麻豆官网首页入口

Lle oeddwn i: Si么n Huw Davies a FFIT Cymru

  • Cyhoeddwyd
Si么n HuwFfynhonnell y llun, S4C

Nos Fawrth, ar 么l wyth wythnos, cafodd gwylwyr FFIT Cymru weld ffrwyth llafur y pump arweinydd sydd wedi ymdrechu i wella eu ffitrwydd, eu hiechyd a thrawsnewid eu bywydau.

Un o'r rheiny oedd Si么n Huw Davies, athro 50 oed o Brestatyn. Llwyddodd y tad i dri golli dwy st么n a dau bwys drwy ddilyn cynllun FFIT Cymru, ond nid yw'r siwrne drosodd eto, meddai...

Er mod i'n gallu rhoi'r masg ymlaen ac actio fel mod i'n hapus, o'n i'n ymwybodol iawn mod i ddim yn hapus efo'n hun, a bod rhaid i bethau newid.

Welis i hysbyseb FFIT Cymru, a nes i ddeud 'iawn, ti'n gwneud hwn r诺an, ac os ti'm yn ei 'neud o r诺an, 'nei di fyth gwneud'. Nes i lenwi'r ffurflen yn y fan a'r lle, ac agor fy ff么n a bwrw mol ar fideo, a'i yrru o, cyn i mi ddifaru.

Ddechrau mis Chwefror, 'nath FFIT Cymru ffonio, a nes i ddeud mod i'n tynnu n么l, a rhoi'r ff么n i lawr! Ond mi ddywedodd Rachel, 'ti'n ffonio nhw n么l r诺an, ti'n ei 'neud o'. A mi nes i.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ar ddechrau'r gyfres, roedd Si么n Huw yn pwyso 21 st么n 8 pwys, ac er ei fod yn ymddangos yn hapus, roedd yn gwybod fod rhaid i rywbeth newid

Cefnogaeth

Mae'r arbenigwyr wedi bod yn anhygoel. I ni fel pump, mae 'na bedwar arbenigwr, achos mae Lisa hefyd yn un ohonyn nhw. Lisa, Sioned, Dr Ioan a Rae; maen nhw wedi bod yn gefn i ni - a phawb arall tu 么l i'r llen hefyd.

A'r pedwar arall - 'da ni wedi bod yn gry' efo'n gilydd ers y cychwyn, ac mae hynny'n parhau. Mae ganddon ni gr诺p Whatsapp, ac os dwi heb edrych ar y ff么n am rhyw hanner awr, ti'n gwybod mi fydd 'na un ohonyn nhw 'di deud rhywbeth.

I feddwl, wyth wythnos yn 么l do'n i'm yn 'nabod nhw o gwbl... mae'n anhygoel pa mor agos 'da ni wedi dod.

'Dan ni wedi bod yn rhan o rywbeth anhygoel.

Ffynhonnell y llun, SPORTPICTURESCYMRU
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Arweinwyr FFIT Cymru yn barod amdani: Leah, Dylan, Bronwen, Si么n Huw a Lois

Trawsnewid

Y peth sydd wedi newid mwya' ydi yn feddyliol, y pethau 'di neb yn gweld. Mae'n hawdd gweld mod i 'di colli pwysau, ond dwi 'di newid fy agwedd tuag at bethau, dwi 'di dysgu lot am fwyd, fy mherthynas i efo bwyd, a fy agwedd i at symud... mae pob dim 'di newid.

Roedd yr abseilio a'r nofio d诺r oer yn heriau corfforol - heb y pedwar arall, dwi'm yn meddwl 'swn i 'di gwneud.

Ond yr her mwya' oedd dechrau, wyth wythnos yn 么l. Ond fel ddywedodd Rhys Patchell yn y dasg gynta', 'cam wrth gam'...

Ffynhonnell y llun, SportpicturesCymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cam wrth gam... cwblhaodd Si么n Huw ei ras 5km gyntaf yn ystod y gyfres

Mae 'na lawer iawn o ffordd i fynd, ond erbyn y rhaglen chwe mis, dwisho gweld gwahaniaeth mawr; dwisho gweld newid i fi.

Mae pob diwrnod yn fricsen yn y wal - a mewn ffordd, dwi'm yn gorfod poeni am y wal o gwbl. Be' dwi'n gorfod poeni amdano fo ydi rhoi bricsen heddiw i lawr; 'neith y wal adeiladu am ei hun wedyn.

Jyst gwneud yn si诺r mod i'n rhoi y fricsen nesa' sy'n bwysig.

Achub bywyd

'Naeth David, o gyfres 2, ddeud fod FFIT Cymru wedi achub ei fywyd o, ac mae hynny'n wir amdana i - mae o wedi achub fy mywyd i, ond mae o hefyd wedi rhoi bywyd i mi.

Dwi'n annog pawb i gychwyn, achos dyna 'di'r rhan anodd. Ar 么l 'chydig wythnosau, ti'n gweld y gwerth, a mae o werth pob ymdrech.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Am drawsnewidiad! Si么n Huw a gweddill arweinwyr FFIT Cymru, sydd yn parhau i fod yn gefn i'w gilydd

Dwi'n teimlo'n od oherwydd, naw wythnos yn 么l, mi o'n i'n un o'r bobl 'na oedd yn ista ar y soffa, ac yn meddwl 'mi ddylwn i ddechrau hwn', a dwi r诺an yn un o'r bobl 'na sy'n deud 'mae o mor werth ei 'neud'.

'Di'r daith ddim 'di gorffen. Mae'r daith hyd yn hyn wedi bod yn anhygoel, ond dwi'n cario 'mlaen.

Hefyd o ddiddordeb: