghymru yn wynebu ystod eang o symptomau am fisoedd lawer ar 么l cael y salwch.

Dywedodd tri chwarter o'r bobl gafodd eu holi bod y Covid hir wedi effeithio ar eu gwaith, ymarfer corff a'u gweithgareddau dyddiol fel gwaith t欧.

Mae Llinos Jones sy'n 56 oed yn byw ym Maesybont ger Cross Hands ac yn gweithio yn y feddygfa leol.

Ym mis Mawrth y llynedd cafodd Llinos, sydd hefyd yn wraig fferm, ei tharo gan Covid.

"Blwyddyn i nawr oedd hi ac mae'n rhaid dweud wnaeth e'n llorio i.

"Dwi'n un sydd 芒 tipyn o egni ac mae'n rhaid dweud dwi ddim wedi bod mor s芒l 芒 hynny ers tipyn i ddweud y gwir.

"Bues i bedwar diwrnod yn y gwely a dyw hynny yn bendant ddim fel fi.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae gwaith ymchwil yn awgrymu fod pobl sy'n dioddef gyda covid hir yn wynebu ystod eang o symptomau am fisoedd lawer

"Ar 么l hynny troi 'chydig o gornel a wedyn es i n么l wedyn 'to - ychydig yn s芒l ac ers hynny yn dal i deimlo sgil effeithiau covid," meddai.

"Prinder anadl yn bennaf a dwi'n un sy'n eitha' ffit, teimlo blinder, ble byddwn i efallai yn gallu mynd am oriau - teimlo nawr bod blinder yn taro fi dipyn yn gynt yn y dydd, yn bendant dwi ddim yr un peth ers covid."

"Wrth bod y flwyddyn wedi mynd yn ei blaen ry' ni'n yn dod ar draws tipyn o gleifion sydd wedi dioddef o hyn yn anffodus.

"Mae o'n dod nawr i ymwybyddiaeth y byrddau iechyd a'r meddygon fod e yn broblem.

"Yn 2019 dwy flynedd yn 么l nes i lwyddo gyda'r ferch i wneud y 3 Peaks, wel byddwn i bendant ddim yn ddigon ffit i wneud hynny.

"Mae'r feirws yn newydd i bawb felly mae pawb yn dysgu o'r sgil effeithiau. Mae'r sgil effeithiau yn wahanol ac yn effeithio unigolion yn wahanol."

Dywedodd ei bod yn ffodus ei bod hi wedi cael y cyfle i gael y brechlyn ac mae'n annog pawb i'w gael. Ond wrth gyfeirio at Covid hir ychwanegodd.

"Fe fydd yna ymchwiliad mewn i fe, oherwydd dyw'r peth ddim yn gorffen fan hyn."