麻豆官网首页入口

'Angen gwario mwy o arian ar addysg'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
ystalyfera
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed athrawon bod rhai plant wedi colli hyder yn ystod y pandemig

Dylai Llywodraeth Cymru wario mwy o arian ar addysg wrth i'r wlad adfer o effeithiau'r pandemig, yn 么l economegydd blaenllaw.

Dywedodd yr Athro Gerald Holtham bod angen canolbwyntio adnoddau ar 'gefnogi addysg' a theuluoedd ifanc.

Awgrymodd hefyd y dylid ystyried cyflwyno "toll un-tro" er mwyn codi cyfalaf i adfer y system addysg.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi darparu arian ychwanegol y flwyddyn ariannol hon i gefnogi dysgwyr.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Mae llawer o blant wedi colli cyfle yn sgil y pandemig,' medd yr Athro Gerald Holtham

Yn 么l yr Athro Holtham, sy'n gyn-ymgynghorydd i'r llywodraeth ac yn athro gwadd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, mae'r "pwysau gwleidyddol i wario ar iechyd bob amser yn drwm iawn" ond mae'n pwysleisio bod gwariant ar addysg yn "arbennig o bwysig" ar hyn o bryd.

"Yn fy marn i mae'n bwysig iawn i Lywodraeth Cymru wario mwy o arian ar addysg ar hyn o bryd achos ar 么l y pandemig mae llawer o blant wedi colli cyfle, colli amser yn y system ac mae'n bwysig iawn ceisio llenwi'r twll yna - mae'n bwysig iawn."

Gwariant ar iechyd a gofal cymdeithasol yw tua hanner cyllideb Llywodraeth Cymru. Mae addysg yn cyfrif am oddeutu 21% o gyfanswm y gwariant.

Er ei fod yn credu bod angen 'strategaeth addysg tymor hir' mae'r Athro Holtham yn awgrymu y gallai 'toll un-tro' y flwyddyn nesaf helpu athrawon a disgyblion i ddal i fyny wedi'r holl darfu ar addysg.

Mae'r Education Policy Institute wedi amcangyfrif y bydd angen rhwng 拢600m a 拢900m dros dair blynedd i helpu plant yng Nghymru i ddal i fyny ar ddysgu coll.

Dywed Llywodraeth Cymru bod 拢150m o gyllid newydd eisoes wedi'i roi i'r sector eleni.

Yn gynharach yn y mis, ymddiswyddodd comisiynydd adfer addysg Lloegr gan ddweud bod y cyllid oedd wedi ei glustnodi gan lywodraeth Prydain yn is na'r hyn oedd ei angen.

'Colli hyder'

Mae Lesley Spurway, athrawes Blwyddyn 1 Ysgol Gyfun Gymraeg Ystalyfera yng Nghastell-nedd Port Talbot yn dweud bod modd gweld effaith y pandemig ar addysg y plant.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Mae llawer o blant wedi colli hyder,' medd Lesley Spurway

"Mae'r plant wedi colli eu hyder a'u hannibyniaeth gyda'r iaith Gymraeg, felly ni wedi bod yn ffocysu ar siarad a gwrando," meddai.

Ychwanegodd ei bod yn bwysig parhau i fuddsoddi fel bod plant yn dal i fyny gyda'u haddysg.

"Ni 'di bod yn ffodus iawn, ma'r ysgol wedi buddsoddi arian i gau'r bwlch. Ni wedi cyflogi mwy o staff, mae 18 o ddisgyblion gyda fi ym Mlwyddyn 1 a dwy gynorthwywraig.

"Felly ni wedi gweld yr effaith yn barod oherwydd o fewn y saith wythnos diwethaf, ni heb gael unrhyw doriad ar ei draws, ma'r plant wedi elwa. Ond dwi yn meddwl mae angen i hyn barhau yn y dyfodol agos er mwyn cau'r bwlch."

Mae wedi bod yn flwyddyn heriol i ddisgyblion h欧n hefyd, yn 么l Hannah Ambler, pennaeth Blwyddyn 11.

"Mae rhai wedi anghofio, efallai, fel mae cyfathrebu, wedi colli hyder yn y Gymraeg achos bod nhw wedi cael llai o amser i ymarfer gyda ni yma yn yr ysgol," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Mae wedi bod yn flwyddyn heriol,' medd Hannah Ambler, pennaeth Blwyddyn 11 Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur

"Felly mae cau'r bwlch o ran sgiliau sylfaenol cyfathrebu wedi bod yn flaenoriaeth pan wnaeth y disgyblion ddychwelyd.

"Tase na fuddsoddiad o arian, bydde hynny yn hynod o werthfawr o ran cau'r bylchau yma," ychwanegodd. "

Mae'r pandemig a'r cyfnodau clo wedi cael effeithiau unigryw ar ysgolion gwahanol am bod disgyblion ysgolion yn wahanol ac felly byddwn ni'n sicr yn defnyddio pob un cymorth i gau'r bylchau."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Sophie a Rhodri o Flwyddyn 12 wedi colli gallu siarad yn uniongyrchol ag athrawon

Dywedodd Sophie, disgybl Blwyddyn 12 yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur ei bod wedi bod yn 18 mis "cymhleth".

"Ni'n colli'r cyfathrebu uniongyrchol gyda'r athrawon i fod yn sicr gyda phynciau. Ni wedi colli amser dysgu, colli amser i drafod i gael gwared [ag unrhyw ansicrwydd] cyn arholiadau," meddai.

"Mae'n gymhleth achos 'dy'n ddim eisiau colli amser yn dysgu pethau newydd [tra'n dysgu'r] pethau hen. Ond jyst i gael falle rhyw wersi i ddal lan gyda phethau fydd angen gwybod."

'Teimlo'n unig'

Dywedodd cyd-ddisgybl Sophie, Rhodri ei fod yn cael trafferth dysgu o gartref.

"Mewn dosbarth bydde ti'n gallu gofyn cwestiynau a chael ateb yn syth, ble os wyt ti ar-lein, ti'n gallu teimlo'n unig a falle ddim yn gallu cael yr atebion ti angen," meddai. "Felly ti ddim gyda'r cymhelliant i 'neud y gwaith a wedyn ti'n colli allan mwy."

Roedd Harry, hefyd ym Mlwyddyn 12, yn ei chael hi'n anodd addasu i ddysgu ar-lein i ddechrau. Dywedodd y byddai dal i fyny ag unrhyw addysg oedd wedi ei golli yn golygu bod athrawon yn gorfod rhoi mwy o amser i ddisgyblion.

"Mae na lawer o waith i 'neud," meddai. "Mae digon o amser i 'neud e ond oherwydd bod amser wedi cael ei dorri lan - ni mewn yn yr ysgol, ni bant o'r ysgol - ma'n galed i ni ffindio rhythm i orffen gwaith.

"Ma' fe jyst yn eitha' caled. Ond falle bydde cwpl o oriau'r wythnos i orffen gwaith sydd angen cael ei orffen yn syniad da i ni."

Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru bod "cefnogi dysgwyr trwy gydol ac ar 么l y pandemig yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru".

Maen nhw'n dweud eu bod nhw wedi darparu dros 拢150m o arian ychwanegol i addysg, gan gynnwys recriwtio mwy na 1,800 o athrawon a staff ysgol fel rhan o'r rhaglen mewn addysg.

Pynciau cysylltiedig