麻豆官网首页入口

Diodde' o Covid hir: 'Methu gweld ffordd allan'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Sue a Gareth PotterFfynhonnell y llun, Sue Potter

"Yn bendant roedd adegau yng nghanol y blinder pan o'n i'n methu gweld ffordd allan. Ydy fy mywyd byth yn mynd i fod yn normal eto? Ydw i byth yn mynd i allu gweithio eto? Roedd rheini'n ddyddiau tywyll iawn gyda llawer o bethau'n mynd 'mlaen yn fy mhen."

Erbyn hyn mae dros filiwn o bobl ym Mhrydain yn byw gyda Covid hir, gyda symptomau'n gallu para' wythnosau neu misoedd ar 么l i'r haint cychwynnol i fynd.

Un o'r rheini yw Sue Jackson Potter, 44, sy'n gweithio fel addurnwr setiau teledu. Bu Sue'n s芒l gyda symptomau Covid ym mis Mawrth 2020 ac ers hynny mae wedi bod yn byw gyda Covid hir.

Dyma ei stori hi.

Dechreuais deimlo'n wael iawn gyda symptomau Covid ym mis Mawrth 2020 wrth i'r cyfnod clo gychwyn.

Bues i yn y gwely am bythefnos yn methu symud na gwneud unrhyw beth. Ro'n i'n cael palpitations rhyfedd iawn ac roedd gen i beswch cas parhaol.

Ofn

Dwi'n cofio ar un adeg ysgrifennu holl fanylion y t欧 i lawr ar gyfer fy ng诺r Gareth (yr actor a'r canwr Gareth Potter).

Doedd neb yn gwybod beth oedd yn digwydd - roeddet ti'n clywed am bobl oedd yn iawn un munud, yna'n marw yn sydyn.

Roedd ofn arna'i mod i'n mynd i farw yn fy nghwsg - doedd neb yn gwybod sut oedd y feirws yma'n ymosod ar bobl.

Ro'n i'n hanner disgwyl bod yn methu anadlu unrhyw funud, yn enwedig gan mod i wedi cael problemau chest o'r blaen.

Ar 么l pythefnos o salwch ro'n i'n teimlo'n well ac am bythefnos ro'n i allan o'r gwely ac yn cerdded o gwmpas.

Ond ar 么l pythefnos ro'n i'n s芒l eto - n么l yn y gwely, yn cael cur pen ofnadwy, yn cysgu drwy'r amser ac yn dal i besychu.

Ar 么l pythefnos arall o salwch dechreuais deimlo ychydig yn well. Ond ym mis Mai, cefais relapse am y trydydd tro ond y tro hwn roedd y blinder fel wal. Roedd yn erchyll.

Ar un adeg roedd Gareth yn gorfod helpu fi i symud o amgylch y t欧. Yn y b么n, o'n i'n garcharor yn fy ystafell wely.

Os o'n i'n cael cawod, ro'n i'n cael fy llorio. Roedd rhaid i Gareth sychu fy ngwallt oherwydd doedd gen i ddim egni i ddal sychwr gwallt.

Dwi erioed wedi profi unrhyw beth felly o'r blaen, roedd yn teimlo fel cerdded drwy fwd.

Isafbwynt

Daeth diwrnod pan aeth y cyfan yn ormod a dwi'n meddwl mod i wedi cael panic attack. Roedd y ffaith fod fy nghorff yn cau i lawr wedi llethu fi cymaint do'n i ddim yn gallu siarad.

Ffynhonnell y llun, Sue Potter

Felly ar 25 Mai ro'n i yn yr ysbyty a gwnaethon nhw cymaint o brofion, x-rays a scans - ond yn y b么n doedden nhw ddim yn gwybod beth oedd yn bod.

Dywedon nhw fod rhywbeth yn fy ngwaed oedd yn cael ymateb autoimmune ac hefyd roedd blinder 么l-feiral arna'i. Ond heblaw am hynny doedden nhw ddim yn gwybod pam fod fy nghorff yn cau i lawr.

Roedd hynny'n gwneud i fi deimlo mod i'n mynd yn wallgof.

Hefyd o ddiddordeb

Brwydr yn parhau

O fis Mai hyd Hydref 2020, ro'n i'n brwydro 芒 Covid hir o ddydd i ddydd. Ro'n i wedi blino'n l芒n drwy'r amser a do'n i ddim yn gallu ffeindio'r help iawn yn unrhyw le.

Ro'n i'n teimlo fel mod i wedi cael fy nharo gan fws. Ar rai dyddiau 'nes i eistedd a chrio - mae'r blinder yn rhywbeth allwch chi ddim deall nes i chi ei brofi. Mae mor rhyfedd mynd o fod yn egn茂ol i fethu sefyll ar eich traed.

Yr unig beth achubodd fi oedd ffrind Gareth, Liz Thomas, oedd yn gwneud cwrs maethegydd. Rhoddodd Liz ei hamser i wrando arna'i ac argymell llawer o bethau i helpu fel supplements a diet iach.

Helpodd cyngor Liz fi i weld y golau ar ddiwedd y twnnel.

Diffyg deiagnosis

Nid oes unrhyw beth yn fy nodiadau meddygol sy'n dweud mod i'n byw gyda Covid hir oherwydd dwi ddim wedi cael diagnosis clinigol o Covid gan nad ydw i erioed wedi cael prawf positif. [Doedd dim profion ar gael i'r cyhoedd pan fu Sue yn s芒l gyda symptomau Covid ym mis Mawrth 2020.]

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Prawf Covid

Dwi wedi siarad 芒 fy meddygfa, sy' wedi bod yn gefnogol iawn, sawl gwaith ac roedd gen i ddau ymgynghorydd yn yr ysbyty.

Dwi ddim yn credu bod nhw'n [doctoriaid] gwybod sut i drin Covid hir.

Dyw Covid hir ddim am y blinder yn unig - roedd gen i boenau oedd yn symud o gwmpas fy nghorff o hyd, poenau yn fy nghoesau a chymalau a dwylo. Roedd gen i boenau yn fy mrest fel bod rhywun yn tynhau rhywbeth yno ac roedd y cur pen yn teimlo fel petai rhywun yn malu blaen fy mhen. Mae'n deimlad od iawn.

Dangosodd y sgan MRI yn yr ysbyty nad oedd unrhyw beth o'i le ar fy nghoesau er mod i'n cael trafferth sefyll i fyny. Mae'n anodd i ddeall y peth.

Ro'n i'n cadw gofyn i gael fy nghyfeirio at glinig Covid hir. Ond does dim byd felly yng Nghymru.

Doedd neb o'n i'n adnabod wedi cael Covid a fi oedd yr unig berson yn y swigen unig yma.

Dwi'n gweithio i fy hun felly roedd yn rhaid i fi wella fy hun a dychwelyd i'r gwaith. Y cyfan dw i eisiau ei wneud yw ceisio rheoli'r hyn sydd ar 么l gyda mi, sef y joints erchyll o boenus hyn.

Mae mynd i fyny ac i lawr y grisiau yn eithaf doniol gan fod yn rhaid i mi wneud un cam ar y tro - dwi'n 44 oed, dwi'n teimlo na ddylwn i fod yn hoblo o gwmpas fel hen wraig fach.

Etifeddiaeth

Doedd r'un ohonom yn disgwyl i Covid ddigwydd a doedd r'un ohonom yn disgwyl iddo adael yr etifeddiaeth yma.

Mae Covid hir wedi bod yn brofiad mor od a dwi wedi cael saith mis o uffern. Dwi'n teimlo mod i wedi dod allan yr ochr arall ond dwi dal ddim yn teimlo 'mod i wedi gwella'n llwyr nes i mi ddeall beth sy'n achosi'r inflammation rhyfedd yma yn fy nghorff.

Dwi am i bobl wybod bod yna olau ar ddiwedd y twnnel ond nid o reidrwydd drwy'r hyn y mae'r meddygon yn dweud wrth bobl.

Y cyfan maen nhw'n gallu gwneud yw cynnig tabledi ac nid dyna'r ffordd ymlaen i mi.

Pynciau cysylltiedig